Sut ydw i’n cyflwyno adolygiad gan gyd-fyfyrwyr ar aseiniad?

Efallai y bydd eich addysgwr yn gofyn i chi gyflwyno adolygiad gyd-fyfyrwyr ar aseiniad myfyriwr arall. I gwblhau'r aseiniad, rhaid i chi adolygu aseiniad y myfyriwr ac ychwanegu sylw yn y bar ochr ar gyfer sylwadau.

Os yw eich addysgwr wedi cynnwys cyfarwyddyd sgorio, sef amlinelliad parod o sut mae’r aseiniad yn cael ei raddio, rhaid i chi neilltuo gradd yn defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio. Ond, mae’n bosib y bydd eich addysgwr yn gofyn i chi adael sylwadau yn y bar och sylwadau.

Efallai hefyd y bydd rhai adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn ddienw, sy'n golygu na allwch weld enw'r myfyriwr sydd wedi gwneud yr aseiniad rydych chi’n ei adolygu. Ar ben hynny, fydd y myfyriwr ddim yn gallu gweld eich enw chi fel yr adolygwr pan fyddwch chi'n gadael sylw i gwblhau'r adolygiad.  

Nodiadau:

  • Dim ond yn fersiwn gwe Canvas y mae modd cwblhau adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr.
  • Bydd angen i chi gyflwyno eich aseiniad cyn y gallwch gael mynediad at adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr.
  • Os yw'r hyn a welwch yn Canvas yn wahanol i'r delweddau a ddangosir yn y wers hon, mae'n bosibl bod eich sefydliad yn defnyddio'r rhagolwg nodwedd Gwelliannau Aseiniad - Myfyriwr. Gallwch ddysgu sut i gyflwyno adolygiad gan gymheiriaid ar gyfer aseiniad drwy ddefnyddio Gwelliannau Aseiniad fel myfyriwr.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Nodyn: Gallwch gael mynediad at eich Aseiniadau hefyd drwy eich dangosfwrdd defnyddiwr neu gwrs, y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, neu Fodiwlau.

Agor Aseiniad

O dan y dudalen Mynegai Aseiniadau, gallwch weld unrhyw adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr sydd wedi’u neilltuo i chi. I agor yr adolygiad gan gyd-fyfyrwyr, cliciwch y ddolen Mynnu Adolygiad gan Gymheiriaid (Required Peer Review) [1].

Gallwch weld enw’r myfyriwr sy’n gyfrifol am yr aseiniadau rydych chi’n eu hadolygu [2]. Os yw eich adolygiad gan gyd-fyfyrwyr yn ddienw, bydd enw’r myfyriwr yn ymddangos fel Myfyriwr Dienw.

Nodyn: Os yw eich addysgwr wedi neilltuo aseiniad Dim Cyflwyniad neu Ar Bapur, ni fydd yr adolygiad gan gyd-fyfyrwyr sydd wedi’i neilltuo yn ymddangos ar y dudalen hon. Ond, gallwch chi ei weld ar y Dangosfwrdd. Rhagor o wybodaeth am weld aseiniadau adolygu gan gyd-fyfyrwyr.

Agor Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr wedi’u Neilltuo

Agor Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr wedi’u Neilltuo

O dan Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr wedi’u Neilltuo, rydych yn gallu gweld unrhyw adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr sydd wedi’u neilltuo i chi. Cliciwch enw'r cyd-fyfyriwr sydd wedi'i neilltuo i chi y byddwch chi’n adolygu ei waith. Mae'r eicon arwydd rhybudd yn dangos bod yr adolygiad gan gyd-fyfyrwyr heb ei gwblhau [1]. Bydd eicon tic yn dangos eich bod wedi cwblhau'r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr [2].

Agor Adolygiadau dienw gan Gyd-Fyfyrwyr

Agor Adolygiadau dienw gan Gyd-Fyfyrwyr

Os yw eich adolygiad yn ddienw, does dim modd i chi weld enw'r myfyriwr. Fydd dim modd gweld enw'r myfyriwr yn unrhyw le yn yr aseiniad ychwaith.

Gweld Adolygiad gan Gyd-Fyfyrwyr

I lwytho'r aseiniad i lawr, cliciwch enw’r aseiniad [1]. I weld rhagolwg o’r cyflwyniad, cliciwch y ddolen Gweld Adborth (View Feedback) [2].

Creu Adborth gydag Anodiadau

Os yw'r aseiniad yn gallu delio ag adborth gydag anodiadau, bydd y botwm Rhagolwg (Preview) yn ymddangos fel Gweld Adborth (View Feedback).

I agor y ddogfen gyda Canvas DocViewer, cliciwch y ddolen Gweld Adborth (View Feedback) [1]. Gallwch ychwanegu sylwadau yn syth at y cyflwyniad drwy DocViewer [2].

Gallwch adael adborth uniongyrchol ar yr aseiniad gan ddefnyddio DocViewer, ond does dim modd i chi weld unrhyw adborth sydd wedi cael ei gyflwyno’n barod gan fyfyriwr arall neu’r addysgwr.

Nodyn: Mewn adolygiadau dienw gan gyd-fyfyrwyr, does dim modd i chi adael sylwadau yn DocViewer.

Cwblhau Cyfarwyddyd Sgorio

Os oes gan aseiniad gyfarwyddyd sgorio wedi’i atodi, yna dim ond cyfarwyddyd sgorio cysylltiedig sydd angen ei orffen er mwyn cwblhau’r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.

I weld y cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y ddolen Dangos Cyfarwyddyd Sgorio (Show Rubric) [1].

I sgorio’r aseiniad gyda’r cyfarwyddyd sgorio, dewiswch sgorau cyfarwyddyd sgorio [2] neu rhowch sgôr ar gyfer pob maen prawf yn y golofn Pwyntiau [3]. I ddad-ddewis sgôr cyfarwyddyd sgorio, cliciwch sgôr y cyfarwyddyd sgorio [4].

Bydd pob sgôr y maen prawf yn creu cyfanswm pwyntiau’r aseiniad [5].

Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Cadw Sylw (Save Comment) [6]. Efallai y bydd angen i chi adnewyddu eich porwr i sicrhau eich bod wedi cwblhau'r camau gofynnol ar gyfer yr adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.

Nodiadau:

  • Yn dibynnu ar y ffordd y mae eich addysgwr wedi gosod y cyfarwyddyd sgorio, mae’n bosib y bydd yn cynnwys gwerthoedd pwynt. Os na fydd y cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys gwerthoedd pwynt bydd angen i chi lenwi’r cyfarwyddyd sgorio er mwyn cwblhau’r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.
  • Ar ôl i chi gadw’r cyfarwyddyd sgorio, ni allwch ei olygu i newid eich sylwadau neu sgôr.

Ychwanegu Sylw Aseiniad

Os nad yw eich aseiniad yn cynnwys cyfarwyddyd sgorio, bydd gofyn i chi ychwanegu o leiaf un sylw. Does dim modd i chi weld unrhyw adborth sydd wedi cael ei gyflwyno’n barod gan fyfyriwr arall neu'r addysgwr.

Teipiwch sylw yn y maes sylwadau [1], gadewch sylw ar gyfryngau [2] neu atodwch ffeil [3]. Cliciwch y botwm Cadw (Save) [4].

Nodyn: Pan fydd cwis wedi’i dewi, gallwch weld sylwadau adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. Ond, mae sylwadau addysgwr wedi'u cuddio nes bod yr aseiniad wedi cael ei ddad-dewi.