Sut ydw i’n tanysgrifio i’r crynodeb Calendr gan ddefnyddio Google Calendar fel myfyriwr?
Gallwch chi fewngludo eich calendr Canvas i Google Calendar. Bydd ffrwd y calendr yn cynnwys digwyddiadau ac aseiniadau o’ch holl galendrau Canvas.
Mae’r camau yn y wers hon hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n defnyddio Gmail drwy Google Apps for Education. Mae Google Apps for Education yn darparu Cyfrif E-bost Sefydliadol i’r sefydliadau hynny sy’n cymryd rhan yn y rhaglen. I ddysgu mwy, ewch i wefan Google Edu.
Ar ol i chi danysgrifio i’r crynodeb calendr, gallwch chi dynnu neu danysgrifio o’r crynodeb calendr ar unrhyw adeg.
Nodiadau:
- Bydd digwyddiadau hyd at 366 yn y dyfodol, a digwyddiadau yn y gorffennol o fewn 30 diwrnod yn cael ei gynnwys pan fyddwch yn allgludo calendr Canvas i Google Calendar. Mae'r crynodeb calendr yn gynnwys hyd at 1,000 o eitemau.
- Mae Google Calendar yn diweddaru’n achlysurol ond gall gymryd hyd at 24 awr i gysoni â Canvas Calendar. Efallai na fydd diweddariad Canvas i’w weld yn syth yn Google Calendar.
- Nid yw eitemau I’w Gwneud wedi’u cynnwys yn ffrwd y Calendr iCal.
Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).
Agor Ffrwd Calendr

Cliciwch y ddolen Ffrwd Calendr (Calendar Feed).
Copïo Ffrwd Calendr

Cliciwch y ddolen ffrwd calendr.
Mewngofnodwch i Google Account

Mewn porwr newydd, mewngofnodwch i’ch Google Account.
Nodyn: Os ydych chi’n cymryd rhan yn Google Apps for Education, mewngofnodwch i Gyfrif E-bost eich Sefydliad i danysgrifio i’r Crynodeb Calendr.
Dod o hyd i’r Calendr

Cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).
Ychwanegu Calendrau Eraill

Cliciwch eicon Ychwanegu y Calendrau Eraill [1]. Yna cliciwch yr opsiwn O URL (From URL) [2].
Ychwanegu Calendr drwy URL

Cymerwch yr URL sydd wedi’i gopïo o Canvas a’i ludo i’r maes URL calendr (URL of calendar) [1]. Cliciwch y botwm Ychwanegu Calendr (Add Calendar) [2].