Sut ydw i’n llwytho ffeil i fyny fel cyflwyniad aseiniad yn Canvas?

Os yw eich addysgwr yn caniatáu llwytho ffeil i fyny fel math o gyflwyniad, gallwch chi lwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur fel cyflwyniad aseiniad. Mae Canvas yn newid mathau penodol o ffeiliau fel rhagolygon ac yn gallu delio â mathau penodol o ffeiliau wedi’u llwytho i fyny.

Mae ffeiliau sydd wedi’u llwytho i fyny drwy Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cyfrif tuag eich cwota storio defnyddiwr. Bydd unrhyw atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o’r broses o gyflwyno'r aseiniad wedi'i raddio yn cael eu copïo hefyd i’ch ffeiliau defnyddiwr ond fyddan nhw ddim yn cael eu cyfrif yn erbyn eich cwota defnyddiwr. Ond, ar ôl llwytho'r ffeil i fyny fel cyflwyniad, does dim modd i chi ddileu’r ffeil. Mae ffeiliau sydd wedi’u cyflwyno’n cael eu storio yn y ffolder Cyflwyniadau (Submissions).

Os yw eich sefydliad wedi galluogi Google Drive fel math o gyflwyniad, gallwch chi hefyd lwytho ffeil i fyny o Google Drive.

Nodiadau:

  • Dydy Canvas ddim yn gallu delio â ffeiliau wedi’u llwytho i fyny sy’n fwy na 5 GB.
  • Os yw wedi’i alluogi yn eich cyfrif, bydd Canvas yn chwarae animeiddiad ddathlu (conffeti) pan fyddwch chi’n cyflwyno aseiniad ar amser. Ond, os byddai’n well gennych chi, gallwch chi analluogi’n opsiwn nodwedd hwn yn eich gosodiadau defnyddiwr.
  • Os ydy’r aseiniad rydych chi’n edrych arno yn ymddangos yn wahanol, mae’n bosibl bod eich aseiniad yn defnyddio’r nodwedd Gwelliannau Aseiniad.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Dewis Aseiniad

Dewis Aseiniad

Cliciwch deitl yr aseiniad.

Dechrau Aseiniad

Dechrau Aseiniad

Cliciwch y botwm Dechrau Aseiniad (Start Assignment).

Ychwanegu Ffeil

Ychwanegu Ffeil

I lwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur, cliciwch y botwm Llwytho Ffeil i Fyny (Upload File) [1]. Pan fydd ffenestr y ffeil yn ymddangos, chwiliwch am y ffeil a chlicio enw’r ffeil. Ar waelod y ffenestr, cliciwch y botwm Dewis (Choose) neu Pori (Browse) (yn dibynnu ar eich porwr).

I lwytho ffeil i fyny rydych chi wedi’i llwytho i fyny i Canvas yn barod, cliciwch y ddolen Cliciwch yma i ddod o hyd i ffeil... (Click here to find a file...) [2]. Bydd rhestr y ffeil yn ehangu. Cliciwch enw’r ffeil.

Os oes gennych chi fynediad i lwytho ffeil i fyny o Google Drive gallwch gyflwyno ffeil Google drwy glicio'r tab Google Drive [3].

Ychwanegu Ffeil Arall

Ychwanegu Ffeil

Os oes angen i chi lwytho ffeil arall i fyny, cliciwch y ddolen Ychwanegu Ffeil Arall (Add Another File).

Sylwch: Dim ond o’ch cyfrifiadur y gallwch chi lwytho ffeiliau ychwangol i fyny.

Cyflwyno Aseiniad

Cyflwyno Aseiniad

Cliciwch y botwm Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment).

Gweld Statws Cyflwyniad

Gweld Statws Cyflwyniad

Mae ffeiliau mawr yn dangos dangosydd statws cyflwyno.

Gweld Cyflwyniad

Gweld y cadarnhâd bod eich aseiniad wedi’i gyflwyno.