Sut ydw i’n cyflwyno adolygiad gan gyd-fyfyrwyr i drafodaeth?
Efallai y bydd eich addysgwr yn gofyn i chi gyflwyno adolygiad gan gyd-fyfyrwyr o ateb myfyriwr arall i drafodaeth. I gwblhau'r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr, rhaid i chi adolygu ateb y myfyriwr i’r drafodaeth ac ychwanegu sylw yn y bar ochr ar gyfer sylwadau.
Os yw eich addysgwr wedi cynnwys cyfarwyddyd sgorio, sef amlinelliad parod o sut mae’r aseiniad yn cael ei raddio, rhaid i chi neilltuo gradd yn defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio. Ond, mae’n bosib y bydd eich addysgwr yn gofyn i chi adael sylwadau yn y bar och sylwadau.
Does dim modd i adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr o drafodaethau fod yn ddienw.
Gallwch ddysgu sut i weld a ydych chi wedi cael trafodaeth ynghylch adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.
Os yw eich trafodaeth yn edrych yn wahanol i’r hyn sydd i’w weld yn y wers hon, efallai fod eich addysgwr yn defnyddio Ailddylunio Trafodaethau yn eich cwrs. Dysgwch sut i gyflwyno adolygiad cyd-fyfyrwyr i drafodaeth yn Ailddylunio Trafodaethau.
Nodyn: Dim ond yn fersiwn gwe Canvas y mae modd cwblhau adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr.
Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Nodyn: Gallwch hefyd gael mynediad at eich Trafodaethau drwy eich dangosfwrdd defnyddiwr neu gwrs, Aseiniadau, y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, neu Fodiwlau.
Agor Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr wedi’u Neilltuo

Cliciwch y ddolen Adolygu Nawr (Review Now).
Cwblhau Cyfarwyddyd Sgorio
Os oes gan aseiniad gyfarwyddyd sgorio wedi’i atodi, yna dim ond cyfarwyddyd sgorio cysylltiedig sydd angen ei orffen er mwyn cwblhau’r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. I weld y cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y ddolen Dangos Cyfarwyddyd Sgorio (Show Rubric) [1] a rhowch sgôr ar gyfer pob maen prawf yn y golofn Pwyntiau (Points) [2]. Bydd pob sgôr y cyfarwyddyd sgorio yn creu cyfanswm pwyntiau’r aseiniad [3].
Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Cadw Sylw (Save Comment) [4].
Ychwanegu Sylw ar Drafodaeth
Os nad yw eich aseiniad yn cynnwys cyfarwyddyd sgorio, bydd gofyn i chi ychwanegu o leiaf un sylw. Does dim modd i chi weld unrhyw adborth sydd wedi cael ei gyflwyno’n barod gan fyfyriwr arall neu'r addysgwr.
Teipiwch sylw yn y maes sylwadau [1], gadewch sylw ar gyfryngau [2] neu atodwch ffeil [3]. Cliciwch y botwm Cadw (Save) [4].
Cadarnhau bod Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr wedi’i Gwblhau

Bydd neges yn ymddangos yn eich trafodaeth i gadarnhau eich bod wedi cwblhau'r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.
Nodyn: Efallai y bydd angen i chi adnewyddu eich porwr i sicrhau eich bod wedi cwblhau'r camau gofynnol ar gyfer yr adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.