Sut ydw i’n newid y dewis iaith yn fy nghyfrif defnyddiwr fel myfyriwr?

Saesneg yw iaith ddiofyn Canvas, ond gallwch ddewis gweld rhyngwyneb Canvas mewn iaith arall.

Sylwch:

  • Gall addysgwyr newid y dewis iaith ar gyfer eu cyrsiau. Os ydych chi’n ymrestru ar gwrs lle mae'r addysgwr wedi newid yr iaith (ar gyfer cwrs iaith dramor gan amlaf), bydd iaith y cwrs yn disodli'r iaith yn eich gosodiadau defnyddiwr.
  • Os byddwch chi’n newid eich dewisiadau iaith neu leoliad, mae’n bosib y bydd dyddiad dechrau wythnos y Calendr yn newid hefyd. Mae rhai ieithoedd neu leoliadau yn newid dyddiad dechrau wythnos y Calendr i ddydd Llun.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Golygu Gosodiadau

Golygu Gosodiadau

Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).

Dewis Iaith

Dewis Iaith

Yn y gwymplen Iaith (Language), dewiswch yr iaith o’ch dewis.

Diweddaru Gosodiadau

Diweddaru Gosodiadau

Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).

Gweld yr Iaith o’ch Dewis

Gallwch weld Canvas yn yr iaith o’ch dewis.