Sut ydw i’n gweld pob un o fy nghyrsiau Canvas fel myfyriwr?

Ar ôl mewngofnodi i Canvas, gallwch weld eich cyrsiau presennol. Efallai y byddwch hefyd yn gallu gweld y cyrsiau blaenorol a’r cyrsiau yn y dyfodol rydych chi wedi ymrestru ar eu cyfer yn Canvas.

Note: Efallai y bydd rhai sefydliadau yn cyfyngu ar yr opsiwn i weld neu gael mynediad at gyrsiau yn y dyfodol cyn y dyddiadau cyfranogiad a/neu gyfyngu ar yr opsiwn i gael mynediad at gyrsiau sydd wedi dirwyn i ben ar ôl iddyn nhw orffen.

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch y ddolen Pob Cwrs (All Courses) [2].

Gweld Cyrsiau

Caiff cyrsiau eu trefnu yn ôl Pob Cwrs (All Courses) [1], Ymrestriadau Blaenorol (Past Enrollments) [2], Ymrestriadau yn y Dyfodol (Future Enrollments) [3] a Grwpiau (Groups) [4].

Mae cyrsiau a grwpiau yn cael eu trefnu yn ôl yr wyddor yn ôl enw’r cwrs neu’r grŵp.

Gweld Pob Cwrs

Mae’r opsiwn Pob Cwrs yn cynnwys y cyrsiau sy’n rhan o’r semester neu’r tymor presennol. Fodd bynnag, yn ddibynnol ar y gosodiadau mynediad ar gyfer cwrs, gall Fy Nghyrsiau hefyd ddangos cyrsiau nad ydynt wedi dechrau eto neu rai sydd heb eu cyhoeddi.

Mae'r cyrsiau gweithredol sydd ar gael i chi wedi eu rhestru mewn ysgrifen las [1]. Mae'r cyrsiau hyn wedi cael eu cyhoeddi ac yn cynnwys dolen i’r cwrs. I agor cwrs, cliciwch enw’r cwrs. Mae’r cyrsiau sydd o fewn dyddiadau’r tymor presennol, ond sydd ddim ar gael eto, wedi’u rhestru mewn ysgrifen ddu [2]. Dydy'r cyrsiau hyn ddim wedi’u cyhoeddi.

Gallwch hefyd weld unrhyw enwau byr rydych chi wedi’u creu ar gyfer cyrsiau [3].

Os yw cwrs yn cynnwys dyddiad tymor [4], yna mae’r dyddiad tymor yn ymddangos drws nesaf i enw’r cwrs.

Mae pob cwrs yn cynnwys eich statws ymrestru [5]. Mae modd cael statws myfyriwr, athro, cynorthwyydd dysgu, arsyllwr, dylunydd, neu rôl bersonol wedi'i chreu gan eich sefydliad.

Yn yr adran Pob Cwrs, gallwch addasu eich rhestr cyrsiau a marcio cyrsiau fel ffefrynnau [6]. Mae hoff gyrsiau yn ymddangos ar y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau.

Gweld Ymrestriadau Blaenorol

Mae'r cyrsiau o dan y pennawd Ymrestriadau Blaenorol (Past Enrollments) wedi dirwyn i ben ond maen nhw’n dal ar gael fel cyrsiau darllen-yn-unig wedi'u harchifo. Gallwch chi weld graddau a deunydd cyrsiau ond ni allwch gyfrannu at y cwrs mwyach.

Note: Efallai na fydd rhai sefydliadau’n gadael i ymrestriadau blaenorol ymddangos ar y dudalen Cyrsiau.

Gweld Ymrestriadau yn y Dyfodol

Ystyr Ymrestriadau yn y Dyfodol yw cyrsiau a fydd ar gael fel rhan o dymor sydd i ddod neu sydd â dyddiad dechrau penodol. Gall cyrsiau yn y dyfodol fod yn rhai wedi’u cyhoeddi, neu heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai sefydliadau yn eich rhwystro rhag gweld cyrsiau wedi’u cyhoeddi cyn y dyddiad dechrau.

Os bydd cwrs yn y dyfodol yn cynnwys dolen [1], gallwch weld cynnwys y cwrs ond ni allwch gymryd rhan yn llawn yn y cwrs tan y dyddiad dechrau. Mae cymryd rhan lawn yn cynnwys cyflwyno aseiniadau ac ymateb i drafodaethau.

Os nad yw cwrs yn y dyfodol yn cynnwys dolen [2], ni fydd modd gweld y cwrs tan y dyddiad dechrau.

Note: Efallai na fydd rhai sefydliadau’n gadael i ymrestriadau yn y dyfodol ymddangos ar y dudalen Cyrsiau (Courses).

Gweld Grwpiau

Os ydych chi wedi ymrestru mewn grwpiau, bydd yr adran Grwpiau (Groups) yn dangos unrhyw grwpiau sy’n rhan o’ch cyrsiau presennol. Mae modd gweld eich holl grwpiau yn eich rhestr grwpiau.

Canfod ID Cwrs

Canfod ID Cwrs

Gallwch chi ddod o hyd i’ch rhif ID Cwrs ar ddiwedd eich URL cwrs (ee, canvas.instructure.com/courses/XXXXXX).