Sut ydw i’n cyflwyno ffeil cyfryngau fel cyflwyniad aseiniad?

Gallwch chi lwytho ffeil sain neu fideo i fyny i’w cyflwyno fel aseiniad yn Canvas. Gallwch chi hefyd ddefnyddio Canvas i recordio ffeil sain neu fideo i’w cyflwyno fel aseiniad. Cyn cyflwyno aseiniad, efallai yr hoffech chi fwrw golwg dros holl wybodaeth yr aseiniad, fel cyfarwyddyd sgorio’r aseiniad, os oes un. Gallwch hefyd gyflwyno aseiniadau gan ddefnyddio eich dyfais Android neu iOS.

I ddysgu mwy am yr opsiynau sydd ar gael i ddefnyddio ffeiliau cyfryngau yn Canvas, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cymharu Cyfryngau Canvas.

Nodiadau:

  • Dydy Canvas ddim derbyn ffeiliau cyfyngau wedi’u llwytho i fyny sy’n fwy na 500 MB.
  • Bydd eich addysgwr yn penderfynu pa fath o gyflwyniadau a ganiateir. Efallai na fydd yr un o’r opsiynau hyn ar gael. Hefyd, mae’n bosib y bydd gennych chi’r opsiwn i ailgyflwyno aseiniadau os yw eich addysgwr yn caniatáu hyn.
  • Ni fydd modd cyflwyno pob un o’ch aseiniadau ar-lein. Os na allwch chi weld y ddolen Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment), yna efallai bod eich addysgwr am i chi gyflwyno eich aseiniad mewn ffordd wahanol, neu fod y dyddiad ar gael wedi mynd heibio. Ewch i weld y disgrifiad o'r aseiniad i gael cyfarwyddiadau, neu cysylltwch â'ch addysgwr i gael help.
  • Nid yw ffeiliau wedi’u llwytho i fyny a’u cyflwyno yn cyfrif tuag at gwota storio’r defnyddiwr, ond mae’r rheini sydd wedi’u llwytho i fyny drwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cyfrif tuag at gwota storio’r defnyddiwr.
  • Os yw wedi’i alluogi, bydd Canvas yn chwarae animeiddiad ddathlu pan fyddwch chi’n cyflwyno aseiniad ar amser. Ond, os byddai’n well gennych chi, gallwch chi analluogi’n rhagolwg nodwedd hwn yn eich gosodiadau defnyddiwr.
  • Os ydy’r aseiniad rydych chi’n edrych arno yn ymddangos yn wahanol, efallai bod eich aseiniad yn defnyddio’r nodwedd Gwelliannau Aseiniad.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Agor Aseiniad

Agor Aseiniad

Cliciwch enw’r aseiniad.

Cyflwyno Aseiniad

Cyflwyno Aseiniad

Cliciwch y botwm Dechrau Aseiniad (Start Assignment).

Nodyn: Os na allwch chi weld y botwm Dechrau Aseiniad, yna efallai nad yw eich addysgwr am i chi gyflwyno eich aseiniad ar-lein neu fod y dyddiad ar gael wedi mynd heibio. Ewch i weld y disgrifiad o'r aseiniad i gael cyfarwyddiadau, neu cysylltwch â'ch addysgwr i gael help.

Gweld Hysbysiad am Radd Derfynol

Gweld Hysbysiad am Radd Derfynol

Efallai y bydd baner yn ymddangos uwchben eich aseiniad i dangos bod eich addysgwr wedi tynnu’r aseiniad o gyfrifiadau'r radd gyflawn. Fodd bynnag, dydy’r gosodiad hwn ddim yn effeithio ar aseiniadau sy’n cael eu cyflwyno.

Dewis Cyfryngau

Recordio Cyfryngau/Llwytho Cyfryngau i Fyny drwy’r Tab Cyfryngau

I agor yr adnodd llwytho cyfryngau i fyny, dewiswch y tab Cyfyngau (Media) [1] a chlicio’r botwm Recordio Cyfryngau/Llwytho Cyfryngau i Fyny (Record/Upload Media) [2].

Recordio Cyfryngau

Recordio Cyfryngau

Mae gennych chi’r opsiwn i recordio fideo neu recordio sain i’w llwytho i fyny i’r aseiniad.

I ddewis meicroffon ar gyfer eich recordiad, cliciwch y botwm Meicroffon (Mic) [1]. I ddewis gwe-gamera, neu, i ddiffodd y gwe-gamera ar gyfer recordiadau sain yn unig, cliciwch y botwm Gwe-gamera (Webcam) [2].

Nodyn: Os byddwch chi’n cael gwall sy’n dweud, "Nid yw llwytho sylwadau cyfryngau i fyny wedi cael ei osod yn iawn," cysylltwch â’ch addysgwr.

Llwytho Cyfryngau i fyny

Llwytho Cyfryngau i fyny

Gallwch chi lwytho ffel sain [1] i fyny neu lwytho ffeil fideo [2] i fyny i’ch aseiniad. Mae’r broses yr un fath i’r ddau.

Dewis Ffeil Cyfryngau

Dewis Ffeil Cyfryngau

Dewiswch y ffeil rydych chi eisiau ei llwytho i fyny a chlicio Agor (Open) i ddechrau llwytho’r ffeil i fyny.

Monitro Llwytho Ffeil i Fyny

Monitro Llwytho Ffeil i Fyny

Monitro llwytho’r ffeil i fyny Bydd y broses lwytho i fyny’n dod i ben yn awtomatig.

Cyflwyno Aseiniad

Cyflwyno Aseiniad

Gweld eich recordiad cyfryngau wedi’i lwytho i fyny ym mlwch cyflwyno’r aseiniad [1]. Gallwch chi ychwanegu sylwadau testun at eich recordiad [2].

I ddisodli’r cyfryngau sydd wedi’u recordio neu eu llwytho i fyny cyn cyflwyno eich aseiniad, adnewyddwch eich porwr gwe a recordio neu lwytho eich cyfryngau i fyny unwaith eto.

I ail-gyflwyno eich recordiad, cliciwch y botwm Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment) [3].

Gweld Aseiniad wedi’i Gyflwyno

Mae’r Bar Ochr yn dangos gwybodaeth am eich cyflwyniad [1].

Os yw eich addysgwr yn caniatáu, gallwch chi ddewis ailgyflwyno fersiwn arall o’ch aseiniad drwy glicio’r botwm Ymgais Newydd (New Attempt) [2]. Dim ond manylion eich cyflwyniad diwethaf fyddwch chi’n gallu eu gweld yn y Bar Ochr, ond bydd eich addysgwr yn gallu gweld pob un o'ch cyflwyniadau.

Ar ôl i’r addysgwr raddio eich cyflwyniad, bydd y ddolen Graddau yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs yn dangos dangosydd graddio.  Hefyd, gallwch weld manylion am eich aseiniad a dolenni at adborth ychwanegol yn eich tudalen Graddau.

Nodiadau:

  • Ar ôl cyflwyno aseiniad, bydd yr aseiniad yn dal yn ymddangos yn yr adran Aseiniadau (Assignments) a’r adran Maes Llafur (Syllabus); ni fydd yn cael ei dynnu pan fydd yr aseiniad yn cael ei gyflwyno.
  • Pan fyddwch chi’n ailgyflwyno aseiniad, dim ond yr aseiniad diwethaf fydd ar gael i chi ei weld. Ond, bydd addysgwyr yn gallu gweld pob un o'ch cyflwyniadau.