Sut ydw i’n rheoli hysbysiadau ar gyfer cwrs unigol fel myfyriwr?

Mae’r wers hon yn dangos sut i reoli gosodiadau hysbysiadau o dudalen Hysbysiadau eich cyfrif. Gallwch chi hefyd gael gafael ar hysbysiadau cwrs drwy glicio’r botwm Gweld Hysbysiadau Cwrs o Dudalen Hafan y Cwrs. Dydy gosodiadau hysbysiadau cwrs ddim ond yn berthnasol i’r cwrs y maen nhw wedi’u gosod ynddo. I gael hysbysiadau cwrs, rhaid i chi osod eich gosodiadau hysbysiadau Canvas.

Nodyn: Ar ôl i osodiad hysbysiad gael ei newid yn eich cwrs, bydd y gosodiad hysbysiad cwrs yn disodli’r gosodiadau sydd wedi’u gosod yn eich Gosodiadau Cyfrif. Rhaid i chi barhau i reoli math hwnnw o hysbysiad yn eich cwrs.

Agor Hysbysiadau

Agor Hysbysiadau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Hysbysiadau (Notifications) [2].

Agor Gosodiadau Hysbysiadau Cwrs

Gallwch chi reoli gosodiadau hysbysiadau eich cyfrif Canvas a/neu gyrsiau unigol.

I reoli gosodiadau hysbysiadau ar gyfer cwrs unigol, cliciwch y gwymplen Gosod ar gyfer (Settings for) [1]. Yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Hysbysiadau o Dudalen Hafan y Cwrs

Neu, gallwch chi gael gafael ar hysbysiadau cwrs o Dudalen Hafan y Cwrs drwy glicio’r botwm Gweld Hysbysiadau Cwrs (View Course Notifications).

Gweld Gosodiadau Hysbysiadau Cwrs

Mae baner yn ymddangos yn dweud bod gosodiadau hysbysiadau lefel y cwrs yn disodli unrhyw osodiadau lefel y cyfrif rydych chi wedi’u gosod. I anwybyddu’r neges, cliciwch yr eicon Cau [2].  

Mae baner yn ymddangos yn dweud pryd mae negeseuon dyddiol ac wythnosol yn cael eu darparu [3]. I anwybyddu’r neges, cliciwch yr eicon Cau [4].

I alluogi neu analluogi pob hysbysiad ar gyfer y cwrs, cliciwch y togl Galluogi Hysbysiadau (Enable Notifications) [5].

Gweld y mathau o hysbysiadau lefel y cwrs [6] a’ch dulliau cysylltu sydd wedi’u rhestru [7].

Mae gan bob hysbysiad osodiad amlder danfon diofyn. I weld yr amlder danfon hysbysiad presennol ar gyfer math o hysbysiad a’r dull cysylltu, hofrwch dros yr eicon hysbysiad [8].

Rheoli Hysbysiadau Unigol

I reoli amlder hysbysiadau ar gyfer hysbysiad cwrs, dewch o hyd i’r hysbysiad a’r dull cysylltu. Yna cliciwch yr eicon hysbysiad [1]. Gallwch chi ddewis un o bedwar math o amlder danfon:

  • Hysbysu’n syth [2]: derbyn yr hysbysiadau hyn yn syth ar gyfer y cwrs hwn. Mae’n bosib y bydd oedi o hyd at awr yng nghyswllt yr hysbysiadau hyn, rhag ofn y bydd addysgwr yn gwneud newidiadau ychwanegol. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych chi’n cael eich llethu gan lawer o hysbysiadau mewn cyfnod byr.
  • Crynodeb dyddiol [3]: derbyn crynodeb dyddiol ar gyfer y math hwn o hysbysiad.
  • Crynodeb wythnosol [4]: derbyn crynodeb wythnosol ar gyfer y math hwn o hysbysiad.
  • Hysbysiadau wedi diffodd [5]: dim hysbysiadau wedi’u hanfon ar gyfer y math hwn o hysbysiad.

Gweld Statws Hysbysiadau Cwrs

Gweld Statws Hysbysiadau Cwrs

Gallwch chi weld statws hysbysiadau eich cwrs ar dudalen hafan eich cwrs. Mae’r eicon y botwm Gweld Hysbysiadau Cwrs i’w weld os yw hysbysiadau cwrs wedi’u galluogi [1] neu eu hanalluogi [2].