Sut ydw i'n cyflwyno aseiniad ar ran grŵp?

Mae aseiniad grŵp yn ffordd i addysgwyr ganiatáu i fyfyrwyr weithio gyda’i gilydd ar aseiniad a'i gyflwyno fel grŵp. Dim ond un aelod o'r grŵp fydd angen cyflwyno'r aseiniad ar ran y grŵp.

Bydd unrhyw atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o gyflwyno'r aseiniad wedi'i raddio yn cael eu copïo hefyd i ffeiliau eich grŵp ond fyddan nhw ddim yn cael eu cyfrif yn erbyn eich cwota defnyddiwr. Ond, ar ôl llwytho'r ffeil i fyny fel cyflwyniad, does dim modd i chi ddileu’r ffeil. Os byddwch chi'n llwytho ffeil i fyny o'ch cyfrifiadur, caiff y ffeil ei storio yn ffolder Cyflwyniadau’r grŵp. Ond, os byddwch chi'n cyflwyno ffeil sydd wedi cael ei llwytho i fyny o’r blaen i ffeiliau eich grŵp, caiff y ffeil ei storio yn eich ffolder Cyflwyniadau. Mae ffeiliau wedi’u llwytho i fyny gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cyfrif tuag at gwota storio’r defnyddiwr.

Nodiadau:

  • Os ydych chi am gyflwyno ffeil sydd wedi cael ei llwytho i fyny o’r blaen, rhaid i’r ffeil fod yn eich ffeiliau defnyddiwr yn barod. Does dim modd cael mynediad at unrhyw ffeiliau sydd wedi cael eu llwytho i fyny i ffeiliau eich grŵp drwy aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno. Gwybodaeth am sut mae symud ffeiliau grŵp i ffeiliau defnyddiwr.
  • Os yw wedi’i alluogi, bydd Canvas yn chwarae animeiddiad ddathlu pan fyddwch chi’n cyflwyno aseiniad ar amser. Ond, os byddai’n well gennych chi, gallwch chi analluogi’n rhagolwg nodwedd hwn yn eich gosodiadau defnyddiwr.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Agor Aseiniad

Agor Aseiniad

Cliciwch enw’r aseiniad.

Gweld Aseiniad Grŵp

Gweld Aseiniad Grŵp

I agor yr opsiynau cyflwyno aseiniadau, cliciwch y botwm Dechrau Aseiniad (Start Assignment).

Gweld Hysbysiad am Radd Derfynol

Gweld Hysbysiad am Radd Derfynol

Efallai y bydd baner yn ymddangos uwchben eich aseiniad i ddangos bod eich addysgwr wedi tynnu’r aseiniad grŵp o gyfrifiadau'r radd gyflawn. Fodd bynnag, dydy’r gosodiad hwn ddim yn effeithio ar aseiniadau sy’n cael eu cyflwyno.

Llwytho Ffeil i Fyny

I lwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur, cliciwch y botwm Llwytho Ffeil i Fyny (Upload File) [1]. Pan fydd ffenestr y ffeil yn ymddangos, chwiliwch am y ffeil a chlicio enw’r ffeil. Ar waelod y ffenestr, cliciwch y botwm Dewis (Choose) neu Pori (Browse) (yn dibynnu ar eich porwr).

I lwytho ffeil i fyny rydych chi wedi’i llwytho i fyny i Canvas yn barod, cliciwch y ddolen Cliciwch yma i ddod o hyd i ffeil rydych chi wedi’i llwytho i fyny’n barod (Click here to find a file you’ve already uploaded) [2]. Bydd rhestr y ffeil yn ehangu. Cliciwch enw’r ffeil.

Gallwch ychwanegu sylw at yr aseiniad grŵp sy’n cael ei gyflwyno [3]. Bydd sylwadau ar aseiniadau grŵp nad ydynt wedi'u graddio yn unigol yn cael eu hanfon i'r grŵp cyfan.

Os oes gennych chi fynediad i lwytho ffeil i fyny o Google Drive, gallwch gyflwyno ffeil Google drwy glicio'r tab Google Drive [4].

Nodyn: Os ydych chi am gyflwyno ffeil sydd wedi cael ei llwytho i fyny o’r blaen, rhaid i’r ffeil fod yn eich ffeiliau defnyddiwr yn barod. Does dim modd cael mynediad at ffeiliau grŵp drwy aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno.

Dewis Opsiwn Sylw

Dewis Opsiwn Sylw

Os yw eich aseiniad sydd wedi'i gyflwyno yn cynnwys opsiynau rhoi sylwadau, bydd pob aelod o’ch grŵp yn cael ei raddio'n unigol. Os ydych chi am roi sylw, teipiwch eich sylw yn y blwch sylwadau [1].

I anfon eich sylw at eich addysgwr, dewiswch Anfon sylw at addysgwr yn unig (Send comment to instructor only) [2].

I anfon eich sylw at eich addysgwr a holl aelodau eich grŵp, dewiswch Anfon sylw i'r grŵp cyfan (Send comment to the whole group) [3].

Cyflwyno Aseiniad

Cyflwyno Aseiniad

Cliciwch y botwm Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment).

Nodyn: Mae ffeiliau mawr sy’n cael eu cyflwyno’n defnyddio’r tab Llwytho Ffeil i Fyny yn dangos dangosydd statws cyflwyno.

Gweld Cyflwyniad

Mae’r Bar Ochr yn dangos gwybodaeth am eich cyflwyniad [1].

Os yw eich addysgwr yn caniatáu, gallwch chi ddewis ailgyflwyno fersiwn arall o’ch aseiniad drwy glicio’r botwm Ymgais Newydd (New Attempt) [2]. Dim ond manylion eich cyflwyniad diwethaf fyddwch chi’n gallu eu gweld yn y Bar Ochr, ond bydd eich addysgwr yn gallu gweld pob un o'ch cyflwyniadau.

Ar ôl i’r addysgwr raddio eich cyflwyniad, bydd y ddolen Graddau yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs yn dangos dangosydd graddio. Hefyd, gallwch weld manylion am yr aseiniad grŵp a dolenni at adborth ychwanegol yn eich tudalen Graddau.

Nodiadau:

  • Ar ôl cyflwyno aseiniad, bydd yr aseiniad yn dal yn ymddangos yn yr adran Aseiniadau (Assignments) a’r adran Maes Llafur (Syllabus); ni fydd yn cael ei dynnu pan fydd yr aseiniad yn cael ei gyflwyno.
  • Pan fyddwch chi’n ailgyflwyno aseiniad, dim ond yr aseiniad diwethaf fydd ar gael i chi ei weld. Ond, bydd addysgwyr yn gallu gweld pob un o'ch cyflwyniadau.