Gallwch chi lwytho ffeiliau i fyny o’ch cyfrifiadur i ddolen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.
Yn ddiofyn, mae dolenni dogfennau wedi’u plannu yn dangos eicon sy’n gadael i ddefnyddwyr weld rhagolwg o’r ddogfen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gallwch chi analluogi’r rhagolwg mewn-llinell neu agor y rhagolwg mewn-llinell yn awtomatig.
Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu ALT+FN+F8 (Bysellfwrdd Mac).
I lwytho dogfen i fyny o’r bar offer, cliciwch yr eicon Dogfen (Document) [1].
Gallwch chi hefyd lwytho delwedd i fyny o’r ddewislen opsiynau dogfennau. I weld opsiynau dogfen ychwanegol, cliciwch y saeth Opsiynau Dogfen (Document Options) [2]. Yna dewiswch yr opsiwn Llwytho Dogfen i Fyny (Upload Document) [3].
I weld yr eicon Dogfen, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [4].
Cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [1]. Crwydrwch i weld yr opsiynau Dogfen (Document [2], a dewiswch yr opsiwn Llwytho Dogfen i Fyny (Upload Document) [3].
Cliciwch i bori eich ffeiliau [1] neu llusgwch a gollyngwch ffeil cyfryngau i’r adnodd llwytho cyfryngau fyny [2] er mwyn llwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur.
Dewiswch y ffeil dogfen [1] a chliciwch y botwm Agor (Open) [2].
Os yw’n ofynnol yn eich sefydliad, bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich dogfen.
Yn y gwymplen Hawliau Defnydddio (Usage Right) [1], dewiswch un o’r pum hawl defnyddio canlynol:
Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [2].
Nodyn: Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch dogfen, gofynwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor.
I lwytho i fyny’r ddogfen sydd gennych chi dan sylw, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Nodyn: Bydd y ffeil yn fflachio cyn iddi gael ei phlannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Gweld dolen i’ch ffeil wedi’i llwytho i fyny yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
I reoli opsiynau ar gyfer y ddolen, cliciwch deitl y ddolen a chlicio’r ddolen Opsiynau Dolen (Link Options) [2].
Gallwch chi olygu testun y ddolen yn y maes Testun (Text) [1] neu gysylltu’r URL yn y maes Dolen (Link) [2].
Gallwch chi ddewis dangos rhagolwg o ffeil mewn ffenestr naid neu mewn rhagolwg mewn-llinell pan fyddwch chi’n clicio ar y ddolen. Gallwch chi hefyd ddewis ehangu rhagolwg mewn-llinell yn ddiofyn.
I adael i ddefnyddwyr weld rhagolwg o ffeil mewn ffenestr naid pan fyddan nhw’n clicio ar y ddolen, dewiswch yn opsiwn Rhagolwg mewn gorchudd (Preview in overlay) [3].
I adael i ddefnyddwyr weld rhagolwg mewn-llinell pan fyddan nhw’n clicio ar y ddolen, dewiswch yn opsiwn Rhagolwg mewn-llinell (Preview inline) [4]. I ehangu’r rhagolwg mewn-llinell yn ddiofyn, cliciwch y blwch ticio Ehangu rhagolwg yn ddiofyn (Expand preview by Default) [5].
I gadw opsiynau dolen, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [6].
Nodiadau:
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
I weld rhagolwg o’r ffeil, cliciwch y ddolen ffeil [1].
I lwytho’r ddogfen sydd wedi’i chysylltu i lawr, cliciwch yr eicon Llwytho i Lawr [2].
Note: You can only embed guides in Canvas courses. Embedding on other sites is not supported.