Gallwch chi blannu delweddau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gellir llwytho ffeiliau delweddau i fyny o’ch cyfrifiadur, eu dewis o Unsplash, neu eu hychwanegu’n defnyddio URL. Gallwch chi hefyd blannu delweddau o’ch cwrs ac o ffeiliau defnyddwyr.
Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.
Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd (Keyboard) neu pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+Fn+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell.
I lwytho delwedd i fyny o’r bar offer, cliciwch yr eicon Delwedd (Image) [1].
Gallwch chi hefyd lwytho delwedd i fyny o’r ddewislen opsiynau delweddau. I weld opsiynau delweddau ychwanegol, cliciwch y saeth Opsiynau Delweddau (Image Options) [2]. Yna dewiswch yr opsiwn Llwytho Delwedd i Fyny (Upload Image) [3].
Nodyn: I weld yr eicon Delwedd, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [4].
Neu, gallwch chi blannu delweddau o’r bar dewislen. Cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [1]. Crwydrwch i weld yr opsiynau Delwedd (Image) [2], a dewiswch yr opsiwn Llwytho Delwedd i Fyny (Upload Image) [3].
Yn ddiofyn, mae’r Adnodd Llwytho Delweddau i Fyny yn dangos y tab Cyfrifiadur (Computer) [1]. Cliciwch neu llusgwch a gollyngwch ffeil delwedd i’r adnodd llwytho delweddau i fyny er mwyn llwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur.
Nodyn: Mae delweddau sydd wedi’u llwytho i fyny o’ch cyfrifiadur gan ddefnyddio’r adnodd llwytho delweddau i fyny mewn grŵp yn cael eu hychwanegu at eich ffeiliau grŵp.
Dewiswch y ffeil delwedd [1] a chliciwch y botwm Agor (Open) [2].
I lwytho delwedd i fyny o Unsplash, cliciwch y tab Unsplash [1].
Rowch derm chwilio yn y maes Term Chwilio (Search Term) [2] a dewiswch o’r opsiynau sydd i’w gweld [3]. I weld rhagor o opsiynau delwedd, cliciwch y dolenni symud rhwng tudalennau [4].
Nodyn: Mae Canvas yn defnyddio hidlyddion chwilio diogel wedi’u darparu gan Unsplash. Gallwch chi ddysgu mwy am bolisi cynnwys Unsplash ar eu tudalen Telerau.
I lwytho delwedd i fyny o URL, cliciwch y tab URL [1].
Rhowch yr URL yn y maes URL Ffeil (File URL) [2].
Os yw’n ofynnol yn eich cwrs, efallai y bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich delwedd.
Yn y gwymplen Hawliau Defnydddio (Usage Right) [1], dewiswch un o’r pum hawl defnyddio canlynol:
Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [2].
Nodyn: Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch delwedd, gofynwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor.
I ychwanegu Testun Amgen at eich delwedd, teipiwch ddisgrifiad testun amgen neu dagiau testun yn y maes Testun Amgen (Alt Text) [1]. Yn ddiofyn, mae’r maes Testun Amgen yn dangos enw ffeil y ddelwedd. Mae testun amgen yn cael ei ddarllen gan ddarllenwyr sgrin, ac mae cael ei ddangos pan nad oes modd dangos y ddelwedd sydd wedi’i phlannu.
Os ydy’r ddelwedd yn addurniadol ac nad oes angen testun amgen arni, cliciwch y blwch ticio Delwedd Addurniadol (Decorative Image) [2].
Yn ddiofyn, mae’r opsiwn dangos Plannu Dewedd (Embed Image) wedi’i dews ar gyfer plannu delweddau [3].
I ddangos dolen y ffeil delwedd, dewiswch yr opsiwn dangos Dangos Dolen Testun (Display Text Link) [4]. Bydd dolen y ffeil yn cymryd lle’r ddelwedd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
I blannu’r ddelwedd sydd gennych chi dan sylw, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Nodyn: Bydd y ddelwedd yn fflachio cyn iddi gael ei phlannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Gweld y ddelwedd rydych wedi’i llwytho i fyny yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gallwch chi hefyd ychwanegu tagiau testun eraill a rheoli’r opsiynau dangos delwedd.
Cliciwch y botwm Cadw.
Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
If you have a suggestion to improve this guide, or if you want to recommend corrections, please share your feedback