Sut ydw i’n rheoli nodweddion newydd yn fy nghyfrif defnyddiwr fel myfyriwr?
Mae Canvas yn creu nodweddion newydd yn barhaus er mwyn gwella profiad defnyddwyr. Bydd y mwyafrif o’r gwelliannau yn cael eu cyflwyno fel rhan o’n cylch rhyddhau rheolaidd. Fodd bynnag, gall rhai nodweddion effeithio ar eich rhyngweithio personol â Canvas.
Mae’r wers hon yn rhoi trosolwg o sut mae rheoli gosodiadau nodweddion ar lefel defnyddiwr ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr. I weld gosodiadau nodweddion penodol sydd ar gael yn Canvas, ewch i’r wers nodweddion cyfrif defnyddiwr.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Gweld Gosodiadau Nodweddion
Bydd nodweddion sydd ar gael yn ymddangos yn yr adran Gosodiadau Nodweddion.
Hidlo'r Opsiynau Nodwedd

I hidlo yn ôl pob nodwedd, nodweddion wedi'u galluogi neu nodweddion wedi'u hanalluogi, cliciwch y gwymplen Hidlo (Filter).
Chwilio Gosodiadau Nodweddion

I chwilio am osodiad nodwedd, teipiwch allweddair yn y maes Chwilio (Search).
Gweld Mathau o Nodweddion

Mae pob nodwedd yn cynnwys disgrifiad o'r nodwedd. I ehangu blwch y nodwedd a dangos y disgrifiad, cliciwch yr eicon saeth.
Gweld Tagiau Nodweddion

Mae tagiau nodweddion yn helpu i adnabod cyflwr pob nodwedd. Mae nodwedd heb label [1] yn golygu bod y nodwedd yn sefydlog ac yn barod i’w defnyddio yn eich amgylchedd cynhyrchu. Efallai y bydd nodweddion hefyd yn cynnwys tag beta [2], sy’n golygu bod y nodwedd ar gael i’w defnyddio yn eich amgylchedd cynhyrchu ond ei bod yn parhau i gael ei phrofi ar gyfer defnyddioldeb a hygyrchedd. Gall galluogi nodwedd beta achosi ymddygiad anfwriadol yn eich cyfrif Canvas.
Gweld Cyflyrau Nodweddion
Gallwch chi ddewis i alluogi neu analluogi gosodiadau nodwedd.
I alluogi neu analluogi nodwedd, cliciwch eicon Cyflwr y nodwedd [1].
I roi’r nodwedd ar waith, cliciwch yr opsiwn Wedi Galluogi (Enabled) [2]. Mae nodweddion sydd wedi’u galluogi yn dangos yr eicon Wedi Galluogi [3].
I ddiffodd y nodwedd, cliciwch yr opsiwn Wedi Analluogi (Disabled) [4]. Mae nodweddion sydd wedi’u hanalluogi yn dangos yr eicon Wedi Analluogi [5].