Sut ydw i’n defnyddio’r rhestr Tasgau i’w Gwneud a'r bar ochr yn y Dangosfwrdd fel myfyriwr?

Yn y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau a'r Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar, mae'r bar ochr yn cynnwys rhestr o Dasgau i'w Gwneud ac adrannau eraill sy’n eich helpu i wybod pa aseiniadau a digwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer pob un o’ch cyrsiau. Mae'r bar ochr yn cynnwys eitemau penodol ar gyfer rolau addysgwyr a myfyrwyr. Os ydych chi wedi ymrestru ar gyfer cyrsiau Canvas gyda mwy nag un rôl defnyddiwr, efallai y bydd eich bar ochr yn dangos eitemau ar gyfer y ddwy rôl.

Mae'r bar ochr yn debyg i’r bar ochr sydd i’w weld ar dudalen Hafan y Cwrs, ond dim ond eitemau ar gyfer y cwrs penodol hwnnw sydd i’w gweld ym mar ochr y cwrs. Yn dibynnu ar gynllun tudalen Hafan y Cwrs, gall y bar ochr ar gyfer cwrs gynnwys adrannau ychwanegol, yn ogystal â'r rheini sydd i’w gweld yn y bar ochr.

Nodyn: Gallwch weld yr eitemau sydd ar y rhestr Tasgau i'w Gwneud ar y Dangosfwrdd Gwedd Rhestr.

Agor Dangosfwrdd

Agor Dangosfwrdd

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Dangosfwrdd (Dashboard).

Gweld Eitemau Cwrs ar y Bar Ochr

Gweld Eitemau Cwrs ar y Bar Ochr

Mae’r bar ochr yn dangos gwahanol eitemau gweithredu yn eich holl gyrsiau. Mae pob eitem yn gysylltiedig â chwrs penodol. Mae pob eitem o’ch holl gyrsiau gweithredol i’w gweld yn y bar ochr – nid dim ond o’r cyrsiau sydd wedi’u gwneud yn ffefrynnau ar y Dangosfwrdd.

I adnabod cyrsiau, mae pob eitem ar y bar ochr yn dangos cod y cwrs, neu enw byr ar gyfer y cwrs [1]. Mae cod y cwrs i’w weld yn syth o dan enw llawn y cwrs.

Gellir rhoi enw byr ar gyrsiau yn y bar ochr, yn hytrach na chodau cyrsiau sy’n hir neu rai y mae’n anodd cofio pa gyrsiau maen nhw’n eu cynrychioli. Os ydych chi wedi creu enw byr ar gyfer cwrs, enw byr y cwrs fydd yn ymddangos yn y bar ochr yn hytrach na chod y cwrs [2]. Fodd bynnag, bydd cod gwreiddiol y cwrs bob amser i’w weld ar gerdyn y cwrs.

Gweld Adrannau Myfyrwyr

Gweld Adrannau Myfyrwyr

Mae’r bar ochr yn eich helpu i weld beth mae angen i chi ei wneud nesaf a pha adborth rydych chi wedi'i gael ar eich holl gyrsiau. Fodd bynnag, mae aseiniadau nad ydynt yn cael eu graddio ac nad oes angen eu cyflwyno ar-lein yn ymddangos tan y dyddiad erbyn yn unig.

Mae’r adran Tasgau i’w Gwneud (To Do) yn dangos hyd at saith eitem sydd â dyddiadau erbyn neu ddyddiadau digwyddiad yn yr wythnosau nesaf, gan gynnwys cwisiau heb eu graddio, aseiniadau nad oes angen eu cyflwyno drwy Canvas, a chyhoeddiadau cwrs [1]. Mae pob eitem yn y rhestr Tasgau i’w Gwneud yn dangos enw’r aseiniad, enw’r cwrs, nifer y pwyntiau a'r dyddiad erbyn ar gyfer yr aseiniad. Ar ôl i’r dyddiad erbyn fynd heibio, mae eitemau yn aros yn yr adran hon am bedair wythnos.

Mae’r adran Adborth Diweddar (Recent Feedback) yn dangos aseiniadau y mae eich addysgwr wedi rhoi adborth arnyn nhw yn ystod y pedair wythnos diwethaf [2].

Mae'r botwm Gweld Graddau (View Grades) yn cysylltu â thudalen Graddau’r Dangosfwrdd ac yn dangos y graddau ar gyfer yr holl gyrsiau gweithredol [3].

Rheoli Eitemau Bar Ochr

Rheoli Eitemau Bar Ochr

Mae pob eitem adran yn dangos eicon i wahaniaethu rhwng mathau gwahanol o aseiniadau ac eitemau eraill ar y rhestr Tasgau i'w Gwneud [1].

Os yw'r adran yn cynnwys mwy o eitemau nag y gellir eu dangos, gallwch weld yr holl dasgau i'w gwneud gan ddefnyddio'r ddolen Dangos y Cyfan (Show All) [2]. Mae'r ddolen hon yn eich cyfeirio at y Dangosfwrdd Gwedd Rhestr.

I gael gwared ag eitem ar y rhestr Tasgau i’w Gwneud, cliciwch yr eicon tynnu (remove) [3]. Mae’r eitemau dal wedi’u tynnu o’r rhestr.

Nodyn: Mae aseiniadau wedi’u cyflwyno drwy Canvas yn diflannu’n awtomatig o’r rhestr Tasgau i’w Gwneud (To Do); yr unig ffordd o dynnu aseiniadau sydd ddim angen eu cyflwyno (cyflwyno ar bapur/yn y dosbarth) yw gwneud hynny eich hun.

Creu Cwrs Newydd

Creu Cwrs Newydd

Os yw wedi’i ganiatáu gan eich sefydliad, efallai y byddwch chi hefyd gallu creu cwrs newydd o'r Dangosfwrdd.