Gallwch gael help gyda Canvas drwy ddefnyddio'r ddewislen Help. Mae’r ddewislen Help yn creu rhestr o adnoddau i'ch helpu chi gyda Canvas. Mae Canvas yn dangos dolenni yn ôl rolau ar gyfer pob ymrestriad; er enghraifft, os ydych chi’n fyfyriwr gyda math o rôl addysgwr ar gyfer un cwrs, bydd y ddewislen Help yn dangos dolenni sydd ar gael i fyfyrwyr ac addysgwyr.
Mae’r wers hon yn amlinellu'r dolen help ddiofyn a all fod wedi’u cynnwys yn y ddewislen Help ar gyfer eich sefydliad. Fodd bynnag, efallai y bydd eich sefydliad yn addasu dewislen Help Canvas i guddio dolenni diofyn ac yn creu dolenni personol fel adnoddau.
Nodyn: Yn ddibynnol ar eich sefydliad, efallai na fydd y ddewislen Help ar gael.
Ar waelod y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Help.
Nodyn: Yn ddibynnol ar eich sefydliad, efallai y bydd enw ac eicon y ddolen Help yn amrywio.
Yn ddibynnol ar eich rôl defnyddiwr, mae saith dolen ddiofyn ar gyfer help neu adborth:
Gall eich sefydliad newid trefn neu dynnu’r dolenni diofyn.
Gall eich sefydliad dynnu neu newid pa ddolen sy’n ymddangos fel dolen nodwedd [1] a pha ddolen sy’n dangos y Label Newydd [2].
Yn olaf, gall eich sefydliad gynnwys dolenni personol yn y ddewislen Help. Gall dolenni personol gynnwys tudalennau ar gyfer rhifau ffôn, gwybodaeth am gymorth, ac adnoddau eraill.
Bydd y ddolen Chwilio drwy Ganllawiau Canvas yn eich helpu chi i chwilio drwy ddogfennau Canvas am wybodaeth ynghylch nodweddion Canvas.
Mae’r ddolen Adnoddau COVID-19 Canvas (COVID-19 Canvas Resources) yn gadael i ddefnyddwyr weld awgrymiadau ar gyfer dysgu ar-lein yn defnyddio Canvas.
Mae’r ddolen Canllawiau Cynadledda ar gyfer Dosbarthiadau o Bell yn caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at ganllawiau ac adnoddau ar gyfer defnyddio gwe-gynadledda mewn dosbarthiadau o bell .... Mae’n bosib na fydd y ddolen hon yn ymddangos yn eich dewislen Help Canvas.
Mae'r ddolen Rhoi Gwybod am Broblem (Report a Problem) yn eich helpu chi i roi gwybod am broblemau yn Canvas.
Efallai y byddwch yn cael ateb i’ch cwestiwn yn gyflymach drwy chwilio drwy Ganllawiau Canvas. Ond os na allwch ddod o hyd i ateb, gallwch anfon tocyn a chael cymorth.
Yn y maes pwnc (subject) [1], gallwch greu pwnc ar gyfer eich tocyn.
Yn y maes disgrifiad (description) [2], disgrifiwch y broblem rydych chi'n ei chael yn Canvas. Rhowch gymaint o fanylion â phosib er mwyn helpu i ddatrys y broblem. Os ydych chi’n cyflwyno tocynnau yn aml, efallai y byddai'n well gennych chi ddefnyddio rhaglen sgrincast i greu dolen ar-lein at ddelwedd neu greu fideo tywys. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n gyfforddus yn defnyddio dolenni ar-lein, gallwch gyflwyno atodiadau yn nes ymlaen os bydd angen; ar ôl i chi gyflwyno’r tocyn, byddwch yn cael e-bost gan y tîm cymorth. Gallwch ateb yr e-bost gydag unrhyw atodiad yn ôl yr angen.
Yn y gwymplen [3], dewiswch y datganiad sy'n rhoi’r disgrifiad gorau o sut mae'r broblem yn effeithio arnoch chi:
Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Cyflwyno Tocyn (Submit Ticket) [4].
Yn ddibynnol ar amserlen cymorth eich sefydliad, byddwch yn cael ateb cyn gynted â phosib.
Mae’r ddolen Gofyn Cwestiwn i’ch Addysgwr (Ask Your Instructor a Question) yn caniatáu i chi gysylltu ag addysgwr neu gynorthwyydd dysgu yn uniongyrchol o’r dudalen help mewn unrhyw rai o’ch cyrsiau gweithredol.
Yn y gwymplen cwrs (course) [1], dewiswch y cwrs sy’n berthnasol i'ch cwestiwn. Yn y maes Neges (Message) [2], rhowch y neges ar gyfer eich addysgwr/addysgwyr.
Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Anfon Neges (Send Message) [3]. Bydd atebion yn cael eu hanfon i'ch blwch derbyn ar gyfer yr adran Sgyrsiau. Os yw eich cwrs yn cynnwys mwy nag un addysgwr neu gynorthwyydd dysgu, bydd eich neges yn cael ei hanfon fel neges grŵp at bob addysgwr/cynorthwyydd dysgu ar y cwrs.
Mae'r ddolen Gofyn i’r Gymuned (Ask the Community) yn caniatáu i ddefnyddwyr sydd â math o rôl addysgwr, cynorthwyydd dysgu neu ddylunydd gydweithio ag aelodau eraill o gymuned Canvas i gael atebion i gwestiynau Canvas. Mae’r ddolen hon yn mynd â chi i’r man Dod o Hyd i Atebion yng Nghymuned Canvas.
Mae’r ddolen Cyflwyno Syniad am Nodwedd yn caniatáu i chi gyflwyno syniad am nodwedd i Canvas. Mae'r ddolen hon yn mynd â chi i’r man Syniadau am Nodweddion yng Nghymuned Canvas.
Mae’r ddolen Dangos Taith Groeso (Show Welcome Tour) yn dangos i chi sut i ddod o hyd i’ch cyrsiau, cysylltu â’ch addysgwr, a llwyddo’r ap myfyrwyr i lawr.