Sut ydw i’n ychwanegu digwyddiad at fy nghalendr fel myfyriwr?

Gallwch ychwanegu nodyn atgoffa personol at eich Calendr eich hun i’ch atgoffa o ddigwyddiad sydd ar y gweill.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Ychwanegu Digwyddiad

Cliciwch unrhyw ddyddiad ar y calendr i ychwanegu digwyddiad [1]. Neu, cliciwch y saethau drws nesaf i enw’r mis i fynd i fis gwahanol [2] a dewis dyddiad.

Os nad ydych chi am ddod o hyd i'r dyddiad eich hun, gallwch glicio’r eicon Ychwanegu [3].

Ychwanegu Manylion Digwyddiad

Ychwanegu manylion digwyddiad

Rhowch deitl i’r digwyddiad [1].

Yn dibynnu ar sut y gwnaethoch chi ychwanegu eich digwyddiad, mae’n bosib y bydd y dyddiad wedi cael ei lenwi i chi. Os nad yw wedi’i lenwi, rhowch ddyddiad yn y maes dyddiad [2].

Mae’n bosib y bydd amseroedd y calendr wedi cael eu llenwi i chi hefyd yn y meysydd O ac I [3]. I olygu, defnyddiwch y gwymplen neu rhowch amser dechrau a gorffen ar gyfer eich digwyddiad. I greu digwyddiad diwrnod cyfan, gadewch y meysydd O ac I yn wag fel nad oes amser dechrau a gorffen ar gyfer eich digwyddiad.

Yn y gwymplen Amlder (Frequency), gallwch chi osod digwyddiadau calendr rheolaidd [4].

Os oes angen lleoliad, rhowch leoliad ar gyfer y digwyddiad [5].

Cyflwyno Digwyddiad

Cyflwyno Digwyddiad

I ychwanegu mwy o fanylion at eich digwyddiad, cliciwch y botwm Mwy o Opsiynau (More Options) [1]. Gallwch ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i ychwanegu dolenni disgrifiad neu adnodd.

Fel arall, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].