Sut ydw i’n gweld Cyhoeddiadau fel myfyriwr?
Mae’r Dudalen Mynegai Cyhoeddiadau'n caniatáu i chi weld a hidlo cyhoeddiadau yn eich cwrs. Gallwch chi hefyd dderbyn cyhoeddiadau newydd drwy hysbysiadau Canvas,gweld cyhoeddiadau ar y Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar, neu weld cyhoeddiadau yn y rhestr Tasgau i’w Gwneud.
Os nad yw’r camau yn y wers hon yn cyd-fynd â’r hyn sydd wedi’i ddangos yn eich cwrs, dysgwch sut i ddefnyddio’r rhyngwyneb Ailddylunio Cyhoeddiadau.
Agor Cyhoeddiadau
![Agor Cyhoeddiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/824/147/original/4bcbf220-1185-416f-a432-fe8bf9735a53.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau (Announcements).
Gweld Cyhoeddiadau
Yn y nodwedd Cyhoeddiadau, gallwch weld pob cyhoeddiad yn eich cwrs.
Caiff cyhoeddiadau eu rhoi mewn trefn gronolegol o chwith, gyda’r cyhoeddiadau diweddaraf yn ymddangos gyntaf a’r rhai hŷn yn ymddangos tuag at y gwaelod.
Mae pob cyhoeddiad yn cynnwys teitl y cyhoeddiad [1], llun y defnyddiwr a bostiodd y cyhoeddiad [2], dangosydd wrth gyhoeddiadau sydd heb eu darllen [3], y dyddiad y cafodd y cyhoeddiad ei bostio [4] a nifer yr atebion sydd heb eu darllen/cyfanswm yr atebion yn y cyhoeddiad [5].
Nodyn: Os yw cyhoeddiad yn dangos y llythyren U yn hytrach na llun proffil, mae'r cyhoeddiad wedi’i fewngludo neu wedi’i gopïo o gwrs arall yn Canvas. Nid yw cyhoeddiadau sydd wedi’u copïo yn cynnwys dyddiad nac amser postio chwaith.
Hidlo Cyhoeddiadau
![Hidlo Cyhoeddiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/376/479/original/85b372cc-4408-4310-b84b-4686aae49f64.png)
I weld cyhoeddiadau heb eu darllen neu'r holl gyhoeddiadau, defnyddiwch y gwymplen hidlo [1]. Hefyd, i chwilio am gyhoeddiad, gallwch deipio teitl cyhoeddiad, enw defnyddiwr neu air allweddol yn y maes Chwilio (Search) [2].
Gweld Crynodebau Allanol
![Gweld Crynodebau Allanol](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/182/483/original/73cee6e0-ddec-4a6c-a76e-d9d63b92d976.png)
I weld yr holl Grynodebau Allanol ac i danysgrifio i’r crynodeb RSS,, cliciwch y ddolen crynodebau Allanol (External feeds).
Gweld Cyhoeddiad
![Gweld Cyhoeddiad](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/380/645/original/55bbdecd-9d71-445a-b6c7-aba8b511dd67.png)
I gael gweld cyhoeddiad, cliciwch enw’r cyhoeddiad.