Sut ydw i’n ychwanegu cyhoeddiad mewn grŵp?
Fel myfyriwr, gallwch wneud cyhoeddiad mewn grŵp.
Agor Cyhoeddiadau
Agorwch grŵp rydych chi’n aelod ohono. Wedyn, yn y ddewislen Crwydro Grwpiau, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau (Announcements).
Creu Cyhoeddiad
Rhowch deitl i gyhoeddiad yn y maes Teitl Pwnc (Topic Title) [1].
Ychwanegwch gynnwys at drafodaeth drwy ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2]. Byddwch chi’n gweld cyfrif geiriau [3].
Os bydd eich addysgwr wedi galluogi hyn, gallwch ganiatáu defnyddwyr eraill i hoffi’r cyhoeddiad. I adael i ddefnyddwyr eraill hoffi’r cyhoeddiad, cliciwch y blwch ticio Caniatáu Hoffi (Allow liking) [4].
Cyhoeddi Cyhoeddiad
Cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish).
Gweld Cyhoeddiad
Gweld y cyhoeddiad.
I reoli'r cyhoeddiad, cliciwch yr eicon Opsiynau [1], a dewis opsiwn [2]. Gallwch farcio bod y cyhoeddiad wedi’i ddarllen, marcio bod y cyhoeddiad heb ei ddarllen, golygu’r cyhoeddiad, neu ei ddileu.
Gweld y Dudalen Cyhoeddiadau
Gallwch weld y cyhoeddiad ar dudalen Cyhoeddiadau’r grŵp.