Sut ydw i’n gweld Tudalennau (Pages) fel myfyriwr?

Gallwch weld tudalennau yn eich cwrs drwy’r dudalen Mynegai Tudalennau (Pages Index) neu drwy’r adran Modiwlau (Modules).

Nodyn: Os nad ydych chi’n gallu gweld y ddolen Tudalennau Crwydro'r Cwrs (Pages Course Navigation), yna mae eich addysgwr wedi cuddio’r ddolen yn eich cwrs. Yn ogystal, ni fyddwch chi’n gallu gweld y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages) os yw eich cwrs yn cynnwys Tudalen Flaen.

Gweld Tudalennau

Gweld Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).

Nodyn: Os nad yw’r ddolen Tudalennau ar gael yn Aseiniadau adran Crwydro’r Cwrs, gallwch chi gael mynediad at dudalennau cwrs drwy'r dudalen Modiwlau.

Gweld Pob Tudalen

Gweld Pob Tudalen

Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I weld y mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).

Gweld Mynegai Tudalennau

Gweld Mynegai Tudalennau

Bydd y mynegai Tudalennau (Pages) yn rhestru’r holl dudalennau yn y cwrs. Cliciwch deitl y dudalen rydych chi am ei gweld.

Gweld Modiwlau

Gweld Modiwlau

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gweld tudalennau yn yr adran Modiwlau (Modules). Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).

Gweld Mynegai Modiwlau

Gweld Mynegai Modiwlau

Gall pob modiwl gynnwys ffeiliau, trafodaethau, aseiniadau, cwisiau, a deunyddiau dysgu eraill y mae’r addysgwr yn penderfynu eu hychwanegu. Mae Tudalennau Cwrs yn cael eu dynodi gydag eicon dogfen. Yn dibynnu ar sut mae eich cwrs wedi’i osod, efallai na fyddwch chi’n gallu gweld eitemau modiwl sydd ag amodau wedi’u gosod.