Sut ydw i’n defnyddio’r Dewin Dechrau Arni ar gyfer e-Bortffolio fel myfyriwr?

Bydd y Dewin Dechrau Arni ar gyfer e-Bortffolio yn eich arwain drwy'r broses o greu eich e-Bortffolio.

Nodyn: Mae’r wers hon yn dangos sut i ddefnyddio Canvas ePortfolios yn eich cyfrif defnyddiwr. Os ydy’r ePortfolios yn eich cyfrif defnyddiwr yn edrych yn wahanol i’r lluniau yn y wers hon, dysgwch sut i ddefnyddio Canvas Student ePortfolios.

Agor e-Bortffolios

Agor e-Bortffolios

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen e-Bortffolios (ePortfolios) [2].

Agor e-Bortffolio

Agor e-Bortffolio

Cliciwch enw e-Bortffolio.

Agor y Dewin Dechrau Arni

Agor y Dewin Dechrau Arni

Cliciwch y ddolen ar gyfer y Dewin Dechrau Arni (Getting Started Wizard).

Gweld y Dewin Dechrau Arni

Bydd y Dewin Dechrau Arni yn ymddangos i ddangos hanfodion eich e-Bortffolio i chi. Gallwch ddarllen am y Cyflwyniad, Adrannau Portffolio, Tudalennau Adrannau, Ychwanegu Cyflwyniadau, Gosodiadau e-Bortffolio a’r adran Ewch Amdani. I gau'r Dewin Dechrau Arni, cliciwch yr eicon cau.

Gweld Cyflwyniad

Mae eich e-Bortffolio yn ffordd o ddangos eich gwaith i'ch cyfoedion, i addysgwyr ac i ddarpar gyflogwyr. Mae e-Bortffolios yn cynnwys adrannau a thudalennau y mae modd eu haddasu, ac fe allwch chi ychwanegu a thynnu gwahanol fathau o wybodaeth.

Gweld Adrannau Portffolio

Adrannau portffolio yw'r dolenni rydych chi’n eu defnyddio i grwydro drwy’ch portffolio. Mae pob adran yn gallu cynnwys mwy nag un dudalen. Gallwch chi drefnu’r adrannau drwy glicio’r ddolen Trefnu Adrannau (Organize Sections). Gallwch chi hefyd ailenwi adran drwy glicio’r eicon pensil, aildrefnu adrannau drwy glicio a llusgo, neu ddileu adrannau drwy glicio'r eicon x.

Gweld Tudalennau Adran

Mae tudalennau adran yn rhan o ddolenni’r adran. I drefnu neu ychwanegu tudalennau, cliciwch y ddolen Trefnu/Rheoli Tudalennau (Organize/Manage Pages). Gallwch chi hefyd ailenwi tudalen drwy glicio’r eicon pensil, aildrefnu adrannau drwy glicio a llusgo, neu ddileu adrannau drwy glicio'r eicon x.

Gweld yr Adran Ychwanegu Cyflwyniadau

Gallwch ychwanegu aseiniadau at eich portffolio o’ch dosbarthiadau presennol a'ch dosbarthiadau blaenorol. Efallai i chi sylwi bod rhestr o gyflwyniadau diweddar ar gyfer eich dosbarthiadau yn ymddangos ar waelod y dudalen hon. Ar y dudalen hon, gallwch ychwanegu cyflwyniadau’n gyflym at dudalennau newydd yn eich portffolio. Cliciwch y cyflwyniad rydych am ei ychwanegu, a bydd blwch deialog syml yn ymddangos.

Gweld Gosodiadau e-Bortffolio

I newid y gosodiadau ar gyfer eich e-Bortffolio, cliciwch y ddolen Gosodiadau e-Bortffolio (ePortfolio Settings). Gallwch ailenwi’r portffolio, a’i newid i fod yn gyhoeddus neu’n breifat. Dim ond y rheini a fydd yn cael caniatâd gennych chi fydd yn gallu gweld portffolios preifat.

Gweld yr Adran Ewch Amdani

Barod i ddechrau arni? Gallwch fynd yn ôl at y dewin hwn o unrhyw dudalen ar unrhyw adeg drwy glicio’r ddolen "Sut ydw i’n...?" ("Help How Do I...?").