Os yw eich sefydliad wedi galluogi'r adnodd Trefnydd, gallwch gofrestru ar gyfer unrhyw apwyntiadau sy'n cael eu creu ar gyfer eich cwrs gan ddefnyddio'r bar ochr Calendr. Gall apwyntiadau gynnwys, oriau swyddfa, slotiau amser cyflwyniad grŵp, a chinio gyda chyn-fyfyrwyr.
Mae'r Trefnydd yn nodwedd opsiynol nad yw o bosib ar gael i chi yn y Calendr.
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).
Yn y bar ochr Calendr, cliciwch y botwm Dod o hyd i apwyntiad (Find Appointment).
Nodiadau:
Os yw cwrs yn cynnwys apwyntiad, bydd enw'r cwrs i'w weld yn y gwymplen Cwrs. Dewiswch y cwrs rydych am chwilio am apwyntiad ynddo [1], a cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [6].
Gallwch weld yr apwyntiadau sydd ar gael ar gyfer y cwrs. Mae slotiau amser sydd wedi pylu yn nodi bod y slot amser wedi'i gadw.
Os yw eich calendr wedi'i osod i wedd Wythnos neu wedd Mis, ac nad oes apwyntiadau ar gael yn y cyfnod sydd i'w weld, bydd y Calendr yn gadael i chi wybod pryd mae'r apwyntiad nesaf ar gael. Gallwch glicio'r dyddiad yn y ffenestr i weld apwyntiadau sydd ar gael.
Yn y calendr, cliciwch y slot amser rydych am ei gadw [1]. Yn y ffenestr apwyntiad, gallwch weld amser, calendr a manylion yr apwyntiad. Os ydych chi am adael unrhyw sylwadau i'ch addysgwr, gallwch eu teipio yn y maes Sylwadau (Comments) [2].
I gofrestru ar gyfer slot amser, cliciwch y ddolen Cadw (Reserve) [3].
Ar ôl i chi gadw slot amser, mae'r slot amser yn pylu yn y calendr.
Os ydych chi am ddewis slot amser arall yn ei le, cliciwch y slot amser newydd ac ailadrodd y broses gadw.
Os byddwch chi'n dewis slot amser arall, bydd y Calendar yn cadarnhau bod gennych apwyntiad wedi'i gadw yn barod Os ydych chi am ail-drefnu gydag amser apwyntiad newydd cliciwch y botwm Ail-drefnu (Reschedule) [1]. Ond, os ydych chi am gadw eich apwyntiad gwreiddiol, cliciwch y botwm Gwneud dim byd (Do Nothing) [2].
Ar ôl i chi orffen gydag apwyntiadau cwrs, cliciwch y botwm Cau (Close).
Gallwch weld yr apwyntiad sydd wedi'i ychwanegu at galendr eich cwrs.
Gallwch weld yr apwyntiad sydd wedi'i ychwanegu at galendr eich cwrs.
I ganslo eich apwyntiad yn llwyr, cliciwch amser yr apwyntiad [1] a chlicio'r ddolen Dad-gadw (Un-reserve) [2].
Yn y maes sylwadau [1], gadewch i'ch addysgwr wybod pam fod angen i chi ddileu eich apwyntiad wedi'i gadw. Cliciwch y botwm Dileu (Delete) [2].