Sut ydw i’n cael sgorau bras ar gyfer fy aseiniad gyda’r nodwedd Graddau Beth-os?

Fel myfyriwr, gallwch weld eich graddau ar sail sgorau Beth-os er mwyn gwybod sut bydd aseiniadau sydd ar y gweill neu sydd wedi’u hailgyflwyno yn effeithio ar y graddau. Gallwch brofi sgorau ar gyfer aseiniad sydd eisoes yn cynnwys sgôr, neu aseiniad sydd heb gael ei raddio eto.

Nodiadau:

  • Mae Sgorau Beth-os yn ysgogi diweddariadau i’ch graddau presennol a'r graddau terfynol. Gan ddibynnu ar ddull cyfrifo'r radd ar gyfer eich cwrs, gall eich graddau ymddangos fel gwerth pwynt neu fel canran.
  • Gall eich addysgwr eich atal chi rhag gweld eich graddau presennol a/neu raddau terfynol.
  • Os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad, efallai mai dim ond data meintiol y bydd gennych chi hawl i’w weld, fel graddau llythyren a sylwadau graddio.

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Gweld Gradd Bresennol neu Radd Gyflawn

Mae modd i chi weld y graddau sydd gennych chi’n barod i weld sut bydd sgorau bras yn effeithio ar eich gradd.

Os yw ar gael, bydd eich gradd bresennol yn cael ei dangos yn y bar ochr [1]. Caiff y radd bresennol ei chyfrifo drwy adio’r aseiniadau sydd wedi eu graddio yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs, a daw hyn i rym wrth dicio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) [2] yn y bar ochr. Mae'r blwch ticio hwn yn cael ei ddewis yn y bar ochr yn ddiofyn.

Os ydych chi am weld eich gradd gyflawn, mae angen i chi dynnu’r tic o’r blwch ticio yn y bar ochr. Caiff eich gradd ei chyfrifo ar sail aseiniadau wedi'u graddio ac aseiniadau heb eu graddio.

Gweld Cyfnodau Graddio

Gweld Cyfnodau Graddio

Os yw eich addysgwr yn defnyddio cyfnodau graddio, mae tudalen y graddau’n dangos y cyfnod graddio presennol yn ddiofyn. I newid cyfnodau graddio, cliciwch y gwymplen Cyfnod Graddio (Grading Period) [1]. Cliciwch y botwm Defnyddio (Apply) [2].

Sgôr Aseiniad Prawf

Chwiliwch am yr aseiniad a chlicio cell y sgôr.

Rhoi Sgôr Beth-os

Rhowch sgôr ddamcaniaethol ar gyfer yr aseiniad.

Gweld Graddau Beth-os

Mae’r dudalen Graddau (Grades) yn diweddaru'r sgôr gyflawn â'r radd Beth-os (What-If ).

Mynd yn ôl i’r sgôr go iawn

I fynd o’ch Sgôr Beth-os i’ch sgôr go iawn, cliciwch y saeth sydd wrth ymyl y radd Beth-os [1]. Gallwch chi newid sgorau yn ôl yn y bar ochr drwy glicio'r botwm Mynd yn ôl i’r sgôr go iawn (Revert to Actual Score) [2].

Dangos Sgorau Beth-os sydd wedi’u cadw

Dangos Sgorau Beth-os sydd wedi’u cadw

I weld eich graddau gydag unrhyw sgorau “Beth-os” rydych chi wedi eu profi ar eich cwrs, cliciwch y botwm Dangos Sgorau “Beth-os” sydd wedi’u cadw (Show Saved What-If Scores).