Sut ydw i’n gweld sylwadau aseiniad gan fy addysgwr?
Gallwch chi weld sylwadau gan eich addysgwr yn y dudalen Graddau. Mae’r rhan fwyaf o sylwadau wedi’u lleoli yn y bar ochr aseiniad.
Efallai y bydd eich addysgwr hefyd yn gadael sylwadau yn eich cyflwyniad aseiniad fel anodiadau. Dysgu sut i weld sylwadau adborth gydag anodiadau.
Agor Graddau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Gweld Sylwadau Aseiniad
Chwiliwch am yr aseiniad a chlicio’r eicon Sylw (Comment) [1]. Gweld y sylwadau yn yr aseiniad [2]. Ar gyfer pob sylw, gallwch chi weld awdur, dyddiad, ac amser y sylw [3].
I weld manylion yr aseiniad, cliciwch yr eicon Adborth (Feedback) [4].
Gweld Sylwadau
Mae unrhyw sylwadau gan addysgwr sy’n cael eu hychwanegu at eich cyflwyniad, ynghyd ag unrhyw sylwadau sy’n cael eu hychwanegu gennych ch, yn ymddangos yn adran Adborth y bar ochr [1]. Gall y sylwadau hyn fod yn sylwadau testun, yn sylwadau cyfryngau, neu’n ffeiliau wedi’u hatodi.
I weld sylw cyfryngau, cliciwch y botwm Chwarae (Play) [2]. I reoli lefel sain, cyflymder, a maint y chwaraewr cyfryngau, cliciwch y botymau Lefel Sain (Volume), Capsiynau (Captions), Gosodiadau (Settings), a Sgrin Lawn (Full Screen) [3].
I agor ffeil wedi’i hatodi, cliciwch y ddolen enw’r ffeil (file name) [4].
Os yw eich aseiniad yn cynnwys cyfarwyddyd sgorio [5], gall eich addysgwr hefyd adael sylwadau yn y cyfarwyddyd sgorio. Mae’r ddolen Dangos Cyfarwyddyd Sgorio yn cynnwys dangosydd os oes sylwadau wedi cael eu hychwanegu mewn cyfarwyddyd sgorio [6].
Gweld Sylwadau gydag Anodiadau
Os ydych chi wedi cyflwyno’r aseiniad gyda ffeil wrthi’n llwytho i fyny, efallai y bydd eich addysgwr wedi cynnwys adborth wedi’i anodi yn eich aseiniad.
Ar y dudalen Manylion Cyflwyniad, mae ffeiliau sy’n gallu delio ag anodiadau yn dangos dolen Gweld Adborth (View Feedback) wrth y cyflwyniad [1]. Os oes sylwadau wedi’u hanodi wedi cael eu hychwanegu at aseiniad, mae’r ddolen Gweld Adborth yn cynnwys dangosydd[2]. Dysgu mwy am sut i weld sylwadau gydag anodiadau.
Wrth weld manylion cyflwyniad, gallwch chi hefyd weld sylwadau ar gyfryngaau drwy glicio’r eicon Chwarae (Play) [3] neu weld ffeiliau wedi’u hatodi drwy glicio’r ddolen enw’r ffeil [4].
Ychwanegu Sylw
Wrth weld sylwadau gan eich addysgwr, gallwch chi hefyd roi sylw eich hun yn y maes Rhoi Sylw (Add a Comment).