Sut ydw i’n ymateb i drafodaeth fel myfyriwr?

Gallwch ymateb yn hawdd i unrhyw drafodaeth. Ond, gall yr opsiwn ymateb amrywio yn ôl sut y mae eich addysgwr wedi gosod y drafodaeth. Mae modd golygu neu ddileu atebion trafodaethau, ar yr amod bod eich addysgwr heb gyfyngu’r gosodiad hwn yn eich cwrs.

Cyn cyflwyno ateb i drafodaeth wedi’i graddio, efallai yr hoffech chi adolygu holl wybodaeth y drafodaeth, fel cyfarwyddyd sgorio’r drafodaeth wedi’i graddio, os oes un.

Nodiadau:

  • Mae Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) ar gyfer ateb trafodaeth yn dangos cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.
  • Os yw eich trafodaeth yn edrych yn wahanol i’r hyn sydd i’w weld yn y wers hon, efallai fod eich addysgwr yn defnyddio Ailddylunio Trafodaethau yn eich cwrs. Dysgwch sut i ymateb i drafodaeth yn Ailddylunio Trafodaethau.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Agor Trafodaeth

Cliciwch deitl y drafodaeth.

Ymateb i Drafodaeth

Ymateb i Drafodaeth

I ymateb i’r brif drafodaeth, teipiwch eich ymateb yn y maes Ymateb (Reply).

Postio Ymateb

Postio Ymateb

Ychwanegu eich ymateb, dolenni, ffeiliau a chyfryngau eraill at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. Os yw eich cwrs yn ei ganiatáu, gallwch chi hefyd atodi ffeiliau [2].  

I bostio eich ymateb, cliciwch y botwm Postio Ymateb (Post Reply) [3].

Nodwch: Os byddwch chi’n postio eich ymateb i drafodaeth cyn i ddelwedd atodol orffen llwytho i fyny, mae Canvas yn dangos neges rhybudd.

Gweld eich Ymateb

Gweld eich Ymateb

Bydd eich ymateb yn cael ei bostio ar waelod yr edefyn ymateb i drafodaeth. Bydd border eich post yn fflachio i ddangos ei fod wedi cael ei bostio’n ddiweddar. Bydd yr eicon heb eu darllen drws nesaf i’ch post yn troi i’r eicon wedi’u darllen yn syth os bydd Canvas yn marcio bod eich post wedi’i ddarllen yn awtomatig. Ond, os ydych chi’n mynd ati eich hun i farcio bod y post wedi’i ddarllen, bydd yr eicon heb eu darllen eicon yn aros nes eich bod yn ei farcio wedi’i ddarllen.

Ymateb i Drafodaeth ac Edefyn

Ymateb i Sylw mewn Trafodaeth Benodol

I ymateb i ymateb i drafodaeth, ciciwch y ddolen Ymateb (Reply).

Nodwch: Yn dibynnu ar sut mae eich addysgwr wedi gosod y drafodaeth , mae’n bosib y bydd y maes ateb yn edrych ychydig yn wahanol.

Postio Ymateb

Postio Ymateb

Ychwanegu eich ymateb, dolenni, ffeiliau a chyfryngau eraill at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. Os yw eich cwrs yn ei ganiatáu, gallwch chi hefyd atodi ffeiliau [2].  

I bostio eich ymateb, cliciwch y botwm Postio Ymateb (Post Reply) [3].

Nodwch: Os byddwch chi’n postio eich ymateb i drafodaeth cyn i ddelwedd atodol orffen llwytho i fyny, mae Canvas yn dangos neges rhybudd.

Gweld Ateb

Gweld Ateb

Bydd eich ymateb yn ymddangos ar waelod edefyn y drafodaeth. Os yw eich ymatebion i drafodaethau yn cael eu marcio eu bod wedi’u darllen yn awtomatig, bydd eich ymateb newydd yn dangos eicon Wedi’u darllen (Read) [1]. Os ydych chi wedi dewis marcio postiadau sydd wedi cael eu darllen eich hun, bydd eich ymateb yn dangos eicon Heb eu darllen (Unread) [2] nes eich bod chi’n ei farcio wedi’i ddarllen eich hun.