Sut ydw i’n creu hyperddolen o Microsoft Office 365 yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?

Os yw eich cwrs wedi galluogi Microsoft Office 365, gallwch chi greu dogfen, cyflwyniad sleid, neu daenlen yn eich OneDrive a chreu hyperddolen i’r ddogfen honno unrhyw le lle gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn Canvas. Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.

Pan mae ffeiliau cael eu cysylltu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, mae’r ddolen yn dangos union enw’r ffeil. Gwnewch yn siŵr bod enwau eich ffeiliau yn gywir cyn cysylltu ffeil.

Nodiadau: 

  • Os na allwch chi weld yr opsiwn Microsoft Office 365 yn newislen Adnoddau LTI y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gallwch chi dal gynnwys eich ffeil drwygreu hyperddolen neu gyhoeddi eich cynnwys Microsoft Office 365 ar y we a gludo’r cod plannu yn y golygydd HTML.
  • Nid oes modd delio â ffeiliau PDF sydd wedi’u hychwanegu drwy Microsoft Office 365 nad oes modd eu rhagweld yn Sharepoint i’w rhagweld yn Canvas. I weld rhagolwg o ffeiliau PDF, bydd angen i chi eu hychwanegu at ffeiliau cwrs a’u cysylltu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.

Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).

Agor Apiau

Agor Apiau

Gallwch chi wedi rhestr o adnoddau allanol o’r bar dewislen. Cliciwch y ddolen Adnoddau (Tools) [1]. Crwydrwch i’r opsiynau Apiau (Aps) [2], a dewiswch yr opsiwn Gweld Pob Un (View All) [3].

Neu, gallwch chi weld eich apiau yn y bar offer. Yn y bar offer, cliciwch yr eicon Ap (App) [4].

Nodyn: I weld yr eicon Ap, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [5].

Gweld Apiau a Ddefnyddiwyd yn Ddiweddar

Gweld Apiau a Ddefnyddiwyd yn Ddiweddar

Os ydych chi eisoes wedi defnyddio ap allanol o’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gallwch chi agor apiau rydych chi wedi’u defnyddio’n ddiweddar yn gyflym.

I weld apiau a ddefnyddiwyd yn ddiweddar, cliciwch yr eicon Ap (App) [1]. Yna dewiswch yr ap rydych chi am ei agor [2].

I weld pob ap, cliciwch y ddolen Gweld Pob Un (View All) [3].

Agor Microsoft Office 365

Agor Microsoft Office 365

Cliciwch y ddolen Microsoft Office 365 [1].

Gallwch hefyd hidlo opsiynau dewislen gan ddefnyddio’r maes Chwilio (Search) [2]:

Nodyn: Os nad yw’r ddolen Microsoft Office 365 yn ymddangos, efallai nad yw’r LTI wedi’i alluogi ar eich cwrs. Gallwch chi dal gynnwys eich ffeil drwy greu hyperddolen neu gyhoeddi eich cynnwys i’r we a gludo’r cod wedi’i blannu yn y golygydd HTML.

Atodi Ffeil

Dod o hyd i’r ffeil rydych chi eisiau ei chysylltu a chlicio’r blwch ticio wrth enw’r ffeil [1]. Cliciwch y botwm Atodi Ffel (Attach File) [2].

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).

Gweld Cynnwys

Gweld Cynnwys

Gweld y cynnwys