Sut ydw i’n ailosod fy nghyfrinair fel myfyriwr?

Os gwnaethoch greu eich cyfrif Canvas eich hun, gallwch ailosod eich cyfrinair trwy ddolen yn yr e-bost i ofyn am gyfrinair.

Os cafodd eich manylion mewngofnodi eu darparu gan eich sefydliad, mae'n bosib na fydd modd i chi ailosod eich cyfrinair Canvas eich hun. Hefyd, os ydych chi'n mewngofnodi i Canvas gan ddefnyddio system ddilysu eich sefydliad, mae'n bosib y bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair gan ddefnyddio gwefan eich sefydliad. Os byddwch chi'n gofyn am ailosod eich cyfrinair ac nad oes gan yr e-bost ddolen i ailosod y cyfrinair, yna bydd yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost Canvas a'r sefydliad a ddarparodd eich cyfrinair. I newid neu gadarnhau eich cyfrinair, cysylltwch â gweinyddwr system eich sefydliad.

Nodiadau:

  • Gall e-bost i ailosod cyfrinair gymryd hyd at bum munud i gyrraedd blwch derbyn eich e-bost.
  • Mae negeseuon e-bost i ailosod cyfrinair yn dod i ben ar ôl dwy awr.
  • Os gallwch chi fewngofnodi i Canvas a’ch bod chi eisiau newid eich cyfrinair, ewch i’r wers Sut ydw i’n newid fy nghyfrinair mewngofnodi fel myfyriwr?.

Gwallau E-bost

Os ydych chi wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost a heb gael e-bost i ailosod cyfrinair, darllenwch yr awgrymiadau canlynol.

  • Ydych chi wedi teipio eich cyfeiriad e-bost yn gywir? Weithiau, bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu camsillafu. Mae angen mewnosod cyfeiriadau e-bost yn union fel y cawsant eu cofrestru.
  • Ydych chi'n ceisio cael mynediad at yr URL Canvas cywir? Ni fyddwch yn derbyn yr e-bost ailosod os ydych chi'n ceisio ailosod eich cyfrinair ar wefan nad ydych chi wedi ymrestru arni (fel canvas.instructure.com yn hytrach na myinstitution.instructure.com).
  • Ydy eich e-bost Canvas yn cael ei noddi gan eich sefydliad? Os yw eich cyfeiriad e-bost yn rhan o system mur cadarn campws sy'n rhwystro negeseuon e-bost gan anfonwyr sy'n anfon at lawer o bobl ar yr un pryd, ni fyddwch yn gallu derbyn yr e-bost. Cysylltwch ag adran TG eich sefydliad am gymorth.
  • Ai chi yw perchennog eich cyfeiriad e-bost? Os mai rhywun arall sy'n berchen ar eich cyfeiriad e-bost ac nad ydych chi'n gallu derbyn negeseuon e-bost ar gyfer y cyfeiriad hwnnw, ni fyddwch yn gallu cael yr e-bost ailosod. Cysylltwch â pherchennog y cyfeiriad e-bost am gymorth.

Ailosod Cyfrinair

Ailosod Cyfrinair

Mewn ffenestr newydd yn y porwr, agorwch eich tudalen fewngofnodi Canvas. Cliciwch y ddolen Wedi anghofio’r cyfrinair? (Forgot Password?).

Nodyn: Os nad yw eich sgrin fewngofnodi yn dangos y ddolen ailosod cyfrinair, cysylltwch â'ch sefydliad am gymorth.

Gofyn am Gyfrinair

Gofyn am Gyfrinair

Rhowch yr wybodaeth fewngofnodi sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif Canvas a chlicio'r botwm Gofyn am Gyfrinair (Request Password).

Nodyn: Mae'r maes ailosod cyfrinair yn cadarnhau gwybodaeth ailosod cyfrinair trwy fewngofnodi defnyddiwr. Gall eich manylion mewngofnodi amrywio, gan ddibynnu ar eich sefydliad.

Gweld Hysbysiad Adfer Cyfrinair

Gweld Hysbysiad Adfer Cyfrinair

Mae hysbysiad yn ymddangos yn dweud y bydd yn cymryd hyd at 30 munud i anfon cyfarwyddiadau adfer cyfrinair i’ch e-bost a’i bod y bosib y bydd angen i chi edych yn eich ffolder sbam i ddod o hyd i’r neges e-bost.

Edrychwch ar eich E-bost

Edrychwch ar eich E-bost

Ewch yn ôl i'ch cyfrif e-bost a mewngofnodi. Agorwch yr e-bost Wedi anghofio’r cyfrinair (Forgot Password). (Os nad yw'r e-bost yn eich blwch derbyn, edrychwch yn eich ffolder sbam.)

Os yw eich manylion mewngofnodi defnyddiwr yn gysylltiedig â mwy nag un cyfeiriad e-bost, bydd y cyfarwyddiadau ailosod cyfrinair yn cael eu hanfon i bob cyfeiriad.

Newid Cyfrinair

Newid Cyfrinair

Rhowch gyfrinair newydd ac yna cadarnhau'r cyfrinair trwy ei roi eto. Cliciwch y botwm Diweddaru Cyfrinair (Update Password).

Mewngofnodi i Canvas

Mewngofnodi i Canvas

Gyda'ch manylion mewngofnodi a'ch cyfrinair newydd, mewngofnodwch i Canvas.