Sut ydw i’n gweld fy ngraddau mewn cwrs presennol?

Mae'r dudalen Graddau mewn cwrs yn dangos yr holl raddau presennol ar gyfer yr holl aseiniadau cwrs. Gallwch chi hefyd weld y manylion sgorio, y sylwadau a’r cyfarwyddiadau sgorio. Os yw eich addysgwr yn defnyddio mwy nag un cyfnod graddio, gallwch chi hidlo graddau yn ôl cyfnod graddio.

Os oes gennych chi unrhyw gyrsiau sydd wedi dirwyn i ben a’ch bod modd i chi weld eu cynnwys, gallwch weld y graddau hynny o unrhyw gwrs gweithredol. Gallwch chi hefyd weld graddau cyrsiau sydd wedi dirwyn i ben o'r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan.

Nodwch: Gall rhywfaint o fanylion ar y dudalen Graddau (Grades), fel manylion sgorio a'r radd gyflawn, fod wedi’u cyfyngu yn eich cwrs.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Gweld Graddau

O’r dudalen graddau, gallwch chi ddewis y Cwrs (Course) rydych chi am weld ei raddau [1]. Yn ddiofyn, caiff graddau eu rhoi mewn trefn gronolegol yn ôl dyddiad erbyn. Yn y ddewislen Trefnu yn ôl (Arrange by) [2], gallwch chi hefyd drefnu yn ôl modiwl, ewn’r aseiniad neu grŵp o aseiniadau. I weld y graddau sydd wedi’u nodi, cliciwch y botwm Cymhwyso (Apply) [3]. Bydd aseiniadau nad ydynt yn rhan o fodiwl yn cael eu dangos ar ddiwedd y rhestr aseiniadau yn nhrefn yr wyddor. Fodd bynnag, os nad yw modiwlau neu grwpiau aseiniadau yn cael eu defnyddio yn eich cwrs, ni fyddant yn cael eu cynnwys fel opsiynau trefnu.

Mae modd gweld enw’r aseiniad [4], dyddiad erbyn yr aseiniad [5], dyddiad cyflwyno’r aseiniad [6], statws yr aseiniad [7], y sgôr rydych chi wedi’i ennill, a chyfanswm gwerth pwyntiau'r aseiniad [8]. Byddwch hefyd yn gallu gweld a yw’r aseiniad yn cynnwys manylion sgorio, sylwadau neu gyfarwyddiadau sgorio [9].

Byddwch yn gweld eiconau gradd amrywiol yn y golofn sgôr, a fydd yn dangos y math o aseiniad a gyflwynwyd gennych [10]. Nid yw’r aseiniadau hyn wedi cael eu graddio gan eich addysgwr. Ar ôl i’r aseiniad gael ei raddio, bydd yr eicon yn cael ei ddiystyru gan eich sgôr.

Mae’r dudalen graddau hefyd yn gadael i chi greu graddau damcaniaethol neu raddau Beth-os. Gallwch glicio unrhyw faes sgôr a nodi eich gradd yn fras ac gyfer aseiniadau wedi’u graddio (os ydych chi am gyflwyno aseiniad) ac aseiniadau heb eu graddio.

I argraffu eich graddau, cliciwch y botwm Argraffu Graddau (Print Grades) [11].

Gweld Cyfnodau Graddio

Os yw cyfnodau graddio wedi’u galluogi yn eich cwrs, gallwch weld eich graddau yn unol â chyfnod graddio [1]. Yn ddiofyn, bydd y dudalen Graddau (Grades) yn dangos y cyfnod graddio presennol. Os nad yw aseiniad yn cynnwys dyddiad erbyn, bydd yn ymddangos fel rhan o’r cyfnod graddio diwethaf. I weld graddau ar gyfer cwrs arall, cliciwch y gwymplen Cwrs (Course) [2]. I weld y cyfnod graddio a’r cwrs penodol, cliciwch y botwm Defnyddio (Apply) [3].

Os yw eich cwrs yn cynnwys grwpiau aseiniadau sydd wedi’u pwysoli, gall grwpiau aseiniadau amrywio yn y bar ochr gan ddibynnu ar ba cyfnod graddio rydych chi’n edrych arno. Mae grwp aseiniadau’n dangos a oes gan y grŵp o leiaf un aseiniad i’w gyflwyno yn ystod y cyfnod graddio dan sylw.

Pan gaiff cyfnodau graddio eu pwysoli a’ch bod chi'n dewis yr opsiwn Pob Cyfnod Graddio (All Grading Periods), bydd y bar ochr yn dangos y pwysoliad ar gyfer pob cyfnod graddio.

Gweld Aseiniad Hwyr

Gweld Aseiniad Hwyr

Efallai y bydd eich addysgwr yn gosod polisi hwyr awtomatig ar eich cwrs. Mae unrhyw aseiniad sy’n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn yn cael eu marcio’n hwyr. Mae’r polisïau gwaith hwyr yn tynnu canran o’r radd o gyfanswm y sgôr a hynny’n awtomatig. Mae aseiniadau hwyr yn dangos yr eicon Hwyr yng ngholofn Statws y llyfr graddau [1]. I weld y manylion cyflwyniad ar gyfer aseiniad hwyr, cliciwch enw’r cyflwyniad [2].

Gweld Cyflwyniad Hwyr

Gweld Cyflwyniad Hwyr

Mae’r dudalen Manylion Cyflwyniad yn dangos eich gradd, faint gafodd ei dynnu fel cosb am fod yn hwyr, ar radd derfynol.

Gweld Gwybodaeth am Radd

Gweld Gwybodaeth am Radd

Mae rhai aseiniadau’n cynnwys eicon rhybudd du [1], sy'n rhoi gwybod i chi na fydd y pwyntiau rydych chi wedi’u hennill o’r aseiniad hwnnw’n cyfrif tuag at eich gradd derfynol [2]. Dylech chi gyflwyno’r aseiniad hwn beth bynnag, oni bai ei fod wedi’i esgusodi gan eich addysgwr.

Gweld Sylwadau

Os oes sylwadau yn eich aseiniad, bydd yr aseiniad yn arddangos eicon Sylwadau. I weld y sylwadau, cliciwch yr eicon Sylw (Comment) [1]. Os oes sylwadau heb eu darllen, bydd dangosydd i’w weld [2]. Ar ôl i’r sylwadau gael eu darllen, mae’r dangosydd yn diflannu.

Mae sylwadau’n cael eu trefnu yn nhrefn amser.

Os oes adborth wrth ymyl sylwadau testun, fel sylwadau cyfryngau, cliciwch yr eicon Adborth (Feedback) i agor y manylion cyflwyno a gweld yr adborth arall [3].

I gau sylwadau, cliciwch y ddolen Cau (Close) [4].

Gweld Manylion Sgorio

Os ydych chi’n gallu gweld manylion sgorio, cliciwch yr eicon Tic [1]. Mae modd gweld y dosbarthiad graddau ar gyfer yr aseiniad a gweld y sgorau cymedrig, uchaf, isaf, a chanolrifol y sgorau cwartel isaf a’r sgorau chwartel uchaf [2].

Mae llinell lorweddol y graff yn ymestyn o 0 i sgôr uchaf bosib yr aseiniad [3]. Mae’r blwch gwyn yn ehangu o’r sgorau myfyrwyr isaf i’r rhai uchaf. Mae eich sgôr yn ymddangos fel sgwâr glas ar y plot hwn.

Ni fyddwch chi’n gweld manylion sgorio oni bai fod mwy na phum myfyriwr arall wedi cyflwyno’r aseiniad hwnnw yn y cwrs. Os nad ydych chi’n gweld y manylion sgorio, yna mae llai na phum myfyriwr wedi cyflwyno’r aseiniad.

I gau'r manylion sgorio, cliciwch y ddolen Cau (Close) [4].

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gall aseiniad gynnwys Cyfarwyddyd Sgorio hefyd [1], sy'n golygu bod yr aseiniad yn cynnwys cyfarwyddyd sgorio at ddibenion graddio. I weld eich canlyniadau, cliciwch yr eicon. Gweld eich sgôr yn seiliedig ar y cyfarwyddyd sgorio [2]. I gau’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y ddolen Cau Cyfarwyddyd Sgorio (Close Rubric) [3].

Nodwch: Gall eich addysgwr gyfyngu ar gyfanswm sgôr y cyfarwyddyd sgorio.

Gweld Grwpiau Aseiniadau

Gweld Grwpiau Aseiniadau

Bydd y dudalen Graddau (Grades) yn rhestru’r grwpiau aseiniadau sydd wedi’u cynnwys yn eich cwrs [1]. Mae grwpiau aseiniadau yn caniatáu i addysgwyr drefnu aseiniadau, trafodaethau a chwisiau mewn grwpiau a defnyddio rheolau graddio neu bwysoli penodol ar gyfer y grwpiau hynny. Gallwch weld y sgôr canran ar gyfer pob grŵp [2] a'r pwyntiau rydych chi wedi’u hennill yn erbyn cyfanswm y pwyntiau sydd ar gael [3].

Nodyn: Gall eich addysgwr gyfyngu ar ganrannau grŵp o aseiniadau.

Gweld Bar Ochr

Gweld Bar Ochr

Mae’r crynodeb o’r radd yn dangos eich gradd gyflawn [1], gan ganiatáu i chi weld unrhyw sgorau beth-os sydd wedi’u cadw [2], a chaniatáu i chi ddangos neu guddio’r holl fanylion sgorio, y sylwadau a'r cyfarwyddiadau sgorio a ddangosir ar y dudalen Graddau (Grades) [3].

Gan ddibynnu ar ddull cyfrifo'r radd ar gyfer eich cwrs, gall eich gradd gyflawn ymddangos fel gwerth pwynt neu fel canran.

Nodyn: Gall eich addysgwr eich atal chi rhag gweld eich gradd gyflawn [4].

Gweld Graddau Presennol a Graddau Cyflawn

Gweld Graddau Presennol a Graddau Cyflawn

Caiff y radd bresennol ei chyfrifo drwy adio’r aseiniadau sydd wedi eu graddio yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. Caiff y radd hon ei chyfrifo â'r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) [1] sydd wedi’i ddewis yn y bar ochr.

Caiff y radd gyflawn ei chyfrifo drwy adio’r holl aseiniadau yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs (aseiniadau wedi eu graddio ac aseiniadau heb eu graddio). I weld y radd gyflawn, mae angen i chi ddad-ddewis y blwch ticio yn y bar ochr [2]. Bydd y radd ar frig y bar ochr yn adlewyrchu eich gradd gyflawn.

Nodyn: Os yw eich addysgwr wedi eich atal chi rhag gweld y graddau presennol a/neu’r graddau cyflawn, bydd dewis neu ddad-ddewis y blwch ticio yn y bar ochr yn dal i effeithio ar aseiniadau unigol. Byddwch yn gweld newidiadau bach yn lliw yr aseiniadau, a fydd yn nodi bod modd gollwng y radd o’r cwrs.

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Canran

Mae’r bar ochr yn dangos yr wybodaeth am y ffordd y caiff eich graddau eu cyfrifo.

Os yw eich grwpiau aseiniadau’n cael eu pwysoli, bydd y bar ochr yn dangos dadansoddiad o’r grwpiau aseiniadau wedi’u pwysoli [1].

Bydd grwpiau aseiniadau bob amser yn ymddangos fel canran. Os yw eich addysgwr yn caniatáu i chi weld eich graddau cyflawn, gallwch weld dadansoddiad o’r pwyntiau rydych chi wedi eu hennill yn erbyn cyfanswm y pwyntiau posib [2].

Nodyn: Gall eich addysgwr eich atal chi rhag gweld eich cyfanswm graddau mewn canrannau grŵp aseiniadau.

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Pwyntiau

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Pwyntiau

Os nad yw eich cwrs yn defnyddio grwpiau aseiniadau, gall eich gradd gyflawn ymddangos fel pwyntiau neu fel canran. Os yw eich gradd gyflawn yn ymddangos fel pwyntiau, gallwch weld canran eich gradd gyffredinol. Eto, gall eich addysgwr eich atal chi rhag gweld eich gradd gyflawn [4].  

Nodyn: Gall eich addysgwr eich atal chi rhag gweld eich cyfanswm graddau.

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Meintiol

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Meintiol

Os yw eich sefydliad yn cyfyngu ar y gallu i weld data meintiol, mae eich gradd gyflawn yn cael ei dangos gan ddefnyddio cynllun graddio, graddau llythyren fel arfer. Eto, gall eich addysgwr eich atal chi rhag gweld eich gradd gyflawn [4].  

Newid Llyfr Graddau

Newid Llyfr Graddau

Os oes gennych chi fwy nag un cwrs, gallwch chi ddewis y gwymplen cyrsiau (course) [1] i weld graddau mewn cyrsiau eraill.

Os yw eich tudalen Graddau (Grades) yn dangos penawdau Aseiniadau a Meistroli Dysgu (Assignments and Learning Mastery) [2], gallwch chi hefyd weld eich sgorau sy'n seiliedig ar safonau yn y ddolen Meistroli Dysgu (Learning Mastery).