Sut ydw i’n golygu fy mhroffil yn fy nghyfrif defnyddiwr fel myfyriwr?
Efallai y bydd rhai sefydliadau yn galluogi nodwedd o'r enw Proffiliau yn Canvas. Mae Proffiliau yn caniatáu i chi ddiweddaru eich enw, y dulliau cysylltu o’ch dewis, ac unrhyw ddolenni personol ar gyfer eich cyfrif. Bydd pob defnyddiwr ar eich cyrsiau yn gallu gweld gwybodaeth eich proffil.
Nodyn: Os na allwch chi weld y tab Proffiliau yn y ddewislen crwydro – defnyddiwr, nid yw’r nodwedd hon wedi cael ei galluogi ar gyfer eich sefydliad.
Agor Proffil
![Agor Proffil](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/849/237/original/8c683710-d715-4127-8dbd-3e508d17e95d.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Proffil (Profile) [2].
Golygu Proffil
![Golygu Proffil](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/805/530/original/a622c504-e624-42ac-88cf-3028b8560bb5.png)
Cliciwch y botwm Golygu Proffil (Edit Profile).
Nodyn: Os na allwch olygu eich proffil neu’r sianeli cyfathrebu, mae eich sefydliad wedi’u hanalluogi.
Golygu Llun Proffil
![Golygu Llun Proffil](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/805/524/original/4c97d661-8460-48c5-a37e-7e1861982f64.png)
I lwytho llun proffil i fyny, cliciwch yr eicon llun proffil.
Nodyn: Mae’r hawl ar gyfer lluniau proffil ar wahân i'r hawl ar gyfer proffiliau. Os nad ydych chi’n gweld llun dros dro, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.
Golygu Enw a Theitl
![Golygu Enw a Theitl](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/805/528/original/6ac0c13f-e1b1-487c-a00e-6fe37dbb8e20.png)
Os ydych chi’n cael newid eich enw, teipiwch eich enw yn y maes enw [1]. Teipiwch eich teitl yn y maes teitl [2].
Ychwanegu Dulliau Cysylltu
![Ychwanegu Dulliau Cysylltu](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/046/914/original/339d8420-2ec8-4bf7-acee-4a1443d76b8a.png)
Os ydych chi wedi cysylltu ag unrhyw wasanaethau gwe, cliciwch y blwch ticio o dan y gwasanaeth gwe i ddangos sut hoffech chi i’r gwasanaeth hwnnw gysylltu â chi [1]. I ychwanegu gwasanaethau ychwanegol, cliciwch y ddolen Rheoli Gwasanaethau wedi’u Cofrestru (Manage Registered Services). Sylwch na fydd unrhyw un o’r gwasanaethau dan sylw yn cael eu rhannu ag aelodau eraill o'r grŵp/cwrs oni bai eich bod wedi dewis y blwch ticio rhannu ar y dudalen Rheoli Gwasanaethau wedi’u Cofrestru.
Mae’r eicon Trafodaeth [2] yn ymddangos yn awtomatig fel dull cysylltu ar gyfer Gweinyddwyr, er mwyn i ddefnyddwyr allu cysylltu â nhw drwy adran Sgyrsiau Canvas. Ni all defnyddwyr eraill ei ddewis.
Nodyn: Gan eu bod wedi’u creu yn eich proffil defnyddiwr, ni fydd cyfeiriadau e-bost yn ymddangos fel dull cysylltu, a dim ond ar gyfer hysbysiadau Canvas y byddan nhw’n cael eu defnyddio. Dylai defnyddwyr Canvas gysylltu â’i gilydd drwy’r adran Sgyrsiau.
Golygu Bywgraffiad
![Golygu Bywgraffiad](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/790/190/original/faa44be6-f773-47ad-950b-20d65745f014.png)
Teipiwch eich bywgraffiad yn y maes bywgraffiad. Gallwch ychwanegu diddordebau a ffeithiau diddorol amdanoch chi eich hun.
Golygu Dolenni
![Golygu Dolenni](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/790/181/original/370f295d-fe5c-49a5-ad97-e90c16b59f65.png)
I ychwanegu dolenni personol at eich proffil, fel portffolios, blogiau neu wefannau personol, rhowch deitl y ddolen yn y maes teitl [1]. Teipiwch yr URL yn y maes URL [2]. Cliciwch yr eicon tynnu i ddileu'r ddolen [3]. Cliciwch y botwm Ychwanegu dolen arall (Add another link) i ychwanegu dolen arall [4].
Cadw proffil
![Cadw proffil](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/790/186/original/13b6b925-f9a2-493b-b7f1-80f01a0b0d3e.png)
Cliciwch y botwm Cadw Proffil (Save Profile).