Sut ydw i’n newid fy nghyfrinair mewngofnodi fel myfyriwr?
Efallai y byddwch chi’n gallu newid eich cyfrinair yn eich gosodiadau proffil.
Os nad oes gennych chi fynediad i newid eich cyfrinair, mae eich cyfrinair yn cael ei reoli trwy eich sefydliad. Cysylltwch â’ch sefydliad i ddysgu sut i newid eich cyfrinair.
Os ydych chi’n gallu newid eich cyfrinair, does dim cyfnodau ailosod cyfrinair, felly gallwch chi newid eich cyfrinair cyn amled â rydych chi eisiau. Ond, gallwch chi gadw cyfrineiriau cryf yn effeithiol drwy eu newid yn aml. Dyma rai canllawiau ar gyfer cyfrineiriau da:
- Defnyddiwch o leiaf wyth nod (y mwyaf y gorau), ond bydd y rhan fwyf o bobl yn ei chael yn anodd cofio mwy na thua 15 nod.
- Defnyddiwch gymysgedd o nodau, mawr a bach, rhifau, atalnodau, bylchau a symbolau a hynny ar hap.
- Peidiwch â defnyddio gair sydd mewn geiriadur, Saesneg neu iaith arall.
Nodyn: Os byddwch chi’n anghofio eich cyfrinair, efallai y byddwch yn gallu ei ailosod. Gallwch ddysgu sut mae ailosod eich cyfrinair.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Golygu Gosodiadau
Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).
Newid Cyfrinair
Cliciwch y blwch ticio Newid Cyfrinair (Change Password) [1] i greu cyfrinair newydd. Teipiwch eich hen gyfrinair yn y maes Hen Gyfrinair (Old Password) [2]. Teipiwch eich cyfrinair newydd yn y maes Cyfrinair Newydd (New Password) [3]. Teipiwch eich cyfrinair newydd eto yn y maes Cadarnhau Cyfrinair (Confirm Password) [4].
Nodyn: Os nad oes gennych chi fynediad i newid eich cyfrinair, cysylltwch â’ch sefydliad. Bydd eich sefydliad yn gadael i chi wybod sut i newid eich cyfrinair.
Diweddaru Gosodiadau
Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).