Os yw’ch sefydliad wedi galluogi lluniau proffil, gallwch ychwanegu a newid lluniau proffil yn eich cyfrif. Os nad ydych chi’n gweld llun dros dro yn eich gosodiadau defnyddiwr, nid yw’ch sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.
Mae tair ffordd o ddewis llun proffil i’w ddefnyddio ym mhob rhan o Canvas:
Awgrymiadau ar gyfer lluniau proffil:
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Cliciwch yr eicon llun proffil.
Nodyn: Os nad ydych chi’n gweld eicon llun proffil dros dro, nid yw’ch sefydliad yn caniatáu i chi ychwanegu na newid eich llun proffil.
I lwytho llun proffil newydd i fyny, cliciwch y tab Llwytho Llun i Fyny (Upload a Picture) [1], wedyn clicio’r ddolen dewis llun (choose a picture) [2]. Gallwch hefyd lusgo llun o'ch bwrdd gwaith a'i ollwng yn yr adnodd llwytho i fyny.
Dewch o hyd i'r ddelwedd rydych chi am ei llwytho i fyny [1] a chlicio’r botwm Agor (Open) neu Pori (Browse) [2].
Defnyddiwch y blychau dewis i docio eich delwedd [1]. Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].
Nodyn: Bydd Canvas yn storio copi yn awtomatig o'r llun proffil sydd wedi'i gadw yn eich ffeiliau personol. Pan fydd llun newydd yn cael ei gadw yn eich proffil, bydd y llun newydd yn disodli ffeil eich hen lun yn eich ffeiliau personol.
I dynnu llun i’w ddefnyddio fel eich llun proffil, cliciwch y tab Tynnu Llun (Take a Picture) [1], wedyn clicio’r botwm Tynnu Llun (Take Picture) [2].
Nodyn: Yn ddibynnol ar eich porwr, efallai y bydd angen i chi ganiatáu i Canvas gael mynediad at eich camera. Does dim modd defnyddio'r opsiwn Tynnu Llun os ydych chi’n defnyddio Safari neu Internet Explorer.
I dynnu llun arall, cliciwch y botwm Rhoi cynnig arall arni (Retry) [1]. Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].
Os yw eich sefydliad yn caniatáu i chi ddefnyddio Gravatars a bod gennych chi gyfrif Gravatar, gallwch fewngludo Gravatar sy'n bodoli eisoes i'w ddefnyddio fel eich llun proffil.
Cliciwch y tab O Gravatar (From Gravatar) [1] a rhoi’ch cyfeiriad e-bost Gravatar yn y maes a ddarperir [2]. Cliciwch y botwm Rhagolwg (Preview) i weld eich Gravatar. Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Nodyn: Cyn ychwanegu llun yn eich cyfrif Gravatar, bydd yn rhaid i’r llun gael ei asesu. Sylwch mai dim ond lluniau Gravatar cwbl addas y mae modd eu dangos fel llun proffil Canvas.
Y llun proffil rydych chi wedi'i ddewis fydd yn ymddangos yn hytrach na’r llun proffil dros dro.
Mae lluniau proffil wedi’u cysylltu â’ch ffeiliau personol, felly gallwch eu dileu’n hawdd er mwyn cael gwared â hen luniau proffil.
Nodyn: Does dim modd dileu delweddau Gravatar o’ch cyfrif drwy eich ffeiliau personol. Fodd bynnag, mae modd disodli delweddau Gravatar â delwedd sydd wedi'i llwytho i fyny neu lun a dynnwyd gan ddefnyddio’r opsiwn Tynnu Llun.
I ddileu llun proffil, cliciwch y ddolen Ffeiliau (Files).
Wrth ymyl y ffeil rydych chi am ei dileu [1], cliciwch yr eicon Opsiynau [2] wedyn clicio'r ddolen Dileu (Delete) [3].