Sut ydw i’n recordio sain gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?
Bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael ei derfynu mewn fersiwn yn y dyfodol. Mae addysgwyr yn gallu galluogi'r nodwedd Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn yr opsiynau nodweddion cwrs.
Gallwch ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i recordio sain. Caiff y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ei ddefnyddio mewn nodweddion sy’n delio â'r golygydd (Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau a Chwisiau).
Nodyn: Dim ond i Chrome a Firefox y mae recordio sain HTML5 yn berthnasol. Os ydych chi’n defnyddio Internet Explorer neu Safari, rhaid i chi ddefnyddio recordio sain Flash.
Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog
Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog gan ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.
Agor Adnodd Gwneud Sylw ar Gyfryngau
Cliciwch yr adnodd Cyfryngau (Media).
Dewis Opsiwn Recordio Sain
I recordio sain yn unig, cliciwch y botwm Gwe-gamera (Webcam) [1] a dewis yr opsiwn Dim Fideo (No Video) [2].
Nodyn: Os nad oes gan eich cyfrifiadur we-gamera, bydd yr opsiwn Dim Fideo (No Video) yn cael ei ddewis yn awtomatig.
Dewis Microffon
Bydd Canvas yn dewis eich meicroffon diofyn. Ond, os oes gennych chi fwy nag un meicroffon, gallwch ddewis eich hoff feicroffon drwy glicio’r botwm Meicroffon .
Dechrau’r Recordiad
I ddechrau recordio sain, cliciwch y botwm Dechrau Recordio (Start Recording).
Stopio’r Recordiad
Bydd amser [1] a lefel sain [2] eich recordiad yn diweddaru’n gyson wrth i chi recordio. I stopio recordio, cliciwch y botwm Gorffen (Finish)[3].
I ddileu eich recordiad presennol a dechrau eto, cliciwch y botwm Dechrau Eto (Start Over) [4]
Adolygu’r Recordiad
I weld rhagolwg o'ch recordiad sain, cliciwch y botwm Chwarae (Play) [1]. I gadw eich ffeil sain, cliciwch y maes testun [2], rhowch deitl i’ch ffeil sain, yna cliciwch y botwm Cadw (Save) [3]. I ail-recordio eich neges sain, cliciwch y botwm Dechrau eto (Start Over) [4].
Gweld Recordiad
Gweld eich ffeil sain wedi ei rhoi yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn awtomatig.
Cadw Newidiadau
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog gydag Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau a Chwisiau, gallwch ddewis Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish). Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog ar y tudalennau Maes Llafur a Thrafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).