Sut ydw i’n llwytho fideo i fyny gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?

Bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael ei derfynu mewn fersiwn yn y dyfodol. Mae addysgwyr yn gallu galluogi'r nodwedd Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn yr opsiynau nodweddion cwrs.

Gallwch ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i lwytho fideo i fyny. Caiff y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ei ddefnyddio mewn nodweddion sy’n delio â'r golygydd (Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau a Chwisiau).

Mae Canvas yn caniatáu i chi lwytho mathau o gyfryngau cydnaws i fyny.

Mae Canvas yn gallu newid ffeiliau i fyny hyd at 500 MB. Os bydd ffeil yn fwy na'r cyfyngiad o 500 MB, gallwch letya'r ffeil trwy ffynhonnell allanol fel YouTube a'i phlannu gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. I ddysgu mwy am yr opsiynau sydd ar gael i ddefnyddio ffeiliau cyfryngau yn Canvas, edrychwch ar y PDF Cymharu Cyfryngau Canvas.

Mae fideos Canvas hefyd yn gallu delio â ffeiliau capsiwn. Ar ôl i chi lwytho fideo i fyny, gallwch ddysgu sut mae ychwanegu capsiynau at fideo.

Nodyn: Mae chwarae fideo yn rhagosod i’r ansawdd cydraniad isaf. Gall defnyddwyr reoli opsiynau chwarae fideo ar y ddewislen gosodiadau fideo.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog gan ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.

Agor Adnodd Gwneud Sylw ar Gyfryngau

Agor Adnodd Gwneud Sylw ar Gyfryngau

Cliciwch yr eicon Cyfryngau (Media).

Llwytho Cyfryngau i fyny

Llwytho Cyfryngau i fyny

Cliciwch y tab Llwytho Cyfryngau i Fyny (Upload Media).

Dewis Ffeil Fideo

Dewis Ffeil Fideo

Dewiswch y botwm Dewis Ffeil Fideo (Select Video File).

Agor Ffeil Fideo

Agor Ffeil Fideo

Dewiswch y fideo rydych chi am ei lwytho i fyny [1]. Cliciwch y botwm Agor (Open) [2].

Llwytho Ffeil Fideo i Fyny

Llwytho Ffeil Fideo i Fyny

Bydd y bar statws yn dangos y cynnydd o ran faint o’ch fideo sydd wedi'i lwytho i fyny. Bydd pa mor gyflym mae’n cael ei lwytho i fyny yn dibynnu ar eich cysylltiad â'r rhyngrwyd a maint y fideo. Arhoswch i’ch cyfryngau lwytho i fyny. Pan fydd y bar cynnydd yn llawn, bydd y ffenestr hon yn cau yn awtomatig.  

Gweld y Fideo sydd wedi'i Lwytho i Fyny

Gweld y Fideo sydd wedi'i Lwytho i Fyny

Gweld eich fideo wedi ei roi yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn awtomatig.

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw.

Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog gydag Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau a Chwisiau, gallwch ddewis Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish). Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog ar y tudalennau Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).