Sut ydw i’n rheoli tocynnau mynediad API fel myfyriwr?

Gallwch chi reoli tocynnau mynediad API o’ch Gosodiadau Defnyddiwr. Mae tocynnau mynediad yn rhoi mynediad i adnoddau Canvas drwy API Canvas. Mae modd creu tocynnau mynediad yn awtomatig ar gyfer rhaglenni trydydd parti neu fynd ati’ch hun i’w creu.

Wrth ddefnyddio API Canvas, mae modd i'r sawl sydd â thocyn mynediad gael mynediad i’r un adnoddau Canvas sydd ar gael i chi. Er enghraifft, mae gan raglenni trydydd parti, gan gynnwys dyfeisiau rydych chi wedi’u defnyddio i agor ap Canvas Student, yr hawl i gael mynediad i Canvas ar eich rhan. I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio API Canvas, edrychwch ar ddogfennau API Canvas.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Gweld Tocynnau Mynediad

Mae rhaglenni trydydd parti sydd â thocynnau mynediad a thocynnau mynediad sy’n cael eu creu gan ddefnyddiwr yn cael eu rhestru yn yr adran Integreiddiadau Cymeradwy (Approved Integrations) [1].

Ar gyfer pob tocyn mynediad, gallwch weld yr enw [2], pwrpas [3], dyddiad dod i ben [4], a dyddiad y cafodd ei ddefnyddio ddiwethaf [5].

Sylwch: Bydd tocynnau mynediad symudol yn cael eu creu ar eich cyfer pan fyddwch chi’n mewngofnodi i ap symudol Canvas, a dydyn nhw byth yn dod i ben. I gael gwared ar fynediad i raglen symudol, rhaid dileu’r tocyn mynediad.

Ychwanegu Tocyn Mynediad

Ychwanegu Tocyn Mynediad

I ychwanegu tocyn mynediad eich hun, cliciwch y botwm Ychwanegu Tocyn Mynediad Newydd (Add New Access Token).

Ychwanegu Manylion Tocyn

Ychwanegu Manylion Tocyn

Rhowch ddisgrifiad o’ch tocyn mynediad yn y maes Pwrpas (Purpose) [1]. Hefyd, gallwch chi ddewis dyddiad dod i ben drwy glicio’r eicon Calendr (Calendar) [2]. I greu tocyn heb ddyddiad dod i ben, gadewch y maes Dod i Ben yn wag.

I greu tocyn mynediad newydd, cliciwch y botwm Creu Tocyn (Generate Token) [3].

Gweld Tocyn Mynediad

Gweld Tocyn Mynediad

Gallwch weld y disgrifiad o’r tocyn [1]. I weld manylion y tocyn , cliciwch y ddolen manylion (details) [2].

Gweld Manylion Tocyn

Gweld Manylion Tocyn

Mae manylion tocyn mynediad yn cynnwys tocyn mae modd ei ddefnyddio i wneud galwadau API ar eich rhan [1].

I ail-greu tocyn mynediad, cliciwch y botwm Ail-greu Tocyn (Regenerate Token) [2].

Dileu Tocyn Mynediad

Dileu Rhaglen

I ddileu tocyn mynediad, cliciwch yr eicon Dileu (Delete).

Cadarnhau’r broses Dileu

Cadarnhau’r broses Dileu

I gadarnhau'r broses dileu, cliciwch y botwm Iawn (OK).