Sut ydw i’n llwytho ffeil i fyny i fy ffeiliau defnyddiwr neu grŵp?

Mae modd i chi lwytho ffeiliau i fyny i ffeiliau defnyddiwr a ffeiliau grŵp. Mae modd defnyddio ffeiliau ar gyfer aseiniadau, atebion i drafodaethau, ac atodiadau i sgyrsiau. Hefyd, mae modd plannu ffeiliau sydd yn eich ffeiliau defnyddiwr neu ffeiliau grŵp yn Canvas gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor).

Mae’n bwysig gwybod sut i ddod o hyd i’ch ffeiliau defnyddiwr a’ch ffeiliau grŵp.

Nodiadau:

  • Er mwyn cyflwyno aseiniadau, gallwch lwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur neu ddewis ffeil sydd wedi cael ei llwytho i fyny i’ch ffeiliau defnyddiwr yn barod. Os ydych chi’n dewis ffeil sydd wedi’i llwytho i fyny’n barod, gallwch ddileu’r ffeil ar ôl iddi gael ei chyflwyno er mwyn gwneud lle yn eich ffeiliau defnyddiwr.
  • Dydy Canvas ddim yn gallu delio â ffeiliau wedi’u llwytho i fyny sy’n fwy na 5 GB.
  • Mae ffeiliau grŵp yn cael eu cyhoeddi’n awtomatig pan fyddan nhw’n cael eu llwytho i fyny i’r grŵp.

Llwytho Ffeil i Fyny

Mewn ffeiliau defnyddiwr neu grŵp, cliciwch y botwm Llwytho i Fyny (Upload).

Agor Ffeil

Agor Ffeil

Cliciwch deitl y ffeil(iau) rydych chi eisiau eu llwytho i fyny [1] a chliciwch y botwm Agor (Open) [2].

Llwytho Ffeiliau i fyny drwy Lusgo a Gollwng

Llwytho Ffeiliau i fyny drwy Lusgo a Gollwng

Mae rhai porwyr gwe yn cynnwys nodwedd sy’n gadael i’r defnyddiwr ychwanegu at ffeiliau drwy lusgo a gollwng y ffeiliau o ffenestr ffeiliau yn syth i storfa ffeiliau Canvas. Cliciwch deitl y ffeil rydych chi am ei hychwanegu [1] a llusgwch y ffeil i’ch porwr sydd ar agor [2]. Bydd eich ffeil yn cael ei llwytho i fyny’n awtomatig.

Disodli Ffeil Ddyblyg

Disodli Ffeil Ddyblyg

Os oes ffeil gyda’r un enw yn bodoli’n barod yn y ffolder lle rydych chi’n llwytho eich ffeil i fyny, bydd angen i chi ddweud a ydych chi am ei disodli neu ei hailenwi.

I ailenwi’r ffeil, cliciwch y botwm Newid Enw (Change Name) [1]. Bydd yr opsiwn hwn yn creu copi dyblyg o’r ffeil gydag enw gwahanol.

I ddisodli’r ffeil, cliciwch y botwm Disodli (Replace) [2].

Gweld Cynnydd y broses Llwytho i Fyny

Gweld Cynnydd y broses Llwytho i Fyny

Bydd bar cynnydd yn ymddangos ar frig y sgrin, yn dilyn cynnydd y broses o lwytho eich ffeil i fyny.

Gweld Ffeiliau

Gweld Ffeiliau

Gweld eich ffeil newydd.