Sut ydw i'n creu cod paru ar gyfer arsyllwr fel myfyriwr?
Fel myfyriwr, gallwch chi gynhyrchu cod paru er mynd cysylltu arsyllwr â'ch cyfrif Canvas. Rhaid i chi greu cod paru ar wahân ar gyfer pob arsyllwr sydd am gysylltu â'ch cyfrif. Am ragor o wybodaeth am y codau paru, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Codau Paru – Cwestiynau Cyffredin.
Gall eich arsyllwr fod yn rhiant, gwarcheidwad, mentor, cwnselydd, neu unigolyn arall sydd angen gweld eich cyrsiau Canvas. Mae modd i arsyllwyr sydd wedi'u cysylltu weld a chymryd rhan mewn rhai elfennau o'ch cyrsiau Canvas. Am ragor o wybodaeth am y rôl arsyllwr, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Amlygrwydd a Chyfranogiad Arsyllwyr.
Nodyn: Os ydych chi’n arsyllwr, gallwch chi gopïo’r cod paru a chysylltu’r myfyriwr drwy roi’r cod yn eich Gosodiadau Defnyddiwr.
00:07: Sut ydw i'n creu cod paru ar gyfer arsyllwr fel myfyriwr? 00:11: Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif. 00:15: Yna cliciwch y ddolen Gosodiadau. 00:18: Cliciwch y botwm Paru ag Arsyllwr. 00:21: Copïwch y cod pau alpha niwmerig 6 digid bydd angen i chi rannu'r 00:25: cod gyda'r Arsyllwr fydd yn cysylltu â'ch cyfrif. 00:28: Daw’r cod paru i ben ar ôl 7 diwrnod neu ar ôl ei ddefnyddio unwaith. 00:33: I gau’r ffenestr. Cliciwch y botwm iawn. 00:36: Roedd y canllaw hwn yn trafod sut i greu cod paru ar gyfer arsyllwr fel myfyriwr.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Paru ag Arsyllwr
Cliciwch y botwm Paru ag Arsyllwr (Pair with Observer).
Nodyn: Os nad yw’r botwm Paru ag Arsyllwr yn ymddangos yn eich Gosodiadau Defnyddiwr, cysylltwch â’ch sefydliad i gael help gyda pharu ag arsyllwr.
Copïo Cod Paru
Copïwch y cod paru chwe digid llythrennau a rhifau [1]. Bydd angen i chi rannu'r cod gyda'r arsyllwr fydd yn cysylltu â'ch cyfrif. Daw’r cod paru i ben ar ôl saith diwrnod neu ar ôl ei ddefnyddio unwaith.
I gau’r ffenestr, cliciwch y botwm Iawn (OK) [2].
Nodyn: Mae codau paru yn gwahaniaethu rhwng llythrennau bach/mawr.