Sut ydw i’n plannu cyfryngau o ffynhonnell allanol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?
Gallwch ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i blannu cyfryngau fideo a sain o adnoddau allanol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cynnwys yn ddiogel cyn i chi ei blannu yn Canvas.
Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.
Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog gan ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).
Agor yr Adnodd Plannu o’r Bar Offer

I blannu cyfryngau o’r bar offer, cliciwch yr eicon Plannu [1].
I weld yr eicon Plannu, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau [2].
Agor yr Adnodd Llwytho Cyfryngau i Fyny o’r Bar Dewislen

Gallwch chi hefyd blannu cyfryngau gan ddefnyddio’r bar dewislen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r bar dewislen yn dangos teitlau offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ac efallai ei fod yn well i’r rheini sy’n defnyddio bysellau crwydro.
I blannu cyfryngau gan ddefnyddio’r bar dewislen, cliciwch y ddewislen Mewnosod (Insert) [1] a dewiswch yr opsiwn Plannu (Embed) [2].
Rhoi Cod Plannu

Gludwch y cod yn y maes Plannu Cod (Embed Code) [1]. Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].
Plannu Cyfryngau

Cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Gweld Rhagolwg o Gyfryngau wedi’u Plannu

Gweld rhagolwg o’r cyfryngau rydych chi wedi’u plannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld Cynnwys

Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.