Sut ydw i’n defnyddio’r rhestr tasgau i’w gwneud ar gyfer fy nghyrsiau yn y Dangosfwrdd Gwedd Rhestr fel myfyriwr?

Mae'r Dangosfwrdd Gwedd Rhestr yn dangos yr holl eitemau Tasgau I'w Gwneud mewn cwrs, a hynny mewn gwedd agenda er mwyn eich helpu i reoli tasgau yn hawdd ym mhob un o'ch cyrsiau. Mae'r rhestr Tasgau i'w Gwneud yn cynnwys eitemau I'w Gwneud wedi'u graddio a heb eu graddio y mae eich addysgwr wedi'u neilltuo ar gyfer rhestr Tasgau i'w Gwneud y cwrs. Gallwch hefyd ychwanegu a gweld eich eitemau I'w Gwneud yn y Dangosfwrdd. Mae'r Dangosfwrdd Gwedd Rhestr hefyd yn dangos digwyddiadau yn y calendr a chyhoeddiadau cwrs.

Nodiadau:

  • Dydy'r Dangosfwrdd Gwedd Rhestr ddim yn ystyried ffefrynnau cwrs ac mae'n dangos pob eitem yn ôl dyddiad, ID cwrs, dyddiad erbyn, ac amser erbyn.
  • Hefyd, mae modd gweld eitemau I'w Gwneud yn y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau ac yn y Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar.

Agor Gwedd Rhestr

I agor Gwedd Rhestr y Dangosfwrdd, cliciwch yr eicon the Opsiynau [1] a dewis yr opsiwn Gwedd Rhestr (List View) [2].

Nodyn: Yn dibynnu ar osodiadau eich sefydliad, mae'n bosib y bydd eich Dangosfwrdd yn dangos Gwedd Rhestr yn ddiofyn.

Gweld Gwedd Rhestr

Mae'r Dangosfwrdd Gwedd Rhestr yn dangos y dyddiad presennol yn ddiofyn [1].

I weld dyddiadau yn y gorffennol ac yn y dyfodol, sgroliwch i fyny ac i lawr y dudalen [2].

I ddychwelyd at Dasgau i'w Gwneud y diwrnod presennol, cliciwch y botwm Heddiw (Today) [3].

I gael mynediad at eitemau blaenorol gyda gweithgarwch newydd, cliciwch y botwm Gweithgarwch Newydd (New Activity) [4].  

Gweld Manylion Eitem

Pan fydd mwy nag un cwrs yn cynnwys eitemau I'w Gwneud ar yr un dyddiad, bydd cyrsiau yn cael eu rhestru yn ôl Enw'r Cwrs ac eitemau yn cael eu rhestru yn ôl amser erbyn [1].

Mae eitemau wedi'u graddio yn dangos gwerth y pwyntiau ar gyfer yr eitem wedi'i graddio [2].

Mae eitemau I'w Gwneud yn cynnwys eiconau sy'n cynrychioli'r math o eitem:

  • Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr (Peer Review) [3]
  • Digwyddiad Calendr [4]
  • Cyhoeddiad [5]
  • Aseiniad (Assignment) [6]
  • Tudalen (Page) [7]
  • Trafodaeth (Discussion) [8]
  • Cwis (Quiz) [9]

Agor Eitem

I gael mynediad at eitem ar y rhestr Tasgau i’w Gwneud, cliciwch enw'r eitem[1].

I weld tudalen hafan cwrs, cliciwch enw’r cwrs [2].

Ymuno â Digwyddiad Cynhadledd

Os yw eich addysgwr wedi ychwanegu dolen gynadledda at ddigwyddiad calendr, gallwch chi ymuno â’r gynhadledd o’r Dangosfwrdd Gweld Rhestr.

Mae gan gynadleddau sydd wedi bod neu sydd heb ddechrau fotwm Ymuno llwyd.

I ymuno â chynhadledd weithredol, cliciwch y botwm Ymuno (Join) gwyrdd [2].

Gweld Gweithgarwch a Statws Eitem

Mae'r Wedd Rhestr yn cynnwys labeli ac eiconau i ddangos gweithgarwch a statws eitem

Bydd eitemau sydd â gweithgarwch newydd yn cynnwys y dangosydd Heb ei ddarllen [1] ac yn cynnwys label gweithgarwch. Gall gweithgarwch newydd gynnwys un o'r labeli canlynol neu'r cwbl:

  • Wedi'i Raddio (Graded) [2]: mae cyflwyniad wedi'i raddio
  • Atebion (Replies) [3]: mae gan gyhoeddiad neu drafodaeth atebion newydd
  • Adborth (Feedback) [4]: mae gan eitem wedi'i graddio adborth newydd gan addysgwr trwy sylwadau ar y cyflwyniad (nid yw'n ymddangos os yw adborth trwy anodiadau DocViewer yn unig)

Unwaith y bydd eitem wedi'i graddio wedi mynd heibio i’r dyddiad erbyn, bydd yr eitem yn cynnwys dangosydd Ar Goll [5] a label Ar Goll [6].

Bydd eitemau Ar Goll sy'n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn yn cynnwys y label Hwyr [7].

Os yw eich addysgwr wedi ail-neilltuo aseiniad i chi, mae’r eitem yn dangos label Ail-wneud [8]. Rhaid i chi ailgyflwyno eich aseiniad.

Marcio fod Eitem wedi’i Chwblhau.

Mae eitemau wedi'u graddio yn cael eu marcio fel rhai wedi'u cwblhau yn awtomatig ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Rhaid i rywun farcio bad eitemau sydd heb eu graddio wedi'u cwblhau.

I fynd ati'ch hun i farcio bod eitem wedi'i chwblhau, cliciwch flwch ticio (checkbox) yr eitem [1]. Pan fyddwch chi'n marcio eitem eich hun, bydd statws yr eitem yn diweddaru pan fyddwch chi'n adnewyddu'r dudalen.

Mae eitemau I'w Gwneud sydd wedi'u cwblhau yn aros ar y rhestr Tasgau i'w Gwneud i chi eu gweld unrhyw bryd. I weld gwybodaeth am eitemau I'w Gwneud sydd wedi'u cwblhau, cliciwch y ddolen Dangos eitem wedi'i chwblhau (Show completed item) [2]. Mae eitemau wedi'u cwblhau yn dangos blwch ticio wedi'i lenwi [3]. I weld gwybodaeth eitem wedi'i chwblhau, cliciwch enw’r eitem [4]. Y tro nesaf y byddwch yn adnewyddu'r dudalen, bydd yr eitemau sydd wedi'u cwblhau yn cael eu cuddio o fen y ddolen wedi'i chwblhau unwaith eto.

Gweld Dewislen Rhybuddion

Gweld Dewislen Rhybuddion

I weld rhestr o eitemau wedi'u graddio ar eich cyrsiau sydd wedi mynd heibio i’r diwrnod cyflwyno, cliciwch y botwm Dewislen Rhybudd (Alert Menu) [1]. Mae'r ddewislen Rhybudd yn eich helpu i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i chi wella eich graddau ar y cwrs.

I weld eitemau rhybudd newydd, cliciwch y ddolen Newydd (New) [2]. Gallwch ddiystyru eitemau rhybudd newydd drwy glicio'r eicon Tynnu (Remove) [3]. Dydy diystyru eitem rhybudd newydd ddim yn effeithio ar ei statws nac yn ei macio wedi'i chwblhau.

I weld eitemau rhybudd sydd wedi'u diystyru, cliciwch y ddolen Wedi Diystyru (Dismissed) [4].

Gweld Graddau

I weld eich graddau presennol ar y cwrs, cliciwch yr eicon Llyfr Graddau (Gradebook) [1]. Mae'r ddewislen Fy Ngraddau yn dangos eich graddau presennol ar y cwrs [2]. Cliciwch ddolen enw'r cwrs i weld y dudalen Graddau ar gyfer eich cwrs [3].

Nodyn: Os oes un o'ch cyrsiau yn defnyddio cyfnodau graddio, y radd sydd i'w gweld yw'r radd ar gyfer y cyfnod graddio cyfredol.

Gweld Eitemau I'w Gwneud

Gallwch ychwanegu eich eitemau I'w Gwneud i'r Dangosfwrdd. Mae eitemau sy'n gysylltiedig â chwrs i'w gweld fel rhan o eitemau'r cwrs ac maent yn cael eu trefnu yn ôl dyddiad erbyn [1]. Mae eitemau cyffredinol i'w gwneud wastad wedi'u lleoli o dan yr holl gyrsiau [2]. Gellir golygu eitemau i'w gwneud unrhyw bryd trwy glicio'r eicon Golygu [3].

I ychwanegu eitem i’w gwneud, cliciwch yr eicon Ychwanegu Eitem (Add Item) [4].

Nodyn: Hefyd, gallwch ddefnyddio'r Calendr i ychwanegu eitemau i'w gwneud, a byddant i'w gweld yn y Dangosfwrdd Gwedd Rhestr.

Newid Dangosfwrdd

Newid Dangosfwrdd

I newid y dangosfwrdd unrhyw bryd, cliciwch y ddewislen Opsiynau (Options).