Sut ydw i’n gweld Modiwlau fel myfyriwr?

Bydd rhai addysgwyr yn defnyddio modiwlau i drefnu’r cwrs. Mae modiwlau yn rheoli holl lif y cwrs ynghyd â’i gynnwys.

Nodyn: Efallai y bydd eich addysgwr yn dewis cuddio’r ddolen Modiwlau (Modules) yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Os nad yw’r ddolen Modiwlau (Modules) ar gael, byddwch yn dal yn gallu cael mynediad at eitemau Modiwl drwy rannau eraill o Canvas, fel y Maes Llafur (Syllabus) neu Dudalen Hafan y Cwrs (Course Home Page). Neu, mae’n bosib y bydd eich addysgwr yn dewis cuddio pob dolen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation) heb law am y rhai ar gyfer Modiwlau (Modules). Os nad oes dolenni Crwydro'r Cwrs (Course Navigation) eraill ar gael, mae eich addysgwr am i chi grwydro’r cwrs gan ddefnyddio’r adran Modiwlau (Modules).

Agor Modiwlau

Agor Modiwlau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).

Gweld Modiwlau

Yn yr adran Modiwlau (Modules), gallwch weld pob modiwl yn eich cwrs. Mae modiwlau’n cael eu trefnu yn ôl cynnydd.

Mae eitemau cynnwys pob modiwl yn cael eu cadw yn yr adran Modiwlau (Modules).

I ehangu neu grebachu pob modiwl, cliciwch y botwm Ehangu Pob Un/Crebachu Pob Un [1].

I ehangu neu grebachu modiwlau unigol, cliciwch y saethau Ehangu neu Grebachu modiwl.

Os byddwch chi’n dewis crebachu neu ehangu un neu ragor o fodiwlau, bydd y Dudalen Mynegai Modiwlau yn cofnodi cyflwr pob modiwl.

Nodiadau:

  • Mae’r botwm Crebachu Pob Un i’w weld os oes un neu ragor o fodiwlau wedi’u hehangu. Mae’r botwm Ehangu Pob Un i’w weld os ydy pob modiwl wedi’i grebachu.
  • Mae'r dudalen Modiwlau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.

 

Gweld Modiwl wedi'i Gloi

Gweld Modiwl wedi'i Gloi

Mae’n bosib y bydd eich addysgwr yn cloi modiwl hyd at ddyddiad penodol. Mae modiwlau wedi’u cloi yn dangos eicon Wedi cloi (Locked) [1] a dyddiad datgloi [2].

Gweld Eiconau Modiwlau

Gweld Eiconau Modiwlau

Mae modd llenwi modiwlau â chynnwys amrywiol. Mae pob eitem modiwl hefyd yn cynnwys eicon o’i fath:  

  • Tudalen (Page) [1]: tudalen o gynnwys i’w ddarllen
  • Trafodaeth (Discussion) [2]: trafodaeth cwrs
  • Cwis (Quiz) [3]: cwis cwrs
  • Aseiniad (Assignment) [4]: aseiniad cwrs
  • Dolen neu Adnodd Allanol (Link or External Tool) [5]: dolen neu adnodd allanol i weld y tu allan i’r cwrs
  • Ffeil (File) [6]: ffeil i’w llwytho i lawr neu i’w gweld

Gweld Gofynion

Gweld Gofynion

Os yw modiwl yn cynnwys gofynion, bydd y pennawd yn dangos a ddylech chi gwblhau pob gofyniad neu ddewis un gofyniad [1].

Wrth ymyl yr eitem modiwl, gallwch weld y math o ofyniad sydd ei angen i gwblhau’r eitem modiwl [2]. Rhaid i chi gwblhau pob eitem modiwl gofynnol cyn gallu symud ymlaen i’r modiwl nesaf. Mae’n bosib y bydd rhai modiwlau yn gofyn i chi gwblhau’r eitemau modiwl mewn trefn.

Yn dibynnu ar y math o eitem modiwl, gall y gofynion gynnwys hyd at bum opsiwn:

  • Gweld: Rhaid i chi weld yr eitem.
  • Marcio ei bod wedi’i gwneud: Rhaid i chi farcio bod yr eitem modiwl wedi’i gwneud cyn symud ymlaen i’r eitem nesaf.
  • Cyfrannu: Rhaid i chi ymateb i’r pwnc trafod neu gyfrannu cynnwys at dudalen.
  • Cyflwyno: Rhaid i chi gyflwyno’r aseiniad, trafodaeth wedi’i graddio, neu gwis.
  • Sgorio o leiaf X: Rhaid i chi gyflwyno’r aseiniad gydag o leiaf y sgôr a ddangosir.

Gweld Eiconau Cynnydd

Gweld Eiconau Cynnydd

Hefyd, mae modd defnyddio eitemau modiwl i ddangos cynnydd drwy fodiwl. Mae modiwlau a/neu eitemau modiwl sydd ddim ar gael i chi yn llwyd.

Ar gyfer unrhyw eicon modiwl, gallwch hofran dros yr eicon i weld neges ar gyfer y gofyniad.

Gall ystyr eiconau newid, yn dibynnu a yw eich cwrs yn defnyddio gofynion:

  • Eicon dash oren [1]: pan fydd wrth ymyl eitem modiwl, mae’r eitem modiwl yn hwyr. Pan fydd wrth ymyl pennawd y modiwl, dydy gofynion y modiwl ddim wedi’u bodloni.
  • Tic gwyrdd [2]: mae’r eitem modiwl wedi’i chwblhau. Ar gyfer gofynion, mae’r eicon hwn yn golygu bod gofyniad y modiwl wedi’i fodloni.
  • Eicon gwybodaeth glas [3]: mae’r eitem modiwl wedi’i chyflwyno, ond heb ei graddio eto.
  • Label opsiynau (Options) [4]: mae’r eitem modiwl yn gofyn i chi ddewis llwybr aseiniad cyn bod modd dangos eitemau modiwl ychwanegol.
  • Cylch gwyn [5]: dydy’r eitem modiwl ddim wedi’i dechrau.
  • Eicon cloi [6]:mae’r modiwl wedi’i gloi am y tro. Ar gyfer rhagofynion, mae’r eicon hwn yn golygu nad yw’r modiwl blaenorol wedi cael ei orffen ac felly does dim modd ei weld.
  • Neges cloi (Locked) [7]: mae’n bosib bod y modiwl yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol nad oes modd cael mynediad ati nes bod yr aseiniad yn y neges wedi’i raddio.

Gweld Eitem Modiwl Unigol

Gweld Eitem Modiwl Unigol

Mae pob modiwl yn cynnwys eitemau modiwl. Mae pob eitem yn cynnwys enw’r eitem modiwl [1]. Bydd eitemau’n dangos y dyddiad erbyn (os oes un) [2], a sawl pwynt y mae’r aseiniad ei werth [3]. Os cafodd dyddiad Tasgau i’w Gwneud ei ychwanegu at eitem heb ei raddio, yna bydd y dyddiad yn ymddangos wrth yr eitem modiwl [4].

Nodyn: Os yw eich addysgwr wedi cynnwys cwis heb ei gyhoeddi yn y modiwl, fydd dim modd i chi weld y pwyntiau posib na chwestiynau’r cwis nes bod y cwis wedi’i gyhoeddi

Agor Eitem Modiwl

Agor Eitem Modiwl

I ddechrau modiwl, cliciwch yr eitem gyntaf yn y modiwl.