Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.
Gallwch chi deipio testun a gallwch chi gopïo a gludo testun o ffynonellau eraill i mewn i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog hefyd yn cynnwys nifer o adnoddau fformatio sy’n gadael i chi addasu eich testun.
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn gallu delio â bysellau hwylus ar gyfer copïo a gludo testun.
Copïo a Gludo’n Defnyddio PC
Copïo a Gludo’n Defnyddio Mac
Nodyn: Efallai y bydd eich addysgwr yn penderfynu defnyddio ffont wahanol ar gyfer eich cyrsiau. Bydd y ffont hon i’w gweld wrth roi testun yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, neu dudalen mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn agor yn ddiofyn.
Gallwch chi ychwanegu a fformatio cynnwys gan ddefnyddio’r bar dewislen [1] neu’r bar offer [2].
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd (Keyboard) neu pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+Fn+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell.
Gallwch chi hefyd newid maint y ffenestr golygydd neu agor y golygydd yn y sgrin lawn.
Teipiwch neu ludwch destun wedi’i gopïo i mewn i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
I dynnu fformatio testun, dewiswch y testun [1], yna cliciwch yr eicon Clirio Fformatio (Clear Formatting) [2].
Nodyn: I weld yr eicon Clirio Fformatio, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [3].
Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei addasu [1]. Yna cliciwch y gwymplen Maint Ffont (Font Size) [2] a dewis maint y ffont rydych chi eisiau ei ddefnyddio [3]. Gallwch chi ddewis o ffontiau maint 8, 10, 12, 14, 18, 24, neu 36pt
Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei addasu [1]. Yna cliciwch y gwymplen Paragraff (Paragraph) [2] a dewis steil y testun rydych chi eisiau ei ddefnyddio [3]. Dewiswch rhwng Pennawd 2, Pennawd 3, Pennawd 4, Wedi’i Fformatio’n Barod a Pharagraff.
Nodyn: Yn ddiofyn, mae’r prif bennawd ar gyfer y cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, neu gwis yr un fath a’r teitl neu’r enw rydych chi’n ei roi wrth greu’r eitem.
I greu bylchau sengl yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, Pwyswch Shift+Enter (ar fysellfwrdd PC) neu Shift+Return (ar fysellfwrdd Mac). Mae hyn yn creu toriad llinell yn hytrach na thoriad paragraff.
Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei fformatio [1].
I wneud y testun dan sylw yn drwm, cliciwch yr eicon Trwm (Bold) [2], neu bwyso Command+B (Bysellfwrdd Mac) neu Ctrl+B (Bysellfwrdd PC).
I wneud y testun dan sylw yn italig, cliciwch yr eicon Italic (Italic) [3], neu bwyso Command+I (Bysellfwrdd Mac) neu Ctrl+I (Bysellfwrdd PC).
I danlinellu’r testun dan sylw, cliciwch yr eicon Tanlinellu (Underline) [4], neu bwyso Command+U (Bysellfwrdd Mac) neu Ctrl+U (Bysellfwrdd PC).
Pan fo’r ffeil dan sylw wedi’i fformatio, bydd saeth yn ymddangos uwchben yr opsiwn dan sylw [5].
Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei liwio [1].
I newid lliw'r testun, cliciwch yr eicon Lliw’r Testun (Text Color) [2].
I uwcholeuo’r testun, cliciwch yr eicon Lliw Cefndir (Background Color) [3]
Dewiswch liw o’r gwymplen lliwiau [4]. Gallwch chi weld enw’r lliw drwy hofran eich llygoden dros y lliw [5].
I dynnu fformatio lliw, cliciwch yr eicon Tynnu Lliw (Remove Color) [6].
I ddewis lliw personol ar gyfer testun, cliciwch yr eicon Lliw Personol (Custom Color) [7].
Defnyddiwch y dewiswr lliw i ddewis tôn [1] ac arlliw [2]. Gallwch chi hefyd roi codau lliw RGB [3] neu roi cod lliw HEX [4]. Edrychwch ar eich lliw personol yn y ffenestr dangos lliw [5].
I roi’r lliw ar eich testun, cliciwch y botwm Cadw (Save) [6].
Gallwch chi fformatio eich testun i ymddangos fel uwch-ysgrif neu is-ysgrif. Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei addasu [1].
I fformatio eich testun fel uwch-ysgrif, cliciwch yr eicon Uwch-ysgrif (Superscript) [2].
I fformatio eich testun fel is-ysgrif, cliciwch yr eicon Saeth Ysgrif (Script Arrow) [3] a dewis yr opsiwn Is-ysgrif (Subscript) [4].
I gysoni testun, rhowch y cyrchwr o flaen y testun rydych chi eisiau ei gysoni [1], yna cliciwch yr eicon Cysoni (Alignment) [2]. O’r gwymplen gallwch chi ddewis cysoni’r testun i’r Chwith (Left) [3], Canol (Center) [4], a’r Dde (Right) [5].
Nodyn: I weld yr eicon Alinio, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [6].
I fewnoli testun, cliciwch yr eicon Mewnoli (Indent) [1].
Os yw eich testun wedi’i fewnoli, gallwch chi alloli eich testun. I alloli eich testun, cliciwch yr eicon Saeth Mewnoli (Indent Arrow) [2] a chlicio’r opsiwn Alloli (Outdent) [3].
Gallwch chi glicio’r opsiynau Mewnoli ac Alloli fwy nag unwaith i gynyddu neu leihau mewnoliad y testun.
Nodyn: I weld yr eicon Mewnoli, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [4].
I alinio cyfeiriad eich testun, cliciwch y ddolen Fformatio (Format) yn y bar dewislen [1], yna dewiswch yr opsiwn Cyfeirioldeb (Directionality) [2]. Gallwch chi alinio eich testun o’r Chwith i’r Dde [3] ac o’r Dde o’r Chwith [4].
Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei gynnwys yn eich rhestr [1], yna cliciwch yr eicon Rhestr (List) [2]. Gallwch chi ddewis math o restr o bwyntiau bwled [3], neu restr rifol neu alffabetig [4].
Nodyn: I weld yr eicon Rhestr, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [5].
Gweld y rhestr o bwyntiau bwled.
Gweld y rhestr o rifau.
Os byddwch chi’n ail-lwytho neu’n mynd oddi ar y dudalen wrth olygu cynnwys yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, bydd Canvas yn cadw eich cynnwys yn awtomatig yn storfa’r porwr am hyd at un diwrnod. Pan fyddwch chi’n ail-lwytho’r dudalen neu’n mynd yn ôl i’r dudalen roeddech chi’n ei golygu, bydd Canvas yn dangos neges yn nodi fod cynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig yn bodoli. Gallwch chi weld rhagolwg o’r cynnwys, hepgor y cynnwys, neu lwytho’r cynnwys i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Nodiadau:
I weld rhagolwg o gynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig gan Canvas, cliciwch y botwm Rhagolwg (Preview).
I lwytho cynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch y botwm Iawn (Yes) [1]. I hepgor y newidiadau sydd wedi’u cadw’n awtomatig, cliciwch y botwm Na (No) [2].
Cliciwch y botwm Cadw.
Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
If you have a suggestion to improve this guide, or if you want to recommend corrections, please share your feedback