Sut ydw i’n plannu delweddau o’r we yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?

Bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael ei derfynu mewn fersiwn yn y dyfodol. Mae addysgwyr yn gallu galluogi'r nodwedd Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn yr opsiynau nodweddion cwrs.

Gallwch ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i blannu delweddau o’r we. Hefyd, gallwch ychwanegu tagiau amgen at eich lluniau er mwyn bod yn fwy hygyrch.

Caiff y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ei ddefnyddio mewn nodweddion sy’n delio â'r Golygydd (Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau a Chwisiau). Os oes newid yn cael ei wneud i ffynhonnell eich delwedd ar ôl iddi gael ei phlannu, ni fydd y ddelwedd rydych chi wedi’i hychwanegu at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn newid.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog gan ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.

Agor Delwedd

Agor Delwedd

Cliciwch yr eicon Delwedd.

Plannu Delwedd Allanol

Plannu Delwedd Allanol

Mae angen i chi ludo neu deipio URL y ddelwedd rydych chi am ei phlannu.

Mewnosod Testun Amgen

Mewnosod Testun Amgen

Bydd y maes Priodoleddau (Attributes) yn llenwi’r maes Testun amgen (Alt text) [1], sef enw’r ddelwedd. I weld yn well, rhowch ddisgrifiad o gynnwys y ddelwedd. I ychwanegu’r ddelwedd fel addurn, cliciwch y blwch ticio Delwedd Addurniadol (Decorative image) [2]. Os yw’r blwch ticio Delwedd Addurniadol (Decorative image) wedi’i ddewis, yna bydd y maes testun amgen yn llwyd.

Nodyn: Os ydych chi am gynnwys teitl delwedd, a fydd yn ymddangos pan fydd defnyddiwr yn hofran dros y ddelwedd, plannwch y ddelwedd ac yna newid i’r Golygydd HTML. Rhaid mynd ati i ychwanegu tagiau teitl at y cod HTML.

Newid Dimensiynau Priodoleddau Delwedd

Newid Dimensiynau Priodoleddau Delwedd

Bydd dimensiynau diofyn y ddelwedd hefyd yn cael eu llenwi’n awtomatig. Cyfeirir at ddimensiynau mewn picseli wedi eu diffinio yn ôl lled ac uchder.

I newid dimensiynau’r ddelwedd, teipiwch sawl picsel yr hoffech chi ei ddefnyddio ar gyfer lled newydd y ddelwedd [1]. Yna pwyswch yr allwedd Tab ar fysellfwrdd eich cyfrifiadur. Gan fod Canvas yn rheoli cymhareb agwedd eich delwedd, bydd uchder y ddelwedd yn cael ei newid yn awtomatig [2].

Plannu Delwedd

Plannu Delwedd

Cliciwch y botwm Diweddaru (Update).

Nodyn: Fel llwybr byr ar gyfer y dyfodol, os nad oes angen i chi newid unrhyw un o briodoleddau eich delwedd, dewch o hyd i’ch delwedd a chliciwch ddwywaith ar enw eich delwedd. Bydd y ddelwedd yn cael ei phlannu’n syth i’ch neges.  

Gweld Delwedd wedi’i Phlannu

Gweld Delwedd wedi’i Phlannu

Gweld y ddelwedd rydych wedi’i phlannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Golygu Priodweddau Delwedd

Golygu Priodweddau Delwedd

I olygu delwedd sy’n bodoli eisoes, cliciwch y ddelwedd [1], yna cliciwch yr eicon Delwedd [2]. Bydd y ffenestr mewnosod/golygu yn ymddangos er mwyn gwneud newidiadau.  

Pan fyddwch chi’n golygu delwedd sy’n bodoli eisoes, bydd y tab URL yn dangos lleoliad y ddelwedd ar y we. Bydd y priodoleddau yn aros yr un fath ym mhob tab a bydd modd eu golygu yn ôl yr angen.

Os ydych chi am newid y ddelwedd gwe, mae angen i chi ludo neu deipio URL y ddelwedd rydych chi am ei phlannu [3].

Newid Maint Delwedd yn Weledol

Newid Maint Delwedd yn Weledol

Hefyd, gallwch ddefnyddio’r trinwyr o amgylch y ddelwedd i newid maint y ddelwedd yn weledol. I wneud hyn, cliciwch y ddelwedd, yna hofran dros un o’r blychau terfyn gwyn nes bod eich cyrchwr yn troi’n saeth. Llusgwch a newidiwch faint y ddelwedd. Cofiwch y bydd y ddelwedd yn cadw ei chymhareb agwedd bob amser er mwyn edrych yn iawn

Nodyn: Nid yw’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn delio â thocio delweddau.