Sut ydw i’n anfon neges at ddefnyddiwr mewn cwrs yn y Blwch Derbyn fel myfyriwr?

Yn yr adran Blwch Derbyn, gallwch anfon neges at un defnyddiwr neu fwy nag un defnyddiwr mewn cwrs.

Os yw eich rhestr derbynwyr yn cynnwys mwy na 100 o ddefnyddwyr, bydd eich neges yn cael ei hanfon yn awtomatig fel neges unigol at bob defnyddiwr. Byddwch chi, fel yr anfonwr, hefyd yn cael eich cynnwys yng nghyfanswm y derbynwyr.

Dysgu mwy am y Blwch Derbyn.

Sylwch:

  • Ni allwch anfon negeseuon at ddefnyddwyr mewn mwy nag un cwrs ar hyn o bryd.
  • Gallwch hefyd anfon neges atoch chi eich hun, ond dim ond yn y ffolder Negeseuon a Anfonwyd y bydd modd gweld y negeseuon hyn.
  • Bydd defnyddwyr yn ymddangos yn y Blwch Derbyn ar ôl iddyn nhw ymrestru ar y cwrs, ac ni all defnyddwyr ymuno â chwrs oni bai ei fod wedi'i gyhoeddi.
  • Allwch chi ddim anfon negeseuon at ddefnyddwyr mewn cyrsiau sydd wedi dirwyn i ben.

Agor Blwch Derbyn

Agor Blwch Derbyn

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox).

Creu Neges

Cliciwch yr eicon Creu.

Nodyn: Gallai’r bar offer edrych yn wahanol os yw’r gweinyddwr wedi galluogi’r ymateb awtomatig neu’r llofnod. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Sut i reoli gosodiadau fy Mlwch Derbyn (Inbox) fel myfyriwr?

Dewis Cwrs

Dewis Cwrs

Yn y gwymplen Cyrsiau (Course) [1], dewiswch i ba gwrs rydych chi am anfon eich neges [2].

Ychwanegu Defnyddiwr

Ychwanegu Defnyddiwr

Chwilio am y defnyddiwr yn y maes At (To) [1]. Neu, gallwch chi ganfod a dewis defnyddiwr dwy glicio’r botwm Cofrestr y Cwrs (Course Roster) [2].

Chwilio am Ddefnyddiwr

Chwilio am Ddefnyddiwr

I chwilio am ddefnyddiwr, teipiwch enw'r defnyddiwr yn y maes At (To) [1]. Dewiswch enw’r defnyddiwr o’r rhestr [2].

Ychwanegu Mwy nag Un Defnyddiwr

Tynnu Enw’r Derbynnydd

I anfon neges at fwy nag un defnyddiwr, ychwanegwch enwau’r defnyddwyr yn y maes At (To) [1].

Gallwch chi anfon neges unigol at bob derbynydd drwy glicio’r blwch ticio Anfon neges unigol at bob derbynydd (Send an individual message to each recipient) [2].

Defnyddio’r Llyfr Cyfeiriadau

Defnyddio’r Llyfr Cyfeiriadau

I ychwanegu defnyddiwr o gofrestr y cwrs, cliciwch y botwm Llyfr Cyfeiriadau (Address Book) [1]. Dewiswch rôl y defnyddiwr yr hoffech chi ei ychwanegu [2]. Yna dewiswch enw’r defnyddiwr [3] Mae enwau’n cael eu rhestru yn nhrefn y wyddor yn ôl cyfenw.

I ychwanegu mwy nag un defnyddiwr ar eich neges, pwyswch yr allwedd command (Mac) neu’r allwedd control (Windows) a chlicio enw’r defnyddwyr perthnasol.

I fynd yn ôl at gofrestr y cwrs, cliciwch yr opsiwn Yn Ôl (Back) [4].

Anfon Neges

Anfon Neges

Yn y maes llinell pwnc (subject line) [1], rhowch linell pwnc ar gyfer eich neges.

Os ydych chi’n anfon eich neges at fwy nag un defnyddiwr, ond nad ydych am i bob defnyddiwr weld pwy arall sydd wedi'i gynnwys yn y neges, cliciwch y blwch ticio Anfon neges unigol at bob derbynnydd (Send an individual message to each recipient) [2]. Os yw’ch neges yn cynnwys dros 100 o dderbynwyr (gan eich cynnwys chi fel anfonwr), bydd y blwch ticio hwn yn cael ei ddewis yn ddiofyn.

Teipiwch eich neges yn y maes neges (message) [3]. Caiff yr holl gynnwys ei anfon mewn testun plaen. Mae URLs sydd wedi’u cynnwys mewn neges yn cael eu troi’n awtomatig yn ddoleni y mae modd clicio arnynt ar ôl i'r neges gael ei anfon.

I gynnwys atodiad neu ffeil cyfryngau, cliciwch y botymau Atodiad (Attachment) neu Ffeil Cyfryngau (Media File) [4].

Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Anfon (Send) [5].