Sut ydw i’n ymuno â grŵp fel myfyriwr?
Gallwch gofrestru ar gyfer grŵp ar eich cwrs os yw eich addysgwr wedi galluogi’r opsiwn cofrestru eich hun.
Nodyn: Os ydy eich addysgwr wedi analluogi’r ddolen Pobl yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, ni fyddwch chi’n gallu ymuno â grŵp.
Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Gweld Grwpiau

I gael mynediad at eich Grwpiau Defnyddwyr, cliciwch y tab Grwpiau (Groups) [1].
Gallwch gael mynediad at eich Grwpiau Defnyddwyr drwy’r ddewislen Opsiynau hefyd. Cliciwch yr eicon Opsiynau [2], a chliciwch y ddolen Gweld Grwpiau Defnyddwyr (View User Groups) [3].
Ymuno â Grŵp

Cliciwch y ddolen Ymuno (Join) wrth ymyl enw grŵp sydd ar gael.
Cadarnhau cofrestru ar gyfer grŵp

Bydd neges yn ymddangos ar frig eich porwr i gadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y grŵp.