Sut ydw i’n gweld Cwisiau (Quizzes) fel myfyriwr?

Gallwch weld cwisiau yn eich cwrs drwy fynd i’r dudalen Cwisiau (Quizzes). Dysgwch sut mae gweld pob math o gwis sy’n gallu ymddangos yn eich cwrs.

Nodyn: Gall eich addysgwr ddewis cuddio’r ddolen Cwisiau (Quizzes) yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation). Os nad yw’r ddolen Cwisiau (Quizzes) ar gael, gallwch gael gafael ar y Cwisiau (Quizzes) drwy rannau eraill o Canvas.

Agor Cwisiau

Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).

Nodyn: Os nad yw’r ddolen Cwisiau ar gael yn yr adran Crwydro’r Cwrs, gallwch chi gael mynediad at gwisiau cwrs drwy'r dudalen Modiwlau.

Gweld Cwisiau

Gweld Cwisiau

Mae cwisiau’n cael eu dynodi gan yr eicon cwis [1].

Ar Dudalen Mynegai Cwis (Quiz Index Page), gallwch weld enw pob cwis [2], dyddiadau mae'r cwis ar gael [3], dyddiad erbyn y cwis [4], gwerth pwyntiau’r cwis [5], a nifer y cwestiynau yn y cwis[6].

Mae cwisiau’n cael eu rhoi mewn trefn yn ôl dyddiad erbyn. Efallai na fydd gan rai cwisiau ddyddiad erbyn.

Gweld Dyddiadau Ar Gael

Gweld Dyddiadau Ar Gael

Y dyddiadau cyntaf a welwch chi yw’r dyddiadau ar gael. Weithiau, bydd eich addysgwr am i chi gyflwyno cwis yn ystod cyfnod penodol, felly y dyddiadau ar gael yw’r cyfnod y mae'r cwis ar gael i chi.

  1. Os nad oes dyddiad wedi’i nodi ar gyfer y cwis, mae’r cwis yn agored; gallwch gwblhau’r cwis unrhyw bryd yn ystod eich cwrs.  
  2. Os yw’r cwis yn dweud Ar gael tan (Available until) [dyddiad], gallwch gwblhau’r cwis tan y dyddiad a nodir.
  3. Os yw’r cwis yn dweud Ddim ar Gael Tan (Not Available Until) [dyddiad], bydd y cwis wedi’i gloi tan y dyddiad a nodir.
  4. Os yw’r cwis yn dweud Wedi cau (Closed), does dim modd i’r cwis dderbyn cyflwyniadau cwis.  

Os byddwch yn dechrau cwis ond ddim yn ei gyflwyno, mae gan Cwisiau (Quizzes) nodwedd awtogyflwyno a fydd yn cyflwyno'r cwis ar eich rhan ar y dyddiad Ar gael tan (Available until) . Os nad oes dyddiad Ar gael tan ar gyfer cwis bydd y cwis yn awtogyflwyno ar ddiwrnod olaf y cwrs.

Nodyn: Os yw’r dyddiad a restrir wedi’i osod i 12 AM, y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno’r aseiniad yw’r diwrnod llawn cyn y dyddiad a restrir. Er enghraifft, os yw aseiniad Ar Gael tan 15 Rhagfyr, gallwch gael mynediad at yr aseiniad tan 14 Rhagfyr am 11:59 pm.

Gweld Dyddiadau Erbyn

Gweld Dyddiadau Erbyn

Yr ail gyfres o ddyddiadau ydy’r Dyddiadau Erbyn (Due date) [1] ar gyfer pob cwis. Mae unrhyw gwis sy’n cael ei gyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn yn cael ei farcio’n hwyr; efallai y bydd rhai addysgwyr yn tynnu pwyntiau am gyflwyno gwaith yn hwyr. Eto, ni fydd gan bob cwis Ddyddiad Erbyn (Due date).

Gallwch ddal gyflwyno cwisiau’n hwyr cyn dyddiad Ar gael tan (Available until) y cwis (fel arall, caiff y cwis ei awtogyflwyno ar eich rhan).

Cofiwch y gall y Dyddiad Erbyn fod cyn neu ar y dyddiad Ar Gael.

Mae dyddiadau erbyn yn cynnwys amser [2] hefyd. Os nad yw eich addysgwr yn gosod amser erbyn, mae’r dyddiad a restrir yn dangos amser erbyn diofyn y cwrs.

Hidlo Cwisiau

Hidlo Cwisiau

Gallwch chwilio am gwis drwy deipio teitl cwis neu allweddair yn y maes Chwilio am Gwis (Search for Quiz).

Gweld Manylion Cwis

Gweld Manylion Cwis

I weld manylion cwis, cliciwch enw’r cwis.

Gweld Cwis Agored

Gweld Cwis Agored

Pan fydd cwis yn agored i chi ei wneud unrhyw bryd, gallwch weld y dyddiadau erbyn, y pwyntiau, a’r cwestiynau ar gyfer y cwis.

Gallwch hefyd weld manylion ychwanegol:

  • Terfyn Amser (Time Limit) [1]: yr amser sydd gennych i gwblhau'r cwis. Os oes terfyn amser ar gyfer eich cwis, rhaid i chi gwblhau'r cwis cyfan o fewn yr amser hwnnw mewn un sesiwn. Os byddwch chi’n symud i ffwrdd oddi wrth y cwis, bydd yr amserydd yn dal i redeg. Hefyd, fe gewch eich hel o’r cwis pan fydd y terfyn amser wedi dod.
  • Cyfarwyddiadau (Instructions) [2]: unrhyw gyfarwyddiadau sydd gan eich addysgwr am y cwis.

 

Yn yr enghraifft uchod, rhaid gorffen y cwis erbyn 15 Medi. Ond, pe byddech chi’n methu’r dyddiad erbyn, byddech chi’n dal yn gallu gwneud y cwis am gredyd hwyr cyn diwrnod olaf y cwrs.

I wneud y cwis, cliciwch y botwm Rhoi Gynnig ar Gwis (Take the Quiz).

Nodiadau:

  • Os byddwch yn dechrau cwis sydd â dyddiad erbyn, ond nad ydych yn cwblhau’r cwis erbyn y dyddiad hwnnw (fel y nodir yn eich cylchfa amser leol), bydd Canvas yn cyflwyno’r cwis ar y dyddiad erbyn yn awtomatig.
  • Dydy manylion cwis ddim yn dangos y dyddiad erbyn mewn perthynas â’r amser presennol. Er enghraifft, os oes gan gwis ddyddiad erbyn o 11:59pm ac rydych chithau’n dechrau’r cwis am 11:30pm, dim ond 30 munud fydd gennych i gwblhau’r cwis cyn ei fod yn cael ei farcio fel un hwyr. Mae'r un cyfyngiad amser yn berthnasol os byddwch chi’n gwneud cwis wedi'i amseru. Er enghraifft, os cafodd y Terfyn Amser ei osod ar 60 munud ond rydych chi’n dechrau’r cwis am 11:30pm, 30 munud o hyd fydd gennych i gwblhau’r cwis cyn ei fod yn cael ei farcio fel un hwyr. Bydd Canvas yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gyfyngiadau amser pan fyddwch chi’n dechrau'r cwis.

Gweld Cwis gyda Dyddiadau Ar Gael

Gweld Cwis gyda Dyddiadau Ar Gael

Pan mae cwis yn agored i chi yn ystod y dyddiadau y bydd ar gael, gallwch weld yr holl wybodaeth sydd ar gael am y cwis ynghyd â’r dyddiadau penodol y bydd y cwis ar gael i chi. Gall dyddiadau ar gael gynnwys dyddiad ar gael gyntaf (dyddiad agor), dyddiad ar gael olaf (wedi’i gloi neu’i gau), neu’r ddau ddyddiad i greu cyfnod amser cyffredinol. Gall y Dyddiad erbyn fod cyn neu ar (before or on) y dyddiad ar gael olaf (os oes un wedi’i osod).

Yn yr enghraifft uchod, bydd y cwis ar gael i chi yn dechrau 8 Ebrill am 12am a'r dyddiad erbyn yw 9 Ebrill am 11:59 pm. Ond, pe byddech chi’n methu’r dyddiad erbyn, byddech chi’n dal yn gallu gwneud y cwis tan 10 Ebrill am 11:59 pm am gredyd hwyr. Os na fyddwch yn cyflwyno’r cwis erbyn y dyddiad ar gael olaf sef 10 Ebrill am 11:59 pm (fel y nodir yn eich cylchfa amser leol), bydd Canvas yn cyflwyno’r cwis yn awtomatig ar y dyddiad ar gael olaf. Ni fydd y cwis ar gael i chi ar 11 Ebrill am 12 am.

Gweld Cwis wedi'i Gloi

Gweld Cwis wedi'i Gloi

Pan fydd cwis wedi’i gloi, gallwch weld holl fanylion y cwis. Gallwch chi hefyd weld y dyddiad pan gewch chi wneud y cwis.

Gweld Cwis wedi'i Gau

Gweld Cwis wedi'i Gau

Pan fydd cwis wedi’i gau, gallwch weld holl fanylion y cwis. Gallwch chi hefyd weld y dyddiad pan gafodd y cwis ei gloi ar gyfer cyflwyniadau.

Gweld Cwis sydd ddim ar gael

Gweld Cwis sydd ddim ar gael

Yn Cwisiau Newydd, pan fydd eich ymrestriad wedi dod i ben ar gwrs, bydd neges yn dweud nad yw’r cwis ar gael mwyach.