Mae’r Blwch Derbyn wedi'i rhannu i ddau banel ac mae’n dangos negeseuon mewn trefn gronolegol. Gallwch weld sgyrsiau ac ymateb iddyn nhw, a’u trefnu yn ôl cwrs neu fath o flwch derbyn. Does dim cyfyngiadau o ran maint ffeiliau ar gyfer y Blwch Derbyn ei hun; fodd bynnag, bydd atodiadau a gaiff eu hychwanegu at sgwrs yn cael eu cynnwys yn ffeiliau personol yr anfonwr.
Nodiadau:
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox).
Os yw'r ddolen i’r Blwch Derbyn yn cynnwys dangosydd rhif, bydd y dangosydd yn dangos faint o negeseuon heb eu darllen sydd gennych chi yn eich Blwch Derbyn. Ar ôl i chi ddarllen y negeseuon newydd, bydd y dangosydd yn diflannu.
Mae'r bar offer yn cynnwys opsiynau cyffredinol ar gyfer negeseuon. I lwytho sgyrsiau, ewch ati i hidlo eich negeseuon yn ôl cwrs neu grŵp [1] a'u math [2]. Mae hidlo yn ôl math yn caniatáu i chi hidlo negeseuon yn y Blwch Derbyn, rhai Heb eu Darllen, wedi’u Hanfon, wedi’u Harchifo, rhai â Seren, a Sylwadau ar Gyflwyniadau. Gallwch greu neges ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio’r eicon creu [3].
Gallwch hefyd chwilio am sgyrsiau yn ôl defnyddiwr yn y maes Chwilio yn ôl defnyddiwr (Search by user) [4].
Ar ôl i chi ddewis sgwrs, gallwch ddefnyddio’r opsiynau eraill yn y bar offer i wneud y canlynol:
Bydd y sgyrsiau ar gyfer y cwrs a'r hidlydd Blwch Derbyn sydd dan sylw yn ymddangos yn y panel Blwch Derbyn ar y chwith.
Mae'r Blwch Derbyn mewn trefn gronolegol o’r diweddaraf i’r hynaf, gyda'r sgyrsiau diweddaraf yn ymddangos ar y brig [1] a'r rhai hŷn ar y gwaelod.
Gallwch farcio bod sgwrs wedi’i darllen neu heb ei darllen drwy hofran dros y sgwrs a chlicio'r cylch i’r chwith o’r sgwrs [2]. I roi seren wrth sgwrs, gallwch hofran dros y sgwrs a chlicio'r seren i’r dde o'r sgwrs [3].
Pan fyddwch chi'n dewis sgwrs [1], bydd yr holl negeseuon yn yr edefyn sgyrsiau yn ymddangos yn y panel Blwch Derbyn ar y dde [2].
I ddewis mwy nag un neges i’w harchifo, i'w dileu, i’w marcio fel un wedi’i darllen neu heb ei darllen, neu i roi seren wrthi, cliciwch y blwch ticio ar gyfer pob neges [1]. Gallwch hefyd bwyso'r fysell ‘command’ (Mac) neu’r fysell ‘control’ (Windows) wrth glicio pob neges rydych chi am ei dewis. Ym mar offer yr adran Blwch Derbyn [2], cliciwch yr opsiwn rydych chi’n ei ffafrio.
I ddewis pob neges, cliciwch y bysellau ‘command’ + A (Mac) neu’r bysellau ‘control’ + A (Windows).
I ddewis ystod o negeseuon, cliciwch y neges gyntaf rydych chi am ei dewis, dal y fysell Shift i lawr, wedyn clicio'r neges olaf rydych chi am ei dewis. Bydd yr holl negeseuon rhwng y neges gyntaf a’r olaf yn cael eu dewis.
Nodyn: Gallwch hefyd glicio blwch ticio'r neges neu ddefnyddio’r un gorchymyn ar y bysellfwrdd i ddad-ddewis neges.