Sut ydw i’n mewngofnodi i’r ap Myfyriwr ar fy nyfais iOS gydag URL Canvas?

Ar ôl i chi lwytho’r ap Canvas Student i lawr o’r iTunes store, gallwch chi ddefnyddio’r ap i fewngofnodi i’ch cyfrif Canvas.

Gallwch chi roi enw’ch sefydliad i mewn i’r ap i ddod o hyd i’ch cyfrif. Os nad yw’r ap yn gallu dod o hyd i’ch sefydliad yn ôl ei enw, gallwch chi roi URL Canvas eich sefydliad i mewn i’r ap. Os nad ydych chi’n gwybod eich URL Canvas, gallwch chi fewngofnodi’n defnyddio cod QR, sydd ddim angen i chi wybod eich URL Canvas ar gyfer yr ap symudol.

Os oes gennych chi fwy nag un cyfrif ac nad ydych chi eisiau mewngofnodi i’r ap bob tro, dysgwch sut i newid i gyfrif defnyddiwr arall.

Mae'r delweddau yn y wers hon yn dangos yr hyn sydd i’w weld ar ffonau, ond os na nodir yn wahanol, mae'r un camau i’w gweld ar ddyfais tabled.

Agor Ap Canvas Student

Agor Ap Canvas Student

Agorwch eich dyfais a thapio’r eicon Canvas Student.

Dod o hyd i Sefydliad

Dod o hyd i Sefydliad

Cliciwch y botwm Dod o hyd i fy Ysgol (Find My School).

Chwilio am Enw Sefydliad

Chwilio am Enw Sefydliad

Rhowch enw eich rhanbarth ysgol neu sefydliad. Os bydd yr enw llawn yn ymddangos yn y rhestr chwilio, tapiwch yr enw.

Nodiadau:

  • Os ydych chi’n weinyddwr ac nad yw eich ysgol yn ymddangos yn y rhestr chwilio, cysylltwch â’ch CSM am chwilio clyfar symudol.
  • I fewngofnodi i gyfrif Am Ddim i Athrawon, rhowch Cyfrifon Canvas Am Ddim neu canvas.instructure.com yn y maes chwilio.

Rhoi URL Canvas

Rhoi URL Canvas

Os nad yw enw eich sefydliad yn ymddangos yn y rhestr chwilio, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i’ch cyfrif Canvas drwy roi’r URL Canvas llawn yn y maes testun Dod o hyd i'ch ysgol neu'ch ardal (Find your school or district).

Os nad ydych chi’n gwybod eich URL Canvas, tapiwch y ddolen Tapiwch yma i gael help (Tap Here for Help). Neu gallwch chi fewngofnodi gan ddefnyddio cod QR, sydd ddim yn golygu gwybod eich URL Canvas.

Gweld URL Canvas Blaenorol

Gweld URL Canvas Blaenorol

Os ydych chi wedi mewngofnodi i’r ap o’r blaen, bydd eich URL Canvas yn ymddangos. I fewngofnodi eto, tapiwch y botwm URL Canvas [1].

Os gwnaethoch chi newid defnyddwyr yr ap o’r blaen, i fewngofnodi eto, gallwch chi dapio’r cyfrif defnyddiwr [2].

Rhoi Manylion Mewngofnodi

Rhoi Manylion Mewngofnodi

Ar ôl i chi ddod o hyd i gyfrif, gallwch chi weld yr URL Canvas ar frig y sgrin [1]. Rowch eich e-bost [2] a’ch cyfrinair [3]. Tarwch y botwm Mewngofnodi (Log In) [4].

Os nad ydych chi’n gwybod eich cyfrinair, tapiwch y ddolen Wedi Anghofio’r Cyfrinair? (Forgot Password?) [5].

Nodiadau:

  • Mae manylion adnabod maes e-bost Canvas yn amrywio yn ôl y sefydliad. Efallai y bydd rhai sefydliadau’n gofyn am enw defnyddiwr neu rif cyfrif.
  • Os nad yw eich tudalen mewngofnodi symudol Canvas yn dangos yr opsiwn ailosod cyfrinair, cysylltwch â’ch sefydliad os oes angen i chi ailosod eich cyfrinair.
  • Os yw eich sefydliad yn gofyn i chi fewngofnodi i Canvas gan ddefnyddio eu system awdurdodi, byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio i dudalen fewngofnodi i’ch sefydliad.

Gweld Dangosfwrdd

Gweld Dangosfwrdd

Gweld y dangosfwrdd ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.

Dysgu sut mae defnyddio’r ap Myfyriwr.