Sut ydw i’n defnyddio’r Calendr fel myfyriwr?

Mae'r Calendr yn ffordd wych i weld popeth mae angen i chi ei wneud ym mhob un o’ch cyrsiau mewn un lle. Gallwch weld digwyddiadau calendr yn ôl diwrnod, wythnos, mis, neu restr agenda. Mae'r calendr hefyd yn cynnwys mynediad i'r Trefnydd, sy'n adnodd trefnu dewisol yn Canvas.

Nodyn: Os byddwch chi’n newid eich dewisiadau iaith neu leoliad, mae’n bosib y bydd dyddiad dechrau wythnos y Calendr yn newid hefyd. Mae rhai ieithoedd neu leoliadau yn newid dyddiad dechrau wythnos y Calendr i ddydd Llun.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Gweld Calendr

Mae’r Calendr yn cynnwys pob cwrs ac mae’n dangos gwybodaeth am bob un o’r cyrsiau a’r grwpiau rydych chi wedi ymrestru arnynt. Yn y bar crwydro, gallwch ddewis gweld y calendr yn y wedd Wythnos (Week), Mis (Month) neu Agenda [1]. Mae'r wedd rydych chi'n ei dewis yn pennu arddull ffenestr y calendr [2]. Bydd y calendr yn ymddangos yn y wedd Mis (Month) yn ddiofyn.

Mae'r bar ochr [3] yn dangos calendr mae modd ei weld yn gyflym, eich rhestr o gyrsiau a grwpiau, ac eitemau heb ddyddiad ar gyfer eich cyrsiau a grwpiau.

Ychwanegu Eitemau Calendr

Ychwanegu Eitemau Calendr

Mae pob gwedd galendr yn dangos unrhyw aseiniadau neu ddigwyddiadau sydd wedi'u hychwanegu at y calendr. Mae modd ychwanegu digwyddiadau, gan gynnwys digwyddiadau rheolaidd, ac eitemau i’w gwneud at eich calendr personol ar unrhyw bryd yn y bar crwydro drwy glicio’r botwm Ychwanegu (Add).

Gweld Rhestr Calendr

Mae modd adnabod pob calendr grŵp, calendr cwrs a chalendr personol yn ôl lliw unigol sy’n llenwi’r wedd galendr. Mae eitemau calendr cysylltiedig ar gyfer pob cwrs neu grŵp i'w gweld pan fyddan nhw wedi'u dewis yn y wedd calendr [1].

Bydd y 10 calendr grŵp a chwrs cyntaf yn cael eu dewis ac yn ymddangos yn y wedd galendr yn ddiofyn. I guddio calendr, cliciwch y blwch sydd wrth ymyl enw’r calendr [2]. Mae calendrau nad ydynt ar waith yn y wedd galendr yn ymddangos fel testun sydd wedi pylu [3].

Nodyn: Bydd Canvas yn neilltuo lliw ar gyfer pob calendr oni bai fod lliw personol yn cael ei ddewis. Mae pob calendr yn cynnwys 15 o liwiau diofyn, ond gallwch fewnosod cod Hex i greu unrhyw liw o'ch dewis. Mae lliwiau sydd wedi’u gosod mewn cardiau cwrs Dangosfwrdd yn cael eu diweddaru yn y calendr hefyd.

Gweld Rhestr Digwyddiadau heb Ddyddiad

Gweld Rhestr Digwyddiadau heb Ddyddiad

Wrth ehangu’r ddolen Eitemau heb ddyddiad (Undated items), bydd hyn yn dangos rhestr o ddigwyddiadau ac aseiniadau heb ddyddiad i chi Bydd modd gwahaniaethu rhwng yr aseiniadau a’r digwyddiadau yn ôl eiconau ac yn ôl lliw'r calendr grŵp, calendr cwrs neu’r calendr personol.

Gweld Calendr yn ôl Mis

Gweld Calendr yn ôl Mis

Yn y wedd Mis (Month), cliciwch y botymau saeth [1] i symud o fis i fis. I weld digwyddiadau ar gyfer y dyddiad presennol, cliciwch y botwm Heddiw (Today) [2].

I weld dyddiad penodol, cliciwch y ddolen mis [3] a rhowch ddyddiad yn y maes dyddiad [4] neu dewiswch ddyddiad o’r calendr [5].

Gweld Aseiniadau a Digwyddiadau

Bydd aseiniadau’n cael eu dangos gydag eicon wrth ymyl teitl yr aseiniad. Mae’r eicon yn adlewyrchu'r math o aseiniad: Trafodaeth (Discussion) [1], Aseiniad (Assignment) [2], Cwis (Quiz) [3], neu Ddigwyddiadau (Events) [4]. Gall eitemau heb eu graddio sydd â dyddiad i’w gwneud ymddangos yn y calendr ar gyfer cwrs [5].

Mae cod lliw i bob eitem ar y calendr sy’n cyfateb i'r cyrsiau neu’r calendrau ar y bar ochr.

I weld manylion llawn ar gyfer aseiniad neu ddigwyddiad, ewch ati i hofran dros yr eitem [5].

Mae modd croesi allan aseiniadau calendr [6], ac mae hyn yn ffordd syml o gadw trefn ar aseiniadau. Mae aseiniadau’n cael eu croesi allan ar ôl i’r aseiniad gael ei gyflwyno. Ond fydd aseiniadau sydd wedi cael gradd, ond sydd ddim yn cynnwys cyflwyniad, ddim yn cael eu croesi allan.

Gweld Digwyddiadau Diwrnod Cyfan

Gweld Digwyddiadau Diwrnod Cyfan

Mae digwyddiadau diwrnod cyfan yn dangos yr eicon Digwyddiadau, a dydyn nhw ddim yn cynnwys amser digwyddiad penodol.

Os ydych chi am ymestyn digwyddiad diwrnod cyfan ar draws sawl diwrnod, ewch ati i hofran dros ymyl y digwyddiad nes i chi weld saeth ddu. Llusgwch eich digwyddiad ar draws yr holl ddyddiadau gofynnol yn y mis presennol.

Gweld Calendr yn ôl Wythnos

I weld y calendr yn ôl wythnos, cliciwch y botwm Wythnos (Week). Mae'r wedd Wythnos (Week) yn dangos pob eitem ar y calendr yn ôl dyddiad ac amser. Efallai y bydd rhai aseiniadau i fod wedi’u cwblhau erbyn 11:59 pm, sy'n ymddangos ar waelod y wedd calendr.

Gweld Digwyddiadau Diwrnod Cyfan

Bydd digwyddiadau diwrnod cyfan yn ymddangos ar frig wythnos y calendr. Dydy’r digwyddiadau hyn ddim yn cynnwys amser penodol ar gyfer digwyddiad.

Yn yr un modd â’r wedd Mis (Month), os ydych chi am ymestyn digwyddiad diwrnod cyfan ar draws sawl diwrnod, ewch ati i hofran dros ymyl y digwyddiad nes i chi weld saeth ddu. Llusgwch eich digwyddiad ar draws yr holl ddyddiadau gofynnol. Yn y wedd Wythnos (Week), dim ond at ddiwedd yr wythnos rydych chi’n edrych arni y gallwch chi lusgo’ch digwyddiad.

Gweld Agenda Calendr

I weld pob eitem ar eich calendr ar ffurf agenda, cliciwch y botwm Agenda.

Dod o hyd i apwyntiadau

Dod o hyd i apwyntiadau

Os ydy eich sefydliad wedi galluogi grwpiau apwyntiadau Trefnydd, gallwch gofrestru ar gyfer apwyntiad ym mar ochr y Calendr.