Sut ydw i’n defnyddio’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan?
Mae'r Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan i'w gweld ar ochr chwith pob tudalen yn Canvas. Mae’r dolenni Crwydro’r Safle Cyfan yn rhoi mynediad cyflym at nodweddion Canvas a ddefnyddir yn aml. Mae’r dolenni hyn yn rhoi mynediad at eich holl gyrsiau gyda’i gilydd. Mae'r dolenni diofyn yn cynnwys y Dangosfwrdd, Cyrsiau, Grwpiau, Calendr, Blwch Derbyn, Cyfrif Defnyddiwr a’r ddewislen Help.
Yn ddibynnol ar osodiadau cyfrif eich sefydliad, efallai y bydd dolenni eraill yn ymddangos yn y Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan.
Nodyn: Efallai y bydd eich addysgwr yn penderfynu defnyddio ffont wahanol ar gyfer un neu ragor o’ch cyrsiau. Wrth edrych ar y cyrsiau hynny, bydd y Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn dangos yr un ffont.
00:07: How do I use the global navigation menu, as a student? 00:11: Have you your user information? Click the account link a menu will expand 00:15: in display links to access your user settings, notification settings, 00:19: personal files and e-portfolios. 00:22: If enabled if your institution has enabled profiles you 00:26: can access your profile. You can also use the account linked 00:31: to log out of canvas. 00:33: The dashboard is the landing page after you login to Canvas the 00:37: dashboard can be toggled to a course view list for you or recent activity, 00:41: View and shows notifications, for all current, canvas course, 00:46: To view your courses. Click the course, is link. 00:48: The course, is menu displays a list of your favorite courses. 00:51: Or if you haven't selected any favorite courses, the 00:56: menu displays current courses where you are enrolled, 01:00: For each course, you can view the course name turn details and 01:04: section enrollment details to view a course. 01:07: Click the course name link 01:10: To customize your courses list or view, all your canvas courses, click the 01:14: all courses link. 01:16: If you are enrolled in groups, view your groups in the group's link and 01:20: then you will expand and display all groups in current courses where you are enrolled. 01:26: To view a group. Click the name of the group to view, all your groups, 01:30: click, the all groups link. 01:33: To view your calendar. Click the calendar link. 01:36: To view your conversations inbox, click the inbox, link conversations 01:40: is the Candace messaging system where you can communicate with other users in your courses. 01:44: The number of new messages are shown as part of the inbox icon. 01:50: To view your recent canvas course, page view history, click the history, link 01:54: recent history, displays up to three weeks of your canvas course, page 01:58: view history. 02:00: To get help with canvas, click the help link Celexa help option 02:04: that is relevant to your needs. 02:07: To collapse the global navigation, then you click the arrow icon. 02:12: To expand the global navigation, then you click the arrow icon. 02:16: The global navigation menu will be automatically kill apps for tablet screens. 02:22: This guy covered how to use the global navigation than you as a student.
Gweld Cyfrif
I weld eich gwybodaeth defnyddiwr, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account). Bydd dewislen yn ehangu ac yn dangos dolenni i gael mynediad at eich gosodiadau defnyddiwr, eich gosodiadau ar gyfer hysbysiadau, eich ffeiliau personol, a’ch e-Bortffolios (os ydyn nhw wedi’u galluogi). Os yw eich sefydliad wedi galluogi Proffiliau, gallwch gael mynediad at eich proffil.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddolen Cyfrif i allgofnodi o Canvas.
Gweld Dangosfwrdd
Y Dangosfwrdd yw’r dudalen lanio ar ôl i chi fewngofnodi i Canvas. Mae modd toglo’r Dangosfwrdd i wedd cwrs, gwedd rhestr, neu wedd gweithgarwch diweddar, ac mae'n dangos hysbysiadau ar gyfer holl gyrsiau presennol Canvas.
Gweld Cyrsiau
I weld eich cyrsiau, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1]. Mae’r ddewislen Cyrsiau yn dangos rhestr o’ch hoff gyrsiau, neu, os nad ydych chi wedi dewis hoff gyrsiau, bydd y ddewislen yn dangos y cyrsiau rydych chi wedi ymrestru arnynt ar hyn o bryd.
Ar gyfer pob cwrs, gallwch chi weld enw’r cwrs, manylion y tymor, a manylion ymrestru adran [2] I weld cwrs, cliciwch y ddolen enw’r cwrs.
I addasu eich rhestr cyrsiau neu i weld eich holl gyrsiau Canvas, cliciwch y ddolen Pob Cwrs (All Courses) [3].
Gweld Grwpiau
Os ydych chi wedi ymrestru mewn Grwpiau, gallwch weld eich grwpiau yn y ddolen Grwpiau (Groups) [1]. Bydd dewislen yn ehangu ac yn dangos yr holl grwpiau mewn cyrsiau rydych chi wedi ymrestru ar eu cyfer ar hyn o bryd.
I weld grŵp, cliciwch enw’r grŵp [2]. I weld eich holl grwpiau, cliciwch y ddolen Pob Grŵp [3].
Nodyn: Does dim modd addasu'r grwpiau yn y gwymplen.
Gweld Blwch Derbyn
I weld eich Blwch Derbyn ar gyfer yr adran Sgyrsiau, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox). Sgyrsiau yw system negeseuon Canvas lle gallwch gyfathrebu â defnyddwyr eraill ar eich cyrsiau. Caiff nifer y negeseuon newydd ei ddangos fel rhan o eicon y Blwch Derbyn.
Gweld Hanes
I weld hanes eich ymweliadau diweddaraf â thudalennau cwrs Canvas, cliciwch y ddolen Hanes. Mae Hanes Diweddar yn dangos hyd at dair wythnos o’ch ymweliadau â thudalennau cwrs Canvas.
Gweld Help
I gael help gyda Canvas, cliciwch y ddolen Help. Dewiswch yr opsiwn help sy’n berthnasol i’ch anghenion chi.
Nodyn: Yn ddibynnol ar osodiadau eich sefydliad, gall y ddewislen Help ddangos gwahanol opsiynau.
Crebachu’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan
I ehangu neu grebachu’r ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch yr eicon saeth.
Bydd y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn cael ei chrebachu’n awtomatig ar gyfer sgriniau dyfeisiau tabled.