Sut ydw i’n defnyddio Cynadleddau mewn cwrs fel myfyriwr?

Mae’r dudalen Cynadleddau yn gadael i chi weld pob cynhadledd sy’n rhan o gwrs. Fel myfyriwr, gallwch ymuno â chynadleddau rydych chi wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan ynddyn nhw.

Mewn grwpiau myfyrwyr, gallwch greu cynadleddau newydd, dechrau cynadleddau a rheoli cynadleddau sydd wedi dirwyn i ben.

Nodyn: Mae creu cynhadledd yn un o hawliau cwrs. Os nad oes modd i chi greu cynhadledd, mae eich sefydliad wedi cyfyngu’r nodwedd hon.

Agor Cynadleddau

Agor Cynadleddau

Yn Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda. Mae enw’r ddolen yn adlewyrchu’r adnodd cynadledda sy’n cael ei ddefnyddio gan eich sefydliad.

Gweld Cynadleddau

Gweld Cynadleddau

Gallwch weld y cynadleddau rydych chi wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan ynddyn nhw.

Mae cynadleddau’n cael eu rhannu’n ddwy ran: Cynadleddau Newydd [1] a Chynadleddau wedi Dirwyn i Ben [2]. Bydd enw’r gynhadledd [3] a’r disgrifiad [4] yn ymddangos yn y ddwy ran bob amser.

Gweld Cynhadledd sydd ar waith

Gweld Cynhadledd sydd ar waith

Bydd cynadleddau newydd yn cael eu rhestru yn y mynegai, ond does dim modd cael mynediad atyn nhw nes bydd y sawl sy’n cynnal y gynhadledd wedi dechrau’r gynhadledd. Pan fydd y gynhadledd ar gael, cliciwch y botwm Ymuno (Join) [1]. Pan fydd y gynhadledd wedi dechrau, rhoddir y statws ar waith [2] i'r gynhadledd.

Gallwch ymuno â'r gynhadledd ar yr amod bod y botwm Ymuno (Join) ar gael. Gyda rhai cynadleddau, dim ond am gyfnod penodol y gallwch chi ymuno â nhw.

Gweld Cynadleddau sydd wedi Dirwyn i Ben

Gweld Cynadleddau sydd wedi Dirwyn i Ben

Mae cynadleddau sydd wedi dirwyn i ben i’w gweld yn yr adran Cynadleddau wedi Dirwyn i Ben (Concluded Conferences). Bydd teitl, dyddiad a disgrifiad o’r gynhadledd yn ymddangos ar gyfer pob cynhadledd sydd wedi dirwyn i ben.

Gweld Cynhadledd sydd wedi’i Recordio

Gweld Cynhadledd sydd wedi’i Recordio

Pan fydd eich cynhadledd wedi dirwyn i ben, cliciwch enw’r gynhadledd sydd wedi’i recordio [1]. I ailchwarae'r gynhadledd, cliciwch ddolen fformat y recordiad [2]. Bydd fformat y recordiad yn ymddangos naill ai fel cyflwyniad neu fideo.

Fydd dolen fformat y recordiad ddim yn ymddangos nes bydd y gynhadledd wedi’i rendro i gael ei chwarae. Gall y broses rendro gymryd peth amser i’w chwblhau. Bydd hyd y gynhadledd yn cael ei nodi yn y fformat oriau:munudau (e.e. mae 0:18 yn golygu 18 munud).

Os oedd eich cynhadledd yn cynnwys capsiynau caeedig, bydd botwm CC yn ymddangos ar far chwarae’r fideo er mwyn gallu gweld y capsiynau sydd ar gael.

Nodyn: Ar gyfer pob cyfrif Cynhadledd sylfaenol, caiff recordiadau eu dileu’n awtomatig 7 diwrnod ar ôl i’r gynhadledd ddod i ben.

Gweld Ystadegau a Nodiadau

Gweld Ystadegau a Nodiadau

Os ydych chi wedi creu cynhadledd mewn grŵp, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu gweld ystadegau a nodiadau ar gyfer eich cynhadledd.

Os yw eich sefydliad wedi uwchraddio i haen premiwm Cynadleddau Canvas (Canvas Conferences), gallwch weld ystadegau'r gynhadledd drwy glicio’r ddolen Ystadegau (Statistics) [1].

Os oedd eich cynhadledd yn cynnwys nodiadau wedi’u rhannu, gallwch weld y nodiadau drwy glicio'r ddolen Nodiadau (Notes) [2]. Bydd y nodiadau wedi’u rhannu yn ymddangos mewn tab pori newydd, lle mae modd eu gweld a'u copïo.

Nodyn: Dydy nodiadau ddim ond ar gael ar gyfer cynadleddau sydd wedi'u recordio.