Sut ydw i’n gweld canlyniadau cwis fel myfyriwr?
Mae canlyniadau cwis yn hawdd eu darllen yn Canvas. Fel myfyriwr, gallwch weld gwahanol fathau o ganlyniadau cwis, gan ddibynnu ar yr hyn mae eich addysgwr wedi ei ddewis.
Nodyn: Efallai bod eich addysgwr yn defnyddio adnodd cwis wedi’i uwchraddio o’r enw New Quizzes ar eich cwrs. Os ydy’r cwis rydych chi’n edrych arno’n edrych yn wahanol, yna mae’n bosib bod eich addysgwr yn defnyddio New Quzzes. Gall swyddogaethau'r mathau gwahanol o gwisiau amrywio. Am gymorth gyda chanlyniadau cwis, darllenwch Sut ydw i'n gweld fy nghanlyniadau cwisiau fel myfyriwr yn New Quizzes?
Agor Cwisiau
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Agor Cwis
Cliciwch deitl y cwis.
Gweld Canlyniadau Cwis
Mae’r sgrin canlyniadau cwis yn cynnwys sawl maes:
- Hanes Ymgeisio
- Canlyniadau Cwis
- Manylion Cyflwyniad
Canlyniadau Cwis ddim ar gael
Os ydy eich addysgwr wedi cuddio eich graddau cwis, ni fydd y canlyniadau ar gael nes bod y graddau wedi'u postio.
Gweld Hanes Ymgeisio
Mae Hanes Ymgeisio yn dangos eich ymgais ddiweddaraf ar y cwis, yr amser a gymerwyd i wneud y cwis a’ch sgôr.
Hanes Ymgeisio - Mwy Nag Un Ymgais ar y Cwis
Os ydych chi wedi rhoi sawl ymgais ar gwis, bydd yr hanes yn dangos canlyniadau pob ymgais. Mae gan bob ymgais hyperddolen a fydd yn dangos canlyniad pob cwis, a hynny yn eu trefn.
Gweld Canlyniadau Cwis
Os bydd eich hyfforddwr yn caniatáu hynny, gallwch weld canlyniadau eich cwis ynghyd â'r atebion cywir. Bydd y dudalen hon hefyd yn dangos eich sgôr gyflawn, amser a dyddiad cyflwyno’r cwis a’r amser a gymerwyd i gwblhau'r cwis.
Gweld Atebion Cywir
Os bydd eich hyfforddwr yn caniatáu i chi weld yr atebion cywir, bydd y canlyniadau cwis yn dangos eich atebion ynghyd â’r atebion cywir.
Bydd atebion cywir sydd wedi’u marcio gennych yn cael eu nodi ar ffurf baner werdd [1]. Bydd atebion anghywir yn cael eu nodi ar ffurf baner goch yn pwyntio at eich ateb [2]. Bydd atebion cywir yn cael eu nodi ar ffurf baner lwyd [3].
Gweld Ymatebion Cwis yn Unig
Os nad yw eich addysgwr yn caniatáu i chi weld yr atebion cywir, bydd y canlyniadau cwis yn dangos eich ymatebion yn unig ac yn nodi a ydynt yn gywir ynteu’n anghywir.
Gweld Canlyniadau Cwis a Ddiogelir
Bydd rhai addysgwyr yn eich rhwystro chi rhag gweld eich canlyniadau cwis o gwbl. Mae'r gosodiad hwn yn gyffredin ar gyfer cwisiau y mae modd rhoi sawl ymgais arnynt.
Gweld Manylion Cyflwyniad
Mae Manylion Cyflwyniad yn ffordd arall o weld eich canlyniadau cwis. Caiff manylion cyflwyniad eu harddangos yn y bar ochr a byddant yn dangos yr amser a gymerwyd i wneud y cwis [1], eich sgôr bresennol [2], a’r sgôr sydd wedi'i chadw [3], sef y sgôr mae Canvas yn ei chofnodi yn y Llyfr Graddau.
Nodyn: Os yw eich sgôr bresennol yn cynnwys seren, ni fydd pob cwestiwn wedi’i raddio gan eich addysgwr, fel cwestiynau traethawd a chwestiynau llwytho ffeil i fyny. Hefyd, gallwch weld statws eich cwis ar eich tudalen Graddau.
Manylion Cyflwyniad - Mwy Nag Un Ymgais ar y Cwis
Os ydych chi wedi rhoi mwy nag un ymgais ar gwis, bydd y manylion cyflwyniad yn parhau i ddangos y sgôr bresennol [1] a’r sgôr sydd wedi’i chadw [2]. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, bydd y sgôr sydd wedi'i chadw yn cael ei rhoi gan eich addysgwr a gall roi sgôr eich ymgais diweddaraf ar y cwis, eich sgôr uchaf ar y cwis neu gyfartaledd eich sgorau i gyd. Nodir y sgôr sydd wedi’i chadw ar waelod yr adran manylion cyflwyno [3].
Gweld Ymgeisiau Blaenorol
Gallwch hefyd weld ymgeisiau blaenorol drwy’r manylion cyflwyno ar y bar ochr. Cliciwch y ddolen Gweld Ymgeisiau Blaenorol (View Previous Attempts).
Gweld Canlyniadau Cwis ar gyfer Ymgeisiau Blaenorol
Bydd pob ymgais ar y cwis yn cael ei restru yn y bar ochr a bydd hyperddolen i'r canlyniadau cwis. Cliciwch yr ymgais rydych chi am ei weld [1]. Bydd y canlyniadau cwis ar gyfer yr ymgais hwnnw’n ymddangos [2]. Cofiwch y bydd yr un gosodiadau'n berthnasol i’r canlyniadau cwis, felly efallai mai dim ond eich ymatebion y byddwch yn gallu eu gweld, neu efallai na fyddwch yn gallu gweld y canlyniadau cwis o gwbl.
I ddychwelyd i’r cwis, cliciwch y ddolen Yn Ôl i Cwis (Back to Quiz) [3].