Sut ydw i’n mewngofnodi i Canvas fel myfyriwr?

Gallwch chi gael gafael ar Canvas drwy URL Canvas penodol i sefydliad, gwefan eich ysgol, e-bost gwahoddiad cwrs, neu’r ap iOS Canvas Student neu ap Android Canvas Student.

Rhaid i chi gael cyfrif i fewngofnodi i Canvas. Gweld camau datrys problemau os nad ydych chi’n gallu mewngofnodi i Canvas.

Nodiadau:

Agor Canvas

Gallwch chi gael gafael ar Canvas drwy URL Canvas penodol i sefydliad. Mae URLs Canvas yn defnyddio un o’r strwythurau canlynol: [enw eich sefydliad].instructure.com neu canvas.[enw eich sefydliad].edu.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i URL Canvas eich sefydliad gan ddefnyddio ap iOS Canvas Student neu ap Android Canvas Student.

Efallai y bydd rhai sefydliadau yn caniatáu mynediad at Canvas drwy system awdurdodi penodol i sefydliad sy’n ailgyfeirio i Canvas, fel gwefan neu borth myfyrwyr ysgol.

Nodyn: Nid yw cyfrifon Canvas Network ac Am Ddim i Athrawon yn dilyn y strwythur URL penodol i sefydliad. Mae modd cael gafael ar gyfrifon Canvas Network yn learn.canvas.net. Mae modd cael gafael ar gyfrifon Am Ddim i Athrawon yn canvas.instructure.com.

Mewngofnodi i Canvas

Mewngofnodi i Canvas

Ar ôl dod o hyd i URL Canvas eich sefydliad, gallwch chi fewngofnodi i’ch cyfrif Canvas.

I fewngofnodi, rhowch eich manylion adnabod (neu wybodaeth mewngofnodi) a all ymddangos fel eich cyfeiriad e-bost, enw defnyddiwr, neu ID mewngofnodi [1] a chyfrinair [2]. Yna cliciwch y ddolen Mewngofnodi (Login) [3].

Os oes ei angen, ac yn dibynnu ar osodiadau eich sefydliad, efallai y byddwch chi’n gallu ailosod eich cyfrinair drwy glicio’r ddolen Wedi anghofio’r cyfrinair? (Forgot Password?) [4].

Nodyn: Efallai y bydd y dudalen fewngofnodi’n edrych yn wahanol yn dibynu ar eich sefydliad neu os ydych chi wedi mewngofnodi drwy ap Canvas Student.

Mewngofnodi i Canvas drwy God QR

Mewngofnodi i Canvas drwy God QR

Neu, gallwch chi fynd i fersiwn Canvas eich sefydliad a mewngofnodi i’r ap Canvas Student, drwy sganio eich cod QR proffil Canvas o wefan Canvas.

Gweld camau mewngofnodi QR ar gyfer yr ap Canvas Student gan ddefnyddio dyfais Android neu iOS.