Sut ydw i’n ymuno â chynhadledd mewn cwrs fel myfyriwr?
Gallwch ymuno â chynhadledd sydd eisoes wedi cael ei chychwyn gan y sawl sy’n cynnal y gynhadledd.
I ddefnyddio eich meicroffon, rhaid i chi ganiatáu i Gynadleddau gael mynediad at osodiadau eich microffon. Fel rhan o’r broses o ymuno â'r gynhadledd, rhaid i chi wneud yn siŵr bod y gosodiadau hyn yn gywir yn eich porwr.
Nodyn: Mae'n syniad da bod defnyddwyr yn defnyddio Chrome neu Firefox i gael mynediad at y rhyngwyneb cynadleddau.
00:07: How do I join a conference in a course as a student? 00:11: In course navigation click the link for your web conferencing tool the 00:15: link name reflects the conferencing tool used by your Institution. 00:20: Next to the conference you want to join click the join button? 00:24: To use your microphone during the conference Click the microphone icon. 00:28: To join the conference without enabling a microphone click the listen-only icon. 00:33: You will be able to change your audio preference once you join the conference. 00:39: To enable a microphone in a Chrome browser. Click the allow button. 00:44: To ensure your audio is working correctly select the microphone and speaker. 00:48: You will be using speak a few words. 00:50: And if you hear audio you will see activity on the your audio stream volume 00:54: bar. 00:56: Then click the join audio button. 00:59: View the conference. 01:02: This guy covered how to join a conference in a course as a student.
Agor Cynadleddau
![Agor Cynadleddau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/957/949/original/a16f5762-a8ba-4e91-b833-7af4b32ea8bc.png)
Yn Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda. Mae enw’r ddolen yn adlewyrchu’r adnodd cynadledda sy’n cael ei ddefnyddio gan eich sefydliad.
Ymuno â Chynhadledd
![Ymuno â Chynhadledd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/174/256/original/c64a7c1f-e535-4dec-9fb3-bb5c3588516b.png)
Cliciwch y botwm Ymuno (Join) wrth ymyl y gynhadledd rydych chi am ymuno â hi.
Nodyn: Does dim modd i chi ymuno â chynhadledd nes bydd y sawl sy’n cynnal y gynhadledd wedi dechrau’r gynhadledd.
Ymuno â’r Sain
![Ymuno â’r Sain](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/397/431/original/1c0857f7-505f-4f08-ad81-32c77590000c.png)
I ddefnyddio eich meicroffon yn ystod y gynhadledd, cliciwch yr eicon Meicroffon [1]. I ymuno â'r gynhadledd heb alluogi meicroffon , cliciwch yr eicon Gwrando yn unig (Listen only) [2]. Byddwch yn gallu newid eich opsiwn sain ar ôl i chi ymuno â'r gynhadledd.
Gweld Hawliau Microffon Chrome
![Hawliau Microffon Chrome](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/397/435/original/f5f74ec5-3345-40bd-9e2b-f8a597b6c17c.png)
I alluogi meicroffon mewn porwr Chrome, cliciwch y botwm Caniatáu (Allow).
Gweld Hawliau Microffon Firefox
![Hawliau Microffon Firefox](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/397/429/original/16ec5954-fd39-4d8a-a0c3-ac0d4d9a4f4a.png)
I alluogi meicroffon mewn porwr Firefox, dewiswch eich meicroffon yn y ddewislen Meicroffon i'w rannu (Microphone to share) [1]. Yna cliciwch y botwm Caniatáu (Allow) [2].
Prawf Sain
![Prawf Sain](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/397/437/original/a9396781-95d5-4a1a-a06e-863369bc0551.png)
I sicrhau bod eich sain yn gweithio'n iawn, ewch ati i gynnal y prawf sain preifat. Dywedwch ychydig o eiriau ac os ydych chi'n clywed sain, cliciwch yr eicon Iawn [1]. I ddewis microffon gwahanol a chynnal y prawf sain eto, cliciwch yr eicon Na [2].
Nodyn: Argymhellir eich bod yn defnyddio clustffonau gyda microffon i gael y profiad sain gorau.